oriel glan yr afon

Mae Oriel Glan yr Afon yn cynnal sbectrwm eang o arddangosfeydd celfyddydol amrywiol a chyffrous drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn falch i gynnal arddangosfeydd gan artistiaid proffesiynol a datblygol, cerflunwyr, grwpiau cymunedol, ac ysgolion. O ffotograffiaeth i ffilm, tecstiliau i graffeg, celfyddyd gain i gelfyddyd perfformio, mae'r oriel yn llwyfan perffaith i arddangos gwaith i'r cannoedd o ymwelwyr sy'n dod i Lan yr Afon bob wythnos.

arddangosfeydd cyfredol...

Self portrait painting

Awaaz (Voice)

In her second solo exhibition, feminist artist Prith B, presents us with a series of portraits of women.

Many of her subjects gaze directly at the viewer, rewriting the narrative of women as passive objects to be observed. Through their gaze, they challenge the status quo and encourage a new dialogue with viewer, drawing them into a shared moment of reflection, understanding and connection.

Who are these women, what are their stories?

The artist does provide some answers to this question in the form of short audios which are easily accessible using a mobile.

This exhibition is rich in colour and narrative - a must see.

Opening Date: 1 November 2023

Closing Date: 20 November 2023

Location: Main Art Gallery

winterfield.jpg

Tirweddau ar Yr Ymyl

Cyfres o ffotograffau du a gwyn a lliw, a dynnwyd ar Wastadeddau Gwent gan Martin Wilcox dros y tair blynedd diwethaf. Mae rhywfaint o farddoniaeth neu ryddiaith i bob ffotograff, gobeithio, yn gwella naws y delweddau a dynnwyd yn y dirwedd hynafol hon o ffosydd draenio, cyrs a chorsydd.

Mae Martin wedi bod yn tynnu lluniau ers dros hanner can mlynedd ac mae wedi cyhoeddi ac arddangos gwaith yn ogystal â darparu cannoedd o luniau ar-lein gydag asiantaeth luniau fawr. Ei angerdd yw ffotograffiaeth ddu a gwyn gyda threulio oriau lawer yn yr ystafell dywyll yn y blynyddoedd cynnar, ond erbyn hyn, diolch byth, mae llawer mwy o amser yn cael ei dreulio y tu allan yn tynnu lluniau diolch i'r oes ddigidol.

Dyddiad Agor: 3 Hydref 2023

Dyddiad Cau: 9 Tachwedd 2023

Lleoliad: Oriel y Mezzanine

Black silhouette over colourful background with the wording 'may Love Be What You Remember Most'

May love be what you remember most gan CONSUMERSMITH

Mae'r darn hwn, 'May love be what you remember most,' yn sefyll fel cofeb am fywyd a gollwyd yn ddiweddar. Yr henoed, y rhai sy'n agored i niwed, y bobl sy’n hunan-ynysu, y bobl unig, y gweddwon, y bobl mewn gofal na ellir ymweld â hwy drwy'r anhrefn byd-eang hwn a'r oes newydd.  

Fe'i gosodwyd yn wreiddiol ar y stryd ond yna symudodd i'w leoliad presennol yng Nglan yr Afon, lle gellir ei weld o'r tu allan drwy'r gwydr. 

 

Mae AJ Smith, sydd fel artist yn mynd o dan yr enw CONSUMERSMITH, yn creu gwaith sy'n llamu rhwng mynegiant haniaethol cyfoes a phortreadau celf pop/stryd. Mae'n beintiwr cyson sydd wedi gwerthu a chreu gwaith ledled y byd ac sy'n parhau i werthu a chreu gwaith ar gyfradd gyson - o gomisiynau preifat ar bapur neu gynfas i furluniau bach a mawr ar gyfer eiddo masnachol, ysgolion a chartrefi. Gyda'i wreiddiau mewn graffiti a chelf stryd, mae CONSUMERSMITH yn gwthio ffiniau hunanfynegiant gyda gwaith bywiog sy'n llawn symudiad, lliw a rhyddid.      

"Mae symudiad a lliw yn deall ei gilydd'' - Consumersmith  

Arddangosfeydd y gorffennol...

