316 ROOKIE FITNESS TV2.jpg

Mae Casnewydd Fyw unwaith eto’n cyflwyno’r rhaglen 2 ddiwrnod unigryw hon sydd wedi'i chynllunio i gynyddu sgiliau ymarfer corff ymarferol plant 12-16 oed  a’u dysgu am faeth. Nod y cwrs hwn yw cyflwyno pobl ifanc i Ffitrwydd gan eu helpu i wella eu techneg, magu hyder a gwneud ffrindiau!

Mae cynnwys y cwrs yn cynnwys dysgu am osod nodau, gwahanol fathau o ffitrwydd, dulliau hyfforddi cywir a bydd cyfle iddynt gymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff a defnyddio cyfleusterau ffitrwydd Casnewydd Fyw. Ar ôl cwblhau'r cwrs bydd y Dechreuwyr yn cael tystysgrif presenoldeb ynghyd â gwahoddiad i ddod yn Hyrwyddwr Ffitrwydd a gwirfoddoli ar gyrsiau yn y dyfodol.

Dywedodd Bryony Gurmin, Rheolwr Iechyd, Ffitrwydd a Llesiant "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r cwrs Ffitrwydd i Ddechreuwyr eto. Dyma gyfle gwych i drosglwyddo ein brwdfrydedd, ein gwybodaeth a'n hangerdd am ffitrwydd i bobl ifanc a rhoi cyfle iddynt ddysgu sgiliau newydd a dysgu mwy am y maes hamdden a ffitrwydd."

Cynhelir Ffitrwydd i Ddechreuwyr yng Nghanolfan Casnewydd ar y 9 ac 11 o Awst ac ar 23 a 25 o Awst rhwng 10am a 2pm a gellir cadw lle ar y cyrsiau drwy wefan Casnewydd Fyw.

Fel aelod iau presennol Casnewydd Fyw, byddwch yn talu dim ond £18.50 am y 2 ddiwrnod, neu os nad ydych yn aelod, byddwch yn talu £42.50 sy’n cynnwys 6 wythnos o aelodaeth iau am ddim, sy'n golygu y gallwch ddefnyddio'r campfeydd a'r pyllau drwy gydol yr haf! Y ffi am yr Aelodaeth Iau arferol yw £17.50 y mis, neu manteisiwch ar y cyfle i gael 3 mis am ddim a phrynu aelodaeth flynyddol am £157.50.

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig ddielw, sy’n golygu bod yr arian y mae'n ei wneud yn cael ei fuddsoddi i gyd yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae'n eu cynnig - felly gall holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw helpu'r gymuned leol drwy gyflawni'r projectau a'r gweithgareddau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Ffitrwydd i Ddechreuwyr yr haf hwn, ewch i newportlive.co.uk/HolidayActivities neu @NewportLiveUK ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf.