Mae tîm ffitrwydd Casnewydd Fyw wedi bod yn darparu dosbarthiadau ymarfer corff byw am ddim trwy Zoom i roi cyfle i bobl aros yn Iach ac yn Egnïol Gartref tra bo lleoliadau’n dal ar gau i’r cyhoedd fel rhan o’r ymdrech genedlaethol i ddod â choronafeirws o dan reolaeth.

Mae’r dosbarthiadau’n cynnwys Body Blast, Kettlebells, Yoga yn ogystal ag ystod o ddosbarthiadau dwysedd isel fel Easy Movers a Functional Flow i’r rhai dros 60 oed neu ar gyfer pobl sy’n chwilio am ymarfer corff dwysedd is. Mae mynychu dosbarthiadau ymarfer corff byw ar Zoom am ddim ar hyn o bryd ac maent yn agored i bawb.  Caiff amserlen y dosbarthiadau a chyfarwyddiadau ymuno eu cyhoeddi bob wythnos ar wefan Casnewydd Fyw ac ar dudalennau Facebook a Twitter Casnewydd Fyw.

Dywedodd Bryony Gurmin, Rheolwr Iechyd Ffitrwydd a Lles  Casnewydd Fyw “Rydym wedi lansio ein dosbarthiadau Zoom i helpu pobl i aros yn Iach ac yn Egnïol Gartref tra na allant wneud ymarfer corff yn ein canolfannau hamdden. Mae dosbarthiadau’n amrywio o ddwysedd uchel i isel ac maent yn cynnwys Yoga, Functional Flow ac Easy Movers, mae gennym gymysgedd dda o ddosbarthiadau felly mae rhywbeth i bawb!

“Rydym wedi cael ymateb anhygoel i’n dosbarthiadau ar-lein hyd yn hyn, mae wedi magu momentwm a bu’n fendigedig gweld sut mae rhyngweithio cymdeithasol ymarfer corff ar-lein wedi helpu i ddatblygu cyfeillgarwch ar adeg o unigedd i lawer. Mae un o’n cyfranogwyr hyd yn oed yn codi i wneud hyn am 5am yn America!”

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw “Rydym yn gwybod bod gwneud ymarfer corff a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol mor hanfodol i iechyd a lles pobl, yn enwedig ar yr adeg anodd hon, ac mae’n wych gallu cefnogi pobl trwy sesiynau ar-lein fel y gallant ymarfer yn ddiogel pan fyddant gartref.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu cwsmeriaid yn ôl i’n dosbarthiadau a’n cyfleusterau pan fydd yn ddiogel gwneud hynny, ond yn y cyfamser mae hon yn ffordd wych i bobl barhau â’u dosbarthiadau rheolaidd ar-lein a chadw mewn cysylltiad â’u hoff hyfforddwyr.”

Hyd yn hyn mae’r sefydliad elusennol wedi cael dros 190 o gyfranogwyr yn mynychu dosbarthiadau ymarfer corff byw ers iddynt eu lansio yn ôl yn mis Chwefror ac mae hyd yn oed rhai cyfranogwyr wedi ymuno â nhw o America. Mae lansio dosbarthiadau ymarfer corff byw drwy Zoom yn rhan o Hapus ac Iach Gartref Casnewydd Fyw sy’n cefnogi lles pobl trwy ddarparu adnoddau ar-lein a fydd yn helpu pobl  i gadw’n heini ac yn iach, cefnogi lles corfforol a meddyliol cadarnhaol ac ysbrydoli creadigrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ddosbarthiadau ymarfer corff byw Casnewydd Fyw gan gynnwys amserlen y dosbarthiadau a chyfarwyddiadau ymuno gweler gwefan Casnewydd Fyw newportlive.co.uk/cy/Chwaraeon-a-Lles/Hapus-ac-Iach-o-Gartref neu facebook.com/NewportLiveUK a @NewportLiveUK ar Twitter.