Arts Hub.jpg

Y gwanwyn hwn mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon  wedi datblygu Hwb y Celfyddydau, llwyfan rhestru ar-lein i helpu pobl i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am weithgareddau celfyddydol a chreadigol ledled Casnewydd.

Maent nawr yn estyn allan at artistiaid a sefydliadau lleol i ymuno â'r Hwb a thynnu sylw at sin celfyddydol amrywiol Casnewydd a'r cyfan sydd ganddo i'w gynnig.

Wedi'i ddisgrifio fel 'Tudalennau Melyn' ar gyfer y celfyddydau yng Nghasnewydd, crëwyd yr Hwb i amlygu a hyrwyddo artistiaid, grwpiau a sefydliadau celfyddydol lleol. Gallwch gofrestru ac ychwanegu eich rhestriad creadigol am ddim, a bydd yn cael ei arddangos o dan ystod o gategorïau i'w gwneud yn haws i'r cyhoedd ddod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano. 

Dim ond nawr mae’r Hwb yn cael ei boblogi, ond mae eisoes yn cynnwys aelodau gan gynnwys Operasonic, Ballet Cymru, Stiwdio Gerdd COBRA, Phrame Cymru, Grŵp Awduron Casnewydd, Live Music Now a'r artist a'r ffotograffydd Kate Mercer.

Hoffai Glan yr Afon gynnwys cynifer o'u partneriaid a sefydliadau lleol â phosibl ar Hwb y Celfyddydau ac adeiladu cronfa ddata o adnoddau celfyddydol a fydd yn helpu pobl Casnewydd i gadw mewn cysylltiad â'r celfyddydau a chreadigrwydd ar adeg pan fo cyswllt wyneb yn wyneb yn gyfyngedig. Mae cymaint o waith gwych yn digwydd gan amrywiaeth o sefydliadau anhygoel ac maent am ei gwneud yn haws i unigolion allu dod o hyd iddo a'i fwynhau.

Unwaith y bydd yr Hwb yn llawn rhestriadau bydd Glan yr Afon yn ei hyrwyddo'n eang i'r cyhoedd, gan fod o fudd hefyd i'r sefydliadau a'r unigolion a restrir. Bydd yr ymgyrch yn cynnwys hyrwyddo digidol drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw, e-byst a hysbysebu digidol â thâl yn ogystal ag ymgyrch bost ffisegol a sylw yn y wasg. Bydd detholiad o restriadau hefyd yn ymddangos ar y sgriniau teledu digidol ar draws holl safleoedd Casnewydd Fyw, a bydd rhan o lyfryn tymor nesaf Glan yr Afon yn cael ei neilltuo i'r Hwb a rhai o'i aelodau.

Os ydych yn artist, theatr leol, sefydliad diwylliannol, ymarferydd llawrydd, yn cynnal gweithdai creadigol, yn ŵyl leol neu'n helpu cymunedau ledled Casnewydd i gymryd rhan yn y celfyddydau a chreadigrwydd, yna mae Glan yr Afon eich angen chi!

Ymunwch â Hwb y Celfyddydau nawr yn https://hub.newportlive.co.uk/register/ a chofrestru fel cyfranogwr newydd.

Byddwch wedyn yn gallu creu eich cyfrif eich hun a llenwi eich rhestriad ar yr hwb, sy'n cynnwys y cyfle i ddisgrifio pwy ydych chi, beth rydych chi'n ei wneud ac ychwanegu dolenni i'ch gwefan a sut y gall pobl gysylltu â chi. Mae'r broses gofrestru yn cymryd llai na 5 munud i'w chwblhau, ac unwaith y bydd wedi'i chymeradwyo bydd y rhestriad yn fyw ar-lein i bawb ei weld.

Gallwch archwilio'r Hwb a'i holl aelodau presennol yma: https://www.newportlive.co.uk/cy/Theatr-a-Chelfyddydau/Hwb-y-Celfyddydau/

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr Hwb a manteision ymuno, cysylltwch â thîm Glan yr Afon ar hub@newportlive.co.uk

Gwnaed Hwb y Celfyddydau yn bosibl diolch i gais llwyddiannus i Gronfa Sefydlogiad ar gyfer Sefydliadau Cyngor Celfyddydau Cymru.