Rydym yn agosáu
Yn dilyn newyddion diweddaraf Llywodraeth Cymru yn gynharach heddiw, rydym wrth ein boddau yn cyhoeddi y gallwn eich croesawu’n ôl i’n canolfannau o ddydd Llun 10 Awst. Rydym yn edrych ymlaen at fod yn egnïol gyda’n gilydd cyn bo hir!

Gofynnwn i chi fod yn amyneddgar gyda ni ar yr adeg hon wrth i ni roi'r paratoadau terfynol yn eu lle er mwyn i ni fod yn barod i chi ddod yn ôl. 

Yr wythnos nesaf byddwn yn rhannu mwy o fanylion am y cyfleusterau a'r sesiynau a fydd ar gael, beth fydd yn digwydd i aelodaeth a debydau uniongyrchol yn ogystal â gwybodaeth fanylach am newidiadau i'n cyfleusterau. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi beth byddwn ni'n ei wneud i'ch cefnogi os nad ydych chi'n hollol barod i ddod yn ôl atom eto.

Bydd dod yn ôl yn golygu y bydd yn rhaid i chi wneud pethau ychydig yn wahanol i helpu eich amddiffyn eich hun, ein cwsmeriaid eraill a'n staff, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein tîm wrth law i gefnogi eich lles ac i'ch ysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach, gyda'n gilydd.

Beth gallwch ei ddisgwyl

Pan fyddwch chi'n ymweld â ni, rydych chi'n mynd i sylwi ar newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i sicrhau ein bod yn cadw at ein hymrwymiad i gadw pawb yn ddiogel. Mae’r rhain yn cynnwys: 
•    Bydd angen archebu pob sesiwn ymlaen llaw
•    Gostyngiad yn nifer y defnyddwyr yn yr adeilad
•    Adleoli campfeydd ac offer
•    Newidiadau i'n hamserlenni ac adleoli ein dosbarthiadau
•    Gwell trefniadau glanhau yn ogystal â chynhyrchion glanhau a diheintio a ddarperir
•    Pellter cymdeithasol ac arwyddion cyfeiriadol i ddilyn wrth i chi symud o gwmpas ein hadeiladau

Byddwn yn rhannu ein canllawiau â chi cyn eich ymweliad ac rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â nhw cyn i ni ailagor.

Byddwch yn barod

Cerdyn Casnewydd Fyw

I archebu a defnyddio ein cyfleusterau ar gyfer unrhyw weithgaredd, bydd angen cerdyn Casnewydd Fyw arnoch.

Hebddo, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i'ch sesiwn ac at ddibenion diogelwch, mae hyn yn ein galluogi i fonitro faint o bobl sy'n defnyddio ein lleoliadau.  

Nid oes gennyf gerdyn Casnewydd Fyw
Os nad oes gennych gerdyn, gallwch sefydlu eich cyfrif ar-lein yma https://newportlive.leisurecloud.net/joinathome/MemberRegistration.aspx 
Ar eich ymweliad cyntaf, casglwch eich cerdyn Casnewydd Fyw o'r dderbynfa. Bydd gofyn i chi hefyd dynnu eich llun. 

Rwyf wedi colli fy ngherdyn Casnewydd Fyw
Os ydych wedi cael cerdyn yn y gorffennol sydd wedi mynd ar goll, anfonwch e-bost i enquiries@newportlive.co.uk. Cofiwch gynnwys eich enw, cod post, dyddiad geni a rhif cwsmer os oes gennych un. Rhowch wybod i ni hefyd pa rai o'n safleoedd y byddwch yn ymweld â nhw fel y gallwn sicrhau bod eich cerdyn yn barod yn y dderbynfa i chi ei gasglu pan fyddwch yn cyrraedd ar gyfer eich ymweliad cyntaf. Efallai y bydd gofyn i chi hefyd dynnu eich llun os nad yw hyn eisoes ar ein system. 

Eich manylion
Gwnewch yn siŵr bod y manylion sydd gennym amdanoch yn gyfredol. Mae'r rhain yn ofynnol rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi ynglŷn â'ch sesiwn neu os bydd angen i ni gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. https://www.newportlive.co.uk/en/book/login/

Archebu Ar-lein
Bydd angen archebu pob dosbarth a gweithgaredd o flaen llaw a gellir gwneud hyn yn haws drwy archebu ar-lein drwy ein app a'n gwefan. I sicrhau bod eich cyfrif ar-lein wedi’i sefydlu ewch i https://www.newportlive.co.uk/en/book/login/
Byddwn yn rhannu diweddariad e-bost o sut i ailosod eich rhif PIN yn y dyddiau nesaf.

Lawrlwytho ein app
Os oes gennych gyfrif ar-lein neu os ydych wedi cael cerdyn Casnewydd Fyw yn y gorffennol, mae archebu yn hawdd drwy ein app Casnewydd Fyw ar gael ar Apple ac Android. 
Cliciwch yma i weld ein fideos gyda mwy o fanylion am sut i osod eich app Casnewydd Fyw. 

Diolch

Byddwn yn rhoi mwy o fanylion i chi ynghylch ailagor cyn gynted ag y gallwn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch ag enquiries@newportlive.co.uk 

Diolch i bob un o'n cwsmeriaid a'n partneriaid sydd wedi bod yn gefnogol iawn yn ystod yr adeg hon. Fel ymddiriedolaeth elusennol, mae cefnogaeth a theyrngarwch parhaus ein cwsmeriaid yn allweddol ac edrychwn ymlaen at allu eich croesawu'n ôl yn fuan iawn.