
Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol Prydain 2022 yng Nghasnewydd, a gynhelir rhwng 3 a 6 Mawrth, gyda phrisiau’n dechrau am £5.
Bydd y digwyddiad, sy'n cael ei gynnal yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, yn gweld beicwyr trac gorau Prydain yn brwydro am jyrsis y pencampwyr cenedlaethol, gyda phencampwyr diweddar yn cynnwys enillwyr medalau aur Olympaidd Tokyo Katie Archibald, Jason Kenny a Laura Kenny.
Bydd tocynnau eistedd i’r digwyddiad yn amrywio o £10 - £15 y sesiwn, gyda thocynnau sefyll hefyd ar gael am £5 - £10. Mae prisiau consesiynol ar gael i'r rhai dan 16 oed neu dros 65 oed, tra bod cynigion pellach yn cynnwys tocyn diwrnod eistedd am £20 a thocyn penwythnos llawn am £45.
Rhys Britton o Bontypridd yw pencampwr cenedlaethol y ras bwyntiau, a chyrhaeddodd y llwyfan seiclo trac rhyngwladol y llynedd gyda medal efydd yn y ras safonol ym Mhencampwriaethau Beicio Trac yr UCI yn Roubaix. Dywedodd:
"Mae'n wych gweld digwyddiad mor fawreddog yn mynd i Gymru, gan roi cyfle i lawer o feicwyr a chefnogwyr wylio beicio trac o'r radd flaenaf yn fyw am y tro cyntaf.
"Ar ôl blwyddyn fawr yn 2021 rwy'n edrych ymlaen at amddiffyn fy nheitl cenedlaethol o flaen torf gartref a dechrau'r flwyddyn yn gryf, wrth i mi adeiladu tuag at Gemau'r Gymanwlad yr haf."
Gan wella statws y ddinas ymhellach fel cyrchfan ar gyfer diwylliant, hamdden a chwaraeon, bydd beicwyr yn sicr o gael croeso cynnes, a fwynhawyd gan lawer o feicwyr Tîm Beicio Prydain Fawr yn flaenorol wrth reidio yn y lleoliad yn ystod eu gwersylloedd Olympaidd a Pharalympaidd cynhaliol.
Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:
"Mae Cyngor Dinas Casnewydd a Chasnewydd Fyw yn falch bod digwyddiad mor fawreddog yn cael ei gynnal yn un o'r lleoliadau chwaraeon blaenllaw yn ein dinas.
"Rwy'n siŵr y bydd trigolion ymhlith y rhai sy'n rhuthro i gael tocynnau i wylio rhai o feicwyr gorau'r byd wrthi fis nesaf."
Bydd y mesurau lliniaru Covid sydd ar waith yn y digwyddiad yn cael eu cadarnhau maes o law.
I gael gwybod mwy a phrynu tocynnau, cliciwch yma.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Canllawiau COVID-19
Pàs COVID-19
Os ydych yn 18 oed neu’n hŷn, bydd gofyn i chi gyflwyno eich statws Covid pan fyddwch yn dod i’r ganolfan, yn un o’r dulliau canlynol:
-
Trwy bàs Covid digidol y GIG - https://gov.wales/get-your-nhs-covid-pass. Os na allwch ddefnyddio pàs Covid digidol y GIG, gallwch ofyn am un trwy ffonio 0300 303 5667
-
Fersiwn bapur o bàs Covid y GIG – nid yw hyn yn cynnwys cardiau brechu
-
Cadarnhad o ganlyniad prawf negatif trwy e-bost neu neges destun a ddarparwyd gan gov.uk (dim hŷn na 48 awr)
-
Cadarnhad o brawf positif o fewn y 6 mis diwethaf a ddilynwyd gan y cyfnod priodol o ynysu h.y. 10 diwrnod) - gellir dangos tystiolaeth o hyn yn y Pàs Covid neu drwy neges destun neu e-bost
Tracio, Olrhain, Diogelu
At ddibenion Tracio, Olrhain, Diogelu dylech gofrestru eich presenoldeb yn y lleoliad trwy sganio'r codau QR wrth ein mynedfa.
Gorchuddion Wyneb
Mae gorchuddion wyneb yn orfodol ar gyfer unrhyw wylwyr sy’n 11oed neu’n hŷn oni bai eich bod wedi'ch eithrio. Gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o’ch eithriad.
Teithio a Pharcio
Bydd lle parcio cyfyngedig ar gael yn Felodrom Genedlaethol Cymru Geraint Thomas a Stadiwm Casnewydd.
Ceir rhagor o fanylion am gyrraedd y lleoliad a hygyrchedd yma