Beth rydym yn ei wneud yn ystod yr argyfwng Coronafeirws

Mae gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, cadw'n heini ac ennyn diddordeb pobl yn y celfyddydau a chreadigrwydd yn ganolog i bopeth a wnawn yma yng Nghasnewydd Fyw. Yn ystod y cyfnod anodd hwn efallai na fyddwn yn gallu eich cefnogi chi'n bersonol, ond rydym wedi ymrwymo i'ch cefnogi chi a'ch llesiant yn eich cartrefi, ein cydweithwyr a’n patneriaid gymaint ag y gallwn.

 
Ein Cwsmeriaid
Hyd nes y gallwn eich croesawu chi i gyd yn ôl yn ddiogel i leoliadau Casnewydd Fyw, rydym am roi gwybodaeth i chi ar-lein a fydd yn eich helpu i gadw'n ffit ac yn iach, cefnogi llesiant corfforol a meddyliol cadarnhaol ac ysbrydoli creadigrwydd tra eich bod gartref.

Gallwch ddod o hyd i lawer o weithgareddau ac ymarferion chwaraeon a chelfyddydol ar-lein i chi a'ch teuluoedd gymryd rhan ynddynt ar ein gwefan yma

Facebook - @NewportLiveUK & @TheRiverfront
Twitter - @NewportLiveUK & @RiverfrontArts
Instagram - @NewportLiveUK & @RiverfrontArts
Youtube - Newport Live
 
Ein Cymuned
Yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd rydym yn gweithio i gynorthwyo gyda gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol yn y ddinas yn ôl yr angen. Rydym yn gweithio gyda Chyngor Dinas Casnewydd i gefnogi gwydnwch Casnewydd a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu yn ystod yr argyfwng hwn.

Rydym hefyd yn ceisio cefnogi partneriaid eraill yn y meysydd chwaraeon, celf a thu hwnt gan gynnwys hyrwyddo arlunwyr lleol a rhoi cyngor i sefydliadau eraill.
 
Ein Staff
Heb ymrwymiad, cyfraniad a gwaith caled ein staff, ni fyddai Casnewydd Fyw yn gallu darparu'r gwasanaeth a'r cyfleusterau gwych i'n cwsmeriaid a'n cymunedau. Tra bod ein lleoliadau ar gau mae llawer o'n staff wedi eu rhyddhau dros dro ond byddant yn parhau i dderbyn cyflog llawn. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd rhai o'n haelodau staff yn gwirfoddoli i helpu pobl sy’n agored i niwed a chefnogi pobl mewn angen.
 
Cefnogwch Ni
Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen dosbarthu nid-er-elw, sy'n golygu bod ein holl incwm sy’n weddill yn cael ei ailfuddsoddi yn y sefydliad i wella ein rhaglenni, ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ac i gefnogi hyfforddiant a datblygiad staff. Fyddai hyn ddim yn bosibl heb eich cefnogaeth barhaus chi.
Gofynnwyd i ni sut gallwch chi barhau i'n cefnogi yn ystod y cyfnod hwn, felly os ydych yn gallu, ac yn dymuno parhau i'n cefnogi tra’n bod ni ar gau, gallwch wneud hynny yma