Mae'r haf bob amser yn amser gwych i symud a theimlo'n fwy heini ac yn iachach.  Yng Nghasnewydd Fyw rydym yn cynnig cymorth 1 i 1 AM DDIM i'n holl aelodau i'ch helpu i gael y gorau o'ch aelodaeth a theimlo eich gorau drwy gydol y flwyddyn!

Mae aelodaeth Casnewydd Fyw yn eich galluogi chi i fanteisio ar y campfeydd, y pyllau nofio a’r dosbarthiadau ymarfer corff a geir ym mhob un o'n canolfannau.    Fel rhan o'ch aelodaeth, gallwch hefyd fanteisio ar gymorth ffitrwydd personol am ddim, gan gynnwys croeso i aelodau, archwiliad iechyd, rhaglen (cynllun ffitrwydd), ymgynghoriad hyfforddwr ac wrth gwrs sesiwn 30 munud 1 i 1 wythnosol gyda hyfforddwr ffitrwydd.

Mae gan aelodau Casnewydd Fyw hawl i docyn sinema 2 am 1 i bob ffilm yn Sinema Glan yr Afon fel rhan o'u haelodaeth yn ogystal â gostyngiadau ar sioeau dethol yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon.

Bydd Oedolion a Phlant Iau (11 – 17 oed) sy'n ymuno cyn 31 Awst 2022 yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill aelodaeth ffitrwydd 3 mis.

Gwled Aelodaeth 

Dim contractau! Dim ffioedd ymaelodi!

Peidiwch ag oedi! Ymunwch â ni heddiw!

Prisiau Aelodaeth

Mae’r cynnig hwn ar gael i’r aelodaeth isod yn unig.

Oedolion

Aelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed.

£35 /mis
£315 /blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Oedolion ar Amseroedd Tawelach

Aelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed. Oriau tawelwch yw hyd at 4pm bob dydd. 

£22.50 /mis
£202.50 /blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Dros 60 oed

Aelodaeth lawn i oedolion rhwng 60 oed a throsodd.

£21 /mis
£189 /blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Consesiynau

Rydym yn cynnig aelodaeth ratach i'r rhai ar fudd-daliadau penodedig a myfyrwyr.

£18.95 /mis
£170.55 /blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Gwasanaethau Argyfwng a’r Lluoedd Arfog

Fe wnaethon ni gynnig aelodaeth â gostyngiad i weithwyr y gwasanaeth argyfwng, gweithwyr y GIG a phersonél y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr.  

£29 /mis
£261 /blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Pobl ifanc

Aelodaeth lawn i’r rhai 11 i 16 oed. 

£17.50 /mis
£157.50 /blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr
Telerau ac Amodau: Dim ond un cais y caiff pob person ei wneud. Fyddwn ni ddim yn ystyried mwy nag un gan yr un person. Bydd un oedolyn yn ennill ei aelodaeth Ffitrwydd Oedolion am ddim am 3 mis a bydd un person iau (11-17 oed) yn derbyn Aelodaeth Ffitrwydd Iau am ddim am 3 mis. Mae telerau ac amodau Aelodaeth arferol yn berthnasol sydd i’w gweld yn newportlive.co.uk/terms-conditions. Ni ellir trosglwyddo'r wobr, ac ni chynigir unrhyw ddewis arall o arian parod. Nid yw costau teithio sy'n gysylltiedig â'r wobr hon wedi'u cynnwys. I fod yn gymwys ar gyfer y raffl, rhaid i chi brynu aelodaeth Ffitrwydd Oedolion neu Ffitrwydd Iau Casnewydd Fyw bob mis, 3 mis neu flynyddol rhwng 1 Mehefin 2022 a 31 Awst 2022 drwy wefan Casnewydd Fyw, drwy ffonio 01633 656757 neu wrth dderbynfa o unrhyw leoliad Casnewydd Fyw. Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys gan Casnewydd Fyw a chysylltir ag ef neu hi dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 72 awr i gynnal y raffl gyda manylion am sut i hawlio’r wobr.  Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd cyn pen 7 diwrnod, mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i ddewis enillydd arall ar hap o blith yr holl gystadleuwyr cymwys eraill. Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y diwrnod a’r amser cau eu derbyn. Ni fydd ceisiadau anghyflawn yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth. Rydych chi hefyd yn cytuno, os mai chi yw un o'r enillwyr, y gallwn ddefnyddio eich manylion wrth gyhoeddi canlyniad y gystadleuaeth, gan gynnwys defnyddio eich enw. E-bostiwch customerservice@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757 os byddai'n well gennych i ni beidio â gwneud hyn. Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i aelodau staff, gwirfoddolwyr, Cyfarwyddwyr Casnewydd Fyw na’u teuluoedd agos.  Mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i dynnu’r gystadleuaeth hon yn ôl neu ei diwygio ar unrhyw adeg heb rybudd.

PÀS 5 DIWRNOD AM DDIM

Os nad ydych wedi penderfynu eto, rhowch gynnig arnom ni AM DDIM am 5 diwrnod. Mae tocyn 5 diwrnod am ddim ond ar gael i gwsmeriaid newydd nad ydynt wedi cael tocyn 5 diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf.

Cael eich Tocyn 5 Diwrnod am Ddim