Glenn Edwards David Pearce

Bocsiwr Casnewydd

Mae'r arddangosfa hon yn dangos lluniau a dynnwyd gan Glenn Edwards pan oedd yn fyfyriwr. Maen nhw'n dogfennu bywyd David Pearce o Gasnewydd, mewn byd oedd mor wahanol. Roedd David Pearce yn focsiwr lleol ddaeth yn Bencampwr Pwysau Trwm Prydain pan drechodd Neville Meade yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd ym 1983. Mae'r delweddau hyn yn ei ddilyn yn hyfforddi, a gyda’i deulu a'i ffrindiau, a'r frwydr a'i trodd yn un o Eiconau Casnewydd.  Mae cerflun David Pearce y drws nesaf i Lan yr Afon ar lannau afon Wysg. 

Dyddiad Agor: 5 Medi 2023

Dyddiad Cau: 5 Hydref 2023

Lleoliad: Prif Oriel Gelf

MotMC comp entry 6 (printable version).jpg

Arddangosfa Diwrnod y Lluoedd Arfog 2023

Yr arddangosfa yw penllanw prosiect gwaith celf a luniwyd gan blant milwyr ar draws gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru.

Crëwyd y gwaith celf ar gyfer cystadleuaeth ac roedd yn canolbwyntio ar ddylunio portread teuluol yn dangos eu rhiant mewn gwisg filwrol, gyda’r ffrâm o gwmpas yn rhoi cipolwg ar eu taith fel teulu’r lluoedd arfog.

Roeddem am ddangos nid yn unig gydnabyddiaeth i bersonél y lluoedd arfog ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ond hefyd i'w teuluoedd a'r aberth maen nhw’n ei wneud hefyd. Hoffem ddiolch i holl blant y Lluoedd Arfog a roddodd o'u hamser i ddylunio darnau arbennig o gelf ac am fod mor wych, ac i'w hathrawon a'u rhieni am unrhyw gefnogaeth a roddwyd.

Dyddiad Agor: 24 Mehefin 2023

Lleoliad:   Oriel Mesanîn

Art Gallery. Black and Blue. Adian Cyril cropped.jpg

Du a Glas: Celf Gyfoes o Safbwynt Du

Mae gwaith Adians yn ymdrin â materion amrywiol.  Mae'n cynnwys portreadau gyda naws gyfoes yn bennaf.  Lliw yw'r ysgogiad gweledol i'r rhai sy'n edrych ar y gwaith.

 Nod Adian yw defnyddio pob pwnc yn emosiynol er mwyn rhoi mynegiant ac ymateb personol i'r gwaith. Mae'n gobeithio bydd y gwyliwr yn cymryd rhan ar lefel ysbrydol i ffurfio eu casgliadau ei hunain i bob un o'i ddarnau. 

Dyddiad Agor: 29 Mai 2023

Dyddiad Cau: 30 Mehefin 2023

Lleoliad: Prif Oriel Gelf

coleg gwent exhibition

Coleg Gwent: Celf a Dylunio

Mae Coleg Gwent, Campws Dinas Casnewydd yn eich gwahodd i ymuno â nhw, i ddathlu cyflawniadau eu myfyrwyr Celf a Dylunio talentog. Mae'r arddangosfa'n cynnwys gwaith ar draws cyrsiau’r pedair lefel, ar draws amrywiaeth o arbenigeddau artistiaid.

Cynhelir noson lansio'r arddangosfa ddydd Iau 15 Mehefin 6pm - 8pm

Dyddiad Agor: 15 Mehefin 2023

Dyddiad Cau: 6 Gorffennaf 2023

Lleoliad: Islawr

connor's creations

Creadigaethau Connor

Mae Connor yn 14 oed. Dechreuodd ddarlunio pan oedd yn 13 oed, cyn hynny nid oedd yn gallu dal pin yn iawn. Mae ganddo awtistiaeth ddwys felly nid yw'n gallu egluro o ble y daeth ei angerdd sydyn dros dynnu lluniau. Mae'n tynnu lluniau’n llwyr o'i gof.

Mae gwaith Connor wedi cael ei ddangos yng nghanol dinas Caerdydd, Oriel Heath, Penarth, ac roedd hefyd yn rhan o ŵyl "Celf ar y Bryn" Casnewydd.

Lleoliad: Oriel Mesanîn

Freedom and Constraints. Creative Roots Exhibition

Rhyddid a Chyfyngiadau gan Das Clarks

Yn 2021 cynhaliodd Das Clarks brosiect peilot gyda phreswylwyr a staff carchar y Parc. Mae'r prosiect wedi esblygu yn 'Wreiddiau Creadigol' rhaglen unigryw sydd wedi ysbrydoli’r rhai sy'n byw ac yn gweithio mewn caethiwed i archwilio rhyddid creadigol. Gyda sesiynau'n cael eu cyflwyno yn adrannau preswyl y carchar, roedd Gwreiddiau Creadigol yn cynnwys rhaglen sylfaen gychwynnol o archwilio creadigol. Datblygodd y gweithgaredd sylfaen yn sesiynau arbenigol yn gwneud printiau, paentio, ffotograffiaeth ac ysgrifennu. Mae'r gwaith yn yr arddangosfa hon wedi cael ei greu gan breswylwyr, staff a'r artistiaid sy'n rhan o'r prosiect.

Das Clarks yw Gareth Clark, Marega Palser a Dee Rogers gyda Bill Chambers, Marion Cheung a Jo Haycock.

Dyddiad Agor: 8 Mehefin 2023

Dyddiad Cau: 10 Mehefin 2023

Lleoliad: Islawr

Newport Nature.jpg

Casnewydd, Natur a Phobl

Arddangosfa yn Dathlu Natur Casnewydd

Fe synnwch o weld popeth sydd ar eich stepen drws!

Mae hon yn arddangosfa ddeniadol, hardd o ffotograffiaeth, celf, barddoniaeth a ffilmiau sy'n dathlu ‘Natur Casnewydd’.

Mae wedi cynnwys cymunedau a gwirfoddolwyr o bob rhan o Gasnewydd ac mae wedi cael effaith enfawr ar adfer cynefinoedd a chadwraeth peillwyr, yn enwedig yn y 'Ffordd i Natur' a adhawliwyd yn ddiweddar, ac yn Twmps ger Barack Hill.

Mae'r arddangosfa hon yn y brif Oriel Gelf yng Nglan yr Afon gydol mis Chwefror 2023.

We Are Here Because You Were

We Are Here, Because You Were There

Mae'n fraint i Ffotogallery gyflwyno arddangosfa newydd, We Are Here, Because You Were There, prosiect cydweithredol gan y ffotograffydd Andy Barnham a'r ymchwilydd Dr Sara de Jong. Mae'r gweithiau’n defnyddio portreadau a dyfyniadau i ddogfennu profiadau cyfieithwyr o Afghanistan a gyflogwyd gan y Fyddin Brydeinig sydd bellach wedi cael eu hailgartrefu yn y DU. 

"Mae'r corff pwysig hwn o waith yn canolbwyntio ar brofiadau uniongyrchol cyfieithwyr Afghanistan a'u brwydr am loches yn y DU ar ôl i'r Fyddin Brydeinig dynnu allan o Afghanistan. Mae'r prosiect yn tynnu sylw at effaith ymgysylltiad hanesyddol a diweddar Prydain ag Afghanistan a'r angen am sgyrsiau ehangach am ddiffyg llwybrau lloches diogel i'r DU."

- Siân Addicott, Cyfarwyddwr

Bydd yr arddangosfa yng Nglan yr Afon ar 9 Chwefror 2023 rhwng 6pm ac 8pm a bydd yn cynnwys trafodaeth panel, gweithdy a thafluniad ffilm ar i'r adeilad. Mae croeso i bawb ymuno.

Wales Coast Path Neale Howells

Arddangosfa Ben-blwydd Llwybr Arfordir Cymru

Mae Glan yr Afon yn gartref i un o'r nifer o arddangosfeydd dros dro sydd wedi bod yn digwydd ar hyd llwybr arfordir Cymru ers mis Medi fel rhan o Brosiect Celf Coast. Y bwriad yw dathlu a nodi pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed. Yr artist o Gymru, Neale Howells, sy'n arddangos y gwaith Celf sydd yn cael ei arddangos.

short perspectives.JPG

Safbwyntiau byrion

I ddathlu Mis Ymwybyddiaeth Corachedd 2022, rydym yn falch o gynnal lansiad y cyhoeddiad 'Short Perspectives', a gefnogir gan Urban Circle Newport. Mae'r cyhoeddiad sy'n canolbwyntio ar y gweledol yn amlygu hygyrchedd, cynhwysiant, a chysylltiadau cymunedol – o safbwynt sy'n wahanol i'r norm. Mae'r arddangosfa hon yn annog pobl i ddysgu am Gorachedd a dathlu pobl fach yn ein cymuned. Mae’n yn cael ei redeg gan y swyddog Cyfathrebu Ieuenctid, Danielle Webb.

GM5 Exhibition - Black Tent - Black Sarah

Ail-Agor yr Oriel

Rydym wrth ein boddau o fod yn cyhoeddi ail-agoriad Oriel Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Fel y mae llawer ohonoch yn gwybod, oherwydd y pandemig diweddar a'r amgylchiadau anodd o amgylch hynny, mae staff Cyngor Dinas Casnewydd wedi meddiannu'r gofod oriel.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddem yn gallu lansio Oriel y Mesanîn ac rydym wedi croesawu arddangosfeydd o Ffotomarathon Casnewydd, arddangosfa Make Do & Mend a arddangosfa Red Shoes, fodd bynnag, wrth i ni ddechrau tymor cyffrous newydd yr Hydref, rydym yn edrych ymlaen at ailagor drysau Oriel Glan yr Afon i'r cyhoedd; a pha ffordd well o lansio na chroesawu arddangosfa Gypsy Maker 5.

Bydd Cwmni Celf a Diwylliant Romani (RCAC) yn dod â'u prosiect parhaus, 'Gypsy Maker 5', sy'n dangos arddangosfa newydd o waith celf gan yr artistiaid Imogen Bright Moon, Corrina Eastwood a Rosamaria Kostic Cisneros.

Y gosodiad cyffrous hwn o waith a gomisiynwyd yn arbennig yw'r diweddaraf yn eu prosiect arloesol Gypsy Maker, menter sy'n cefnogi datblygiad gwaith artistig arloesol gan artistiaid sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae prosiect Gypsy Maker 5 yn ehangu gwaith y Cwmni Celf a Diwylliant Romani drwy barhau i ymgysylltu cymunedau SRT gyda'r cyhoedd yn ehangach mewn deialog barhaus am y ffyrdd y mae celf yn parhau i lywio ein bywydau heddiw.

Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng 2 a 30 Medi, dydd Llun i ddydd Sadwrn 10am – 4pm. Mae mynediad am ddim. 

Allwn ni ddim aros i chi ymuno â ni!

Gallery - Battle of Britain

Arddangosfa 80 mlwyddiant Cymru a Brwydr Prydain

Bydd Casnewydd yn croesawu arddangosfa 80 mlwyddiant Cymru a Brwydr Prydain y mis Medi hwn fel rhan o ddigwyddiadau coffáu cenedlaethol sy'n nodi pennod bwysig yn hanes yr Ail Ryfel Byd.

Bydd yr arddangosfa hon yn gyfle perffaith i nifer o bobl yng Nghasnewydd gofio am arwriaeth yr Ychydig Rai.

Bydd yr arddangosfa am ddim ac ar agor bob dydd i'r cyhoedd yn Theatr Glan yr Afon rhwng 20 a 24 Medi.

 

Red and pink quilt with bilingual writing on it.jpg

Make Do & Mend
Arddangosfa gan Kate Mercer

Wedi'i gychwyn ym mis Mawrth 2020 (yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020), mae 'Make Do and Mend' yn gyfres o gwiltiau clytwaith sy'n archwilio syniadau o lapio, cynhesu ac amddiffyn. Yn benodol, mae'r cwiltiau clytwaith hyn wedi'u gwneud o ffabrigau cotwm wedi'u hailgylchu, wedi'u hail-bwrpasu yn rhywbeth sy'n cynhesu ac yn cysuro'r rhai y maent yn eu cofleidiol.

“Yn ystod y cyfnod cloi cyntaf yn 2020, roeddwn yn byw oddi cartref, yn gwarchod fy mam a oedd yn derfynol wael. Roedd prosiectau tecstilau yn rhywbeth y bydden ni’n ei wneud gyda’n gilydd – roedd mam yn dysgu sgiliau gwnïo, gwneud, atgyweirio a chreu i mi. Gwnaeth cloi i lawr i mi fyfyrio llawer am syniadau pontio, yn enwedig trosglwyddo gwybodaeth o un genhedlaeth i’r llall.”

Mae Gwneud a Thrwsio yn fyfyrdod ysgafn o'r rolau a'r perthnasoedd hyn, a sut mae gweithredoedd yn effeithio ar y rhai o'n cwmpas ac yn dylanwadu arnynt. Mae'r broses o wneud y cwiltiau hyn yn trwytho adnewyddiad ac atgyweirio, gyda'r elfennau testun ychwanegol yn trosglwyddo gwersi bywyd ac arsylwadau i'w gwyliwr. Gan amgáu eraill â geiriau trwy decstilau, ffotograffiaeth a pherfformiadau perfformio mae'r cwiltiau hyn yn archwiliad o ddomestigrwydd a gwniadwaith mewn celf.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yn ein horiel e-bostiwch sally-anne.evans@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757.