Picture by Will Palmer - Olympic Track Practice session and holding camp ahead of the 2020 Tokyo Olympics - Newport, Wales - Laura Kenny, Katie Archibald, Elinor Barker and Neah Evans on track.JPG

Mae Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd wedi bod yn gartref unwaith eto i Dîm Beicio Tîm Prydain Fawr wrth i'r athletwyr beicio trac gwblhau eu paratoadau hyfforddi terfynol cyn Gemau Olympaidd 2020 ym mis Gorffennaf eleni yn Tokyo. 

Mae'r felodrom yng Nghasnewydd wedi cael ei ddefnyddio'n flaenorol i groesawu tîm Prydain cyn gemau blaenorol gan gynnwys Athens 2004, Beijing 2008, Llundain 2012 a Rio yn 2016 gyda beicwyr yn mynd ymlaen i lwyddo'n wych yn y Gemau Olympaidd dilynol. 

Roedd Gemau Olympaidd Tokyo 2020 i fod i gael eu cynnal yr haf diwethaf ond fe'u gohiriwyd oherwydd argyfwng y Coronafeirws a disgwylir iddynt ddechrau ar 23 Gorffennaf.

Cyhoeddwyd y tîm ym mis Mehefin ac mae'n cynnwys y beicwyr Laura a Jason Kenny a fyddai'n gwneud hanes ill dau fel y beicwyr trac benywaidd a gwrywaidd mwyaf llwyddiannus erioed.  Mae Laura yn yn y garfan dygnwch menywod yng nghwmni ei chyd-Bencampwyr Olympaidd Katie Archibald ac Elinor Barker yn ogystal â Neah Evans a Josie Knight.

Ar ôl ennill medal efydd yng Ngemau Olympaidd Rio yn 2016, mae Katy Marchant yn dychwelyd i gynrychioli Tîm Prydain Fawr yn y digwyddiadau sbrint i fenywod.

Mae Ryan Owens a Jack Carlin yn ymuno â Jason Kenny yn Sgwad Sbrint y dynion tra bod Ed Clancy, Ethan Hayter, Ethan Vernon, Matt Walls ac Ollie Wood yn ffurfio sgwad dygnwch y dynion. 

Dywedodd Elinor Barker:  "Mae wedi bod yn wych bod yn ôl yn hyfforddi yng Nghasnewydd, dyma lle dechreuais feicio trac am y tro cyntaf felly mae'n teimlo'n addas iawn bod yn ôl yma yn cwblhau'r paratoadau ar gyfer Tokyo. Cawsom ein gwersyll cadw yma cyn Rio hefyd, a gweithiodd yn dda iawn i ni, a gwn fod y tîm wedi'i ddefnyddio mewn cylchoedd Olympaidd blaenorol hefyd ac wedi mwynhau llwyddiant ar ôl hynny. Mae pawb sy'n gweithio yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas wedi bod yn gymwynasgar a chefnogol, sydd wedi golygu ein bod wedi cael sesiynau o safon yn y pythefnos olaf cyn i ni adael i fynd i Tokyo."

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw "Mae wedi bod yn wych gallu croesawu Tîm Beicio Prydain Fawr yn ôl i Felodrom Geraint Thomas ar ôl blwyddyn heriol sydd wedi gweld y Gemau Olympaidd yn cael eu gohirio.

"Rydym mor falch o fod wedi llwyddo i gefnogi Tîm Prydain Fawr gyda'u paratoadau hyfforddi terfynol cyn y gemau. Mae hyn yn parhau â'n gwaith pwysig yn cefnogi sêr chwaraeon elît a phroffesiynol, a ddangoswyd yn ystod ein cyfnod o orfod cau oherwydd y pandemig, pan weithion ni’n galed i alluogi beicwyr,  nofwyr ac athletwyr proffesiynol eraill barhau â'u hyfforddiant.

"Bydd y gwaith hwn yn parhau wrth i ni edrych ymlaen hefyd gyda chyffro mawr at groesawu sgwad para-feicio Tîm Beicio Prydain Fawr sydd hefyd yn ymuno â ni yn ddiweddarach yn y flwyddyn cyn y Gemau Paralympaidd ddiwedd mis Awst.

"Yn anffodus, yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, siom yw ein bod yn methu croesawu cwsmeriaid i wylio'r timau'n hyfforddi ond diogelwch yr athletwyr a'n cwsmeriaