O 8am ddydd Iau 9 Gorffennaf, bydd Casnewydd Fyw yn ailagor ei chyrtiau tennis awyr agored yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd. Mae'r cyhoeddiad yn dilyn diweddariad gan Lywodraeth y DU ddiwedd mis Mehefin y gellid ailddechrau rhai campau awyr agored.
Mae'r cyrtiau tennis awyr agored ar gael ar gyfer hyd at 4 o bobl o ddim mwy na 2 aelwyd ac mae modd eu cadw ar gyfer chwarae rhwng 8am ac 8pm am gost o £5 ar gyfer 50 munud.

Gall cwsmeriaid gadw cyrtiau trwy wefan Casnewydd Fyw neu app Casnewydd Fyw. Wrth ddefnyddio'r cyrtiau, mae'n ofynnol i chwaraewyr ddilyn canllawiau COVID-19 ychwanegol, a gaiff eu hanfon atynt, er mwyn cadw eu hunain a phobl eraill mor ddiogel â phosibl.

Mae ailagor cyrtiau awyr agored Casnewydd Fyw yn galluogi aelodau o'r cyhoedd i ddefnyddio’r cyfleusterau am y tro cyntaf ers iddynt gau ddydd Gwener 20 Mawrth oherwydd argyfwng y coronafeirws. Er bod eu cyfleusterau eraill yn parhau i fod ar gau, mae'r sefydliad yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llenni i baratoi ei wasanaethau eraill ar gyfer ailagor, gan gynnwys glanhau a pharatoi ei ganolfannau, diweddaru'r broses gadw, diwygio amserlenni a rhoi mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith; y cyfan i sicrhau diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr unwaith y caniateir ailagor y canolfannau.

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Ar ôl i’n gwasanaethau a’n cyfleusterau fod ar gau am dros 100 niwrnod, mae'n wych gallu croesawu rhai o'n cwsmeriaid yn ôl i'n cyrtiau awyr agored. Rydym yn dilyn cyngor y Llywodraeth a'r sector yn ofalus ac rydym yn brysur yn paratoi gweddill ein cyfleusterau i groesawu ein haelodau a'n defnyddwyr yn ôl. Yn y cyfamser rydym yn falch iawn o fod wedi gallu cefnogi projectau hanfodol fel rhaglen adsefydlu COVID-19 sy'n cael ei chyflwyno gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn y felodrom a dychweliad rhai o athletwyr elít Cymru i hyfforddi, athletwyr sydd â’r potensial i gystadlu yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd ac yng Ngemau’r Gymanwlad."

Mae adeiladau Casnewydd Fyw hefyd wedi'u defnyddio i gefnogi'r gymuned ehangach, gan gynnwys darparu cyfleusterau hyfforddi ar gyfer athletwyr elít Cymru yn y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol a chynnal rhaglen adsefydlu ôl-COVID-19 gyntaf Cymru yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Mae Casnewydd Fyw hefyd wedi croesawu'r Rhaglen Addysg Amgen yn ôl yn Stadiwm Casnewydd yn dilyn ailagor ysgolion o ddydd Llun 29 Mehefin.

Mae Casnewydd Fyw hefyd wedi bod yn rhannu gweithgareddau ac ymarferion ar eu gwefan i helpu eu cwsmeriaid i gadw’n heini tra byddant gartref, ynghyd â chynnwys arall i gynorthwyo pobl i gadw Yn Hapus ac yn Iach Gartref.

dysgu mwy a chadw cwrt yma