Er bod Canolfan Theatr a Chelfyddydau Glan yr Afon yn dal ar gau ar hyn o bryd, yn aros am ragor o arweiniad gan Lywodraeth Cymru o ran ailagor, mae’r tîm wedi parhau i weithio’n galed y tu ôl i’r llenni ar nifer o brosiectau a mentrau gwych i gadw pobl Casnewydd i ymgysylltu a’r celfyddydau a chreadigrwydd.

Roedd Glan yr Afon yn ddigon ffodus i dderbyn arian gan Gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd wedi galluogi’r ganolfan celfyddydau i fuddsoddi mewn offer recordio digidol newydd sbon. Hyd yn hyn, mae’r offer wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi Le Public Space wrth ffrydio eu Gŵyl Theatr Ar-lein RIGHT NOW, gŵyl wythnos a oedd yn arddangos gwaith newydd rhai o wneuthurwyr theatr ac artistiaid perfformio mwyaf talentog Cymru. 

Dywedodd Alan Dear, Pennaeth Theatr, y Celfyddydau a Diwylliant, ‘Er ein bod yn methu agor, rydym yn falch iawn o allu parhau i ymgysylltu â phobl Casnewydd ac i helpu i ddod ag adloniant byw newydd i’n cynulleidfaoedd. Diolch i’r grant a dderbyniom gan Gronfa Sefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru, rwy’n falch iawn o allu darparu cefnogaeth dechnegol ar gyfer Le Pub a’r ŵyl wych hon ac i ddefnyddio ein hoffer ffrydio byw newydd am y tro cyntaf.’

Hefyd galluogodd yr offer digidol hwn i’r adran dechnegol ffrydio’r gweithgaredd Art on the Hill yn fyw ym mis Tachwedd.  Aeth y tîm â’r gwylwyr ar daith o gwmpas Casnewydd a’r holl greadigrwydd bendigedig a oedd yn cael ei arddangos ar gyfer yr ŵyl. Gallwch ei fwynhau ar-lein o hyd ar sianel Youtube Glan yr Afon:

Ar gyfer Art on the Hill, trowyd Glan yr Afon yn fan arddangos anferth gydag artistiaid lleol yn dangos eu gwaith yn y ffenestri o gwmpas yr adeilad. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys gwaith pobl greadigol leol TEMMAH & Sons, Becky Lewis, Laura Wiseman, Vin Dyke Art a llawer mwy, y gellid eu gweld a’u mwynhau i gyd o’r tu allan i’r adeilad.  Darllenwch y rhestr lawn o arddangoswyr yma: https://www.newportlive.co.uk/en/theatre-arts/festivals-events/art-hill/

Hefyd mae Tîm Datblygu’r Celfyddydau Glan yr Afon wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Cwmni Theatr Tin Shed, yn helpu gyda’r prosiect ‘Happenus’. Mae Happenus yn gyfres o dri digwyddiad llawn llawenydd, wedi’u hymbellhau’n gymdeithasol gydag artistiaid lleol a chydweithredwyr cymunedol. Mae’n gysyniad sy'n edrych ar sut rydym yn gweld, yn cysylltu ac yn rhyngweithio â'n cartrefi â'n pobl ac â’n lleoedd. Mae'n ceisio gofyn cwestiynau ac yn herio canfyddiadau drwy ryngweithio ac addasu lle a gofod.

Mae rhan gyntaf y gyfres o dri, Twinning, yn brosiect am wneud cysylltiadau newydd sy’n gofyn i chi ddod o hyd i’ch gefell o ran cyfeiriad ac ysgrifennu llythyr ato/ati gyda’r nod o ffurfio cysylltiadau newydd ar adeg pan mae cysylltiad wyneb yn wyneb wedi’i gyfyngu, yn anffodus.  Dysgwch ragor am Twinning a chymerwch ran yma: https://www.tinshedtheatrecompany.com/happenus

Daeth ail ran y drioleg, Advent, â Tin Shed, Glan yr Afon a Beicio Cymunedol Casnewydd at ei gilydd i ffurfio ‘Elf Service’ Casnewydd.   Bob dydd Sadwrn ym mis Rhagfyr yn arwain at y Nadolig, dosbarthodd yr Elf Service fwndeli o lawenydd gan gynnwys anrhegion, deunyddiau crefft a sebonach i deuluoedd a sefydliadau mewn angen fel rhan o ledaenu Hwyl yr Ŵyl. Rhai o’r sefydliadau a dderbyniodd anrhegion oedd Feed Newport, Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd, Community House, The Share Centre a Leonard Cheshire. 

Elves dropping off presents to a young girl   Newport Elf Service - Elves with bikes

Gan edrych ymlaen at y flwyddyn newydd, mae Glan yr Afon yn bwriadu gweithio gyda mwy o sefydliadau lleol ac ehangu ar y cyfleoedd ffrydio’n fyw mae’r offer recordio newydd yn eu darparu. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Stiwdio Cerddoriaeth COBRA i ffrydio rhai o’u sesiynau recordio a hefyd gweithio gydag artistiaid lleol i recordio cynnwys theatr ar-lein.

Bydd Casnewydd Fyw a Glan yr Afon hefyd yn lansio’r Hyb Celfyddydau, cronfa ddata ddigidol a fydd yn dod ag ystod o sefydliadau, artistiaid ac ymarferwyr ynghyd mewn un lle fel y gall cynulleidfaoedd ddarganfod a mwynhau’r celfyddydau a chreadigrwydd yn ddigidol.

Yn y cyfamser, mynnwch y newyddion diweddaraf am Glan yr Afon ac am gyfleoedd celfyddydol trwy ddilyn Glan yr Afon ar y cyfryngau cymdeithasol. Hefyd gellir cael mynediad at gyfleoedd, gweithgareddau ac adnoddau’r theatr ar-lein ar wefan Casnewydd Fyw yma.

Hoffai Glan yr Afon ddiolch i gynulleidfaoedd unwaith eto am eich adborth cadarnhaol a’ch cefnogaeth eleni. Byddwn yn dod yn ôl yn gryfach fyth yn 2021 ac rydym yn edrych ymlaen at y diwrnod pan gallwn ni eich croesawu yn ôl trwy ein drysau unwaith eto. Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nad yw’n dosbarthu elw, rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth barhaus. Dysgwch sut gallwch chi ein cefnogi yma

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yn fuan iawn. Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi, a chadwch yn ddiogel ac yn iach.