Llwybr Camau Achredu
Gwnewch eich ffordd o fod yn Ddechreuwr i Gam 4 neu fynd cyn belled ag y dymunwch; mae gennym sesiynau galw heibio ar gyfer pob cam.
Cyflwyniad i’r Trac
Cyflwyniad gwych i feicio trac i ddechreuwyr; dim angen profiad blaenorol. Caiff beicwyr gyfarwyddyd llawn ar sut i reoli beic olwynion sefydlog a sut i feicio ar y trac pren serth. Dyfernir achrediad Cam 1 ar ôl i feiciwr fodloni'r meini prawf.
Dechreuwr
Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar wella sgiliau a magu hyder, cyflwyno beicio mewn grŵp a newid mewn llinell. Dyfernir achrediad Cam 2 ar ôl i feiciwr fodloni'r meini prawf.
Gwella
Mae’r cam hwn yn mireinio sgiliau beicio mewn grŵp ac yn cyflwyno amrywiaeth o ddriliau a fydd yn ymestyn sgiliau a ffitrwydd beicwyr. Dyfernir achrediad Cam 3 ar ôl i feiciwr fodloni'r meini prawf.
Achrediad Ras
Bydd gofyn i feicwyr sydd am gymryd rhan yng nghynghrair trac Casnewydd Fyw fynd i sesiwn achrediad ras lle asesir sgiliau sy’n benodol i rasio. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys rasys ffug ac adborth gan yr hyfforddwr.
Cofiwch, bydd rhaid i hyfforddwr cam blaenorol neu sesiynau galw heibio gymeradwyo beicwyr os ydynt am gael prawf achredu. Nid yw’n bosibl mynychu sesiynau achredu heb hyn.
Dylai beicwyr sydd â chwestiynau am y broses achredu, neu feicwyr sydd â phrofiad Felodrom awyr agored ac sydd am feicio dan do, gysylltu â ni ar 01633 656757 a gofyn am y Tîm Beicio.
Oes gennych chi gwestiwn am ein llwybr?
Cymerwch olwg ar atebion i rai o'n cwestiynau mwyaf cyffredin.
Cwestiynau CyffredinSesiynau Galw Heibio ar gyfer Beiciwyr sy’n Oedolion
Mae tair sesiwn yn addas i feicwyr 14 oed a hŷn. Mae’n bosibl cadw lle mewn sesiynau 7 diwrnod ymlaen llaw.
Os oes gennych gyfrif ar-lein Casnewydd Fyw, archebwch sesiynau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Neu gallwch ein ffonio ar 01633 656757 neu anfon e-bost atom yn customerservice@newportlive.co.uk
CAM 2+
Beicwyr Bendigedig
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at feicwyr sy'n chwilio am sesiwn dygnwch gydag awyrgylch mwy hamddenol gan dreulio llai o amser ar ymarferion dwysedd uchel.
Addas i feicwyr 14 oed a hŷn.
Dydd Llun: 2 - 4pm
Cost: £13.50
Archebwch NawrSesiwn i Ddechreuwyr
Dyma sesiwn galw heibio ddelfrydol i’r rhai sydd wedi cwblhau’r sesiwn i Ddechreuwyr (Cam 2) ac sydd nawr am fireinio’u sgiliau a gwella’u ffitrwydd cyn mynd ymlaen i sesiwn Gwella (Cam 3).
Gellir defnyddio'r sesiwn fel sesiwn galw heibio i feicwyr sydd ag achrediad Cyflwyniad i’r Trac (Cam 1).
Dydd Llun: 7 - 8.30pm
Cost: £20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.
Archebwch NawrSesiwn Gwella
Sesiwn galw heibio sy’n ddelfrydol i'r rhai sydd wedi cwblhau sesiynau Dechreuwyr (Cam 2) a Gwella (Cam 3) ac sy'n awyddus i fireinio eu sgiliau a gwella eu ffitrwydd cyn dechrau sesiynau galw heibio Cam 3 neu Achrediad Ras (Cam 4).
Gall beicwyr ddefnyddio’r sesiwn hon fel sesiwn galw heibio i fagu hyder neu ymarfer eu sgiliau a’u technegau.
Dydd Llun: 8.30 - 10pm
Cost: £20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.
Archebwch NawrBeicwyr Brwd
Mae hon yn sesiwn galw heibio sy’n ddelfrydol i'r rhai sy'n awyddus i fireinio eu sgiliau a gwella eu ffitrwydd cyn symud ymlaen i gam nesaf eu hachrediad.
Gellir ei defnyddio hefyd fel sesiwn galw heibio gyda'r nos i feicwyr mwy profiadol.
Dydd Mawrth: 7 - 9pm
Cost: £13.50
Archebwch NawrCam 3+
Sesiwn Gwella
Sesiwn galw heibio sy’n ddelfrydol i'r rhai sydd wedi cwblhau sesiynau Dechreuwyr (Cam 2) a Gwella (Cam 3) ac sy'n awyddus i fireinio eu sgiliau a gwella eu ffitrwydd cyn dechrau sesiynau galw heibio Cam 3 neu Achrediad Ras (Cam 4).
Dydd Llun: 8.30 - 10pm
Cost: £20 sy’n cynnwys llogi beic ac esgidiau.
Archebwch NawrSesiwn Galw Heibio Amser Cinio
Bydd y sesiwn hon yn cael ei harwain gan hyfforddwyr ac yn canolbwyntio ar ddycnwch. Mae croeso i feicwyr sbrint fynychu a gwneud eu hymdrechion eu hunain yn ystod y cyfnodau egwyl.
Dydd Mawrth a Dydd Iau: 12 - 2pm
Cost: £13.50
Archebwch NawrSesiwn Galw Heibio’r Bore
P'un a ydych chi’n chwilio am sesiwn ymarfer corff dda neu'n chwilio am dro hamddenol o amgylch y trac mae'r sesiwn hon yn addas i feicwyr sy'n ceisio gwella eu ffitrwydd a'u sgiliau yn barod ar gyfer Achrediad Ras (Cam 4).
Addas i feicwyr 14 oed a hŷn.
Dydd Mercher: 7 - 9am
Cost: £13.50
Archebwch NawrClwb Profiadol
Sesiwn hyfforddi ar gyfer dynion 35 oed a hŷn a menywod o unrhyw oed a fydd yn canolbwyntio ar ymdrechion dycnwch gyda rhai ymdrechion dwys.
Mae croeso i sbrintwyr yn ystod misoedd yr haf neu os ydynt wedi cael cadarnhad gan yr hyfforddwr ymlaen llaw.
Dydd Gwener: 6 - 8pm
Cost: £13.50
Archebwch NawrCam 4+
Nosweithiau Rasio
Mae Nosweithiau Ras Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn cynnwys Cynghrair A, cynghrair Cyflwyniad i Rasio, a chynghrair Meistri 30+ i Ddynion a Menywod (o bob oed).
Bob dydd Mawrth o fis Hydref i fis Mawrth. Cymerwch olwg ar dudalen digwyddiadau British Cycling am fanylion.
Cost: £15 y sesiwn + £1 Ffi Ymgeisio
Archebwch NawrBeicio Trac i Bobl Ifanc
Mae gennym ystod o sesiynau ar gyfer plant 9 i 15 oed i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a mynd ar y trac.
Mwy o wybodaeth