Picture by Will Palmer - Paralympic Track Practice session and holding camp ahead of the 2020 Tokyo Olympics - Newport, Wales - Sophie Unwin piloted by Jenny Holl.JPG

Fis Awst eleni mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yng Nghasnewydd yn falch o fod wedi cynnal athletwyr a fydd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd. 

Cyn Gemau Paralympaidd Tokyo 2020, mae beicwyr o garfan beicio Paralympaidd Tîm Beicio Prydain Fawr wedi bod yn cwblhau eu paratoadau hyfforddi terfynol yn y felodrom yng Nghasnewydd.

Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas wedi arfer cael ei ddefnyddio i gynnal tîm Prydain cyn gemau blaenorol gan gynnwys Athen 2004, Beijing 2008, Llundain 2012 a Rio yn 2016. 

Cyhoeddwyd y tîm yn gynharach ym mis Gorffennaf ac mae'n cynnwys y Fonesig Sarah Storey a fydd yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am yr wythfed tro yn y Ras Ymlid Unigol C5 a Threial Amser C5. Bydd yr athletwr Crystal Lane-Wright hefyd yn ymuno â hi a fydd yn cystadlu yn yr un digwyddiadau.

Yn nigwyddiadau B y menywod (athletwyr sy'n ddall neu â nam ar eu golwg), bydd Lora Fachie a'r peilot Corrine Hall yn cystadlu yn y Ras Ymlid Unigol yn ogystal â'r Kilo yn eu trydedd gêm gyda'i gilydd tra mai dyma fydd Gemau Paralympaidd cyntaf Sophie Unwin a'r peilot Jenny Holl. Yn ymuno â nhw fydd Helen Scott ac Aileen McGlynn ar ôl i’r ddwy ennill medal arian yn Llundain 2012. 

Hefyd yn cystadlu mae Kadeena Cox, enillydd medal aur, a fydd yn cymryd rhan yn y Treial Amser C4-5 500m yn ogystal â'r Sbrint Tîm Cymysg C1-5, lle bydd Jaco van Gass a Jody Cundy yn ymuno â hi.  Bydd Van Gass hefyd yn cystadlu yn y Kilo C1-3,  Ras Ymlid Unigol C3 a Threial Amser C3 tra bydd Jody Cundy, y bydd yn seithfed Gemau Paralympaidd iddo, yn ceisio amddiffyn ei deitl Kilo C4-5.

Bydd Steve Bate a'r peilot Adam Duggleby yn cystadlu yn nigwyddiadau B y dynion yn y Ras Ymlid Unigol a'r Treial Amser, tra bydd y beicwyr Neil Fachie a'r peilot Matt Rotherham a James Ball a'r peilot Lewis Stewart yn cystadlu yn y Kilo a'r Rasys Ymlid Unigol.

Bydd Fin Graham a Ben Watson ill dau yn cynrychioli Tîm Paralympaidd GB am y tro cyntaf yng nghategori C3 y dynion, ynghyd â Jaco van Gass.

Dywedodd y Cymro James Ball:  "Mae'r tîm cyfan wedi mwynhau ein gwersyll hyfforddi yng Nghasnewydd yn fawr iawn.  Roedd y cyfleuster yn berffaith ar gyfer ein paratoadau terfynol, ac rydym yn mynd i Tokyo yn y siâp gorau posibl.  Diolch yn fawr i bawb yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas am eu cefnogaeth ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at wneud Cymru'n falch yn Tokyo."

Mae Casnewydd Fyw, sy'n gyfrifol am redeg Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, yn falch o fod hefyd wedi cefnogi gwledydd eraill sy'n cystadlu yn y Gemau Paralympaidd eleni gan gynnwys y tîm o Singapore.  Bydd pâr tandem y dynion, Steve Tee a'r peilot Ang Kee Meng, yn cystadlu yn Ras Ymlid Unigol B y dynion a'r Kilo.

Dywedodd tîm Singapore "Mae wedi bod yn wych gweithio ar y trac hwn.  Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y cyfleusterau yn y felodrom a'r pentref chwaraeon cyfagos, yn ogystal â chymorth gan Casnewydd Fyw wrth gynllunio'r gwersyll hwn.  Yn bendant, cawsom lawer o'n hamser yma, ac yn enwedig gan yr hyfforddwr trac Kyleigh Manners.  Yn bendant yn edrych ymlaen at ddychwelyd!"

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i groesawu carfan beicio Paralympaidd Tîm Beicio Prydain Fawr yn ôl i Felodrom Geraint Thomas.

"Ar ôl cynnal y gwersylloedd hyfforddi ar gyfer Tîm Beicio Prydain Fawr ym mis Gorffennaf a gweld y canlyniadau gwych i feicwyr gan gynnwys Laura a Jason Kenny, Katie Archibald, Matt Walls a gweddill y tîm, rydym yn gobeithio y bydd y garfan feicio Baralympaidd hefyd yn cael llwyddiant mawr.

"Mae hefyd wedi bod yn fraint fawr i allu cefnogi gwledydd eraill sy'n cystadlu yn y gemau Paralympaidd ac yn gobeithio croesawu'r timau hyn yn ôl i'r felodrom yn fuan iawn wrth iddynt baratoi ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022.

"Unwaith eto, dymunwn bob llwyddiant i'r athletwyr hyn wrth iddynt barhau i ysbrydoli beicwyr ledled Casnewydd a'r genedl i ymgymryd â'r gamp wych hon.  Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau beicio trac, cysylltwch â'n tîm.  Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd y Laura neu Jason Kenny nesaf."

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Dîm Paralympaidd Prydain Fawr yma https://paralympics.org.uk/sports/cycling