Mae arddangosfeydd dros dro wedi bod yn cael eu cynnal ar hyd llwybr arfordir Cymru ers mis Medi fel rhan o Brosiect Arfordir Celf. Y bwriad yw dathlu a nodi Llwybr Arfordir Cymru yn 10 oed.  Mae artistiaid a beirdd o Gymru wedi dadorchuddio eu gwaith newydd yn yr arddangosfeydd, gyda'r nod o ddal ysbryd y llwybr drwy'r celfyddydau a barddoniaeth.

Dywedodd yr artist arweiniol ar gyfer y prosiect, Dan Llywelyn Hall:  "Ynghyd â Llwybr Clawdd Offa a Llwybr Glyndŵr, mae Llwybr Arfordir Cymru yn braenaru taith rhydwelïol o amgylch Cymru — gan ddarparu cwmpas anfeidrol o archwilio i'r artistiaid a'r beirdd sy'n rhan o'r prosiect hwn. 

"Mae'r gwaith pwerus sydd wedi ei greu yn talu teyrnged i hanes cyfoethog masnach, setliad, ymfudo, diwydiant a goroesiad Cymru - sydd wedi llunio rhyfeddod garw ein cenedl dros y canrifoedd.  A dwi methu meddwl am amser gwell i'w ddathlu nag wrth i ni nodi 10 mlynedd ers sefydlu Llwybr Arfordir Cymru."

Y penwythnos hwn mae'r arddangosfa yn dod i Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd gyda'r gwaith gan Neale Howells. Ganwyd Howells yng Nghastell-nedd ac mae'n gweithio yn ei stiwdio ym Mhort Talbot. Mae'n adnabyddus am ei waith celf a ddefnyddiwyd gan albwm y Manic Street Preachers yn 2001, 'Know Your Enemy', sydd erbyn hyn yn cael ei ail-ryddhau.  Fel yr artistiaid eraill dan sylw, mae gwaith Howells wedi'i ysbrydoli gan harddwch naturiol rhyfeddol y Llwybr 870 milltir.

''Gofynnwyd i mi gan Dan Llewellyn fod yn rhan o arddangosfa 10 mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru y cytunais yn betrusgar iddo.  Doedd dim angen i mi fod mor amharod â hynny wrth i mi ddod o hyd i ffordd i mewn i'r prosiect hwn drwy fynd â’r hyn rwy'n ei wneud yn y stiwdio i’r awyr agored ac mi wnes i fwynhau'r profiad yn fawr. Arweiniodd hyn at berfformiad, stensilio, arlunio, paentio ac yna'n archwilio Castell-nedd Port Talbot ac yn dogfennu'r cyfan ar ffilm. Roedd y gwaith terfynol yn broses organig o ddefnyddio ffotograffiaeth, collage, paent, a darnau diwydiannol sydd, gobeithio, yn rhoi cipolwg cyffrous a dychmygus ar dreftadaeth ddiwydiannol a gwleidyddol Castell-nedd Port Talbot. Ac wrth gwrs, gyda dau baentiad mawr ychwanegol y naill ochr a’r llall yn y gofod tanddaearol hwn rydym yn gobeithio y bydd yr arddangosfa yn rhoi i Gymru un o'i phrofiadau gweledol mwyaf cofiadwy eleni.'' Neale Howells, Artist o Gymru.

Bydd y celf yn cael ei lansio yng Nghanolfan Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon, Casnewydd y dydd Sadwrn hwn (22 Hydref 2022) am 2pm.

I gael gwybod mwy ewch i https://www.walescoastpath.gov.uk/latest-news/news-and-press-releases/arts-and-poetry-project-10th-anniversary/?lang=en neu cysylltwch â thîm Swyddfa Docynnau Glan yr Afon ar 01633 656757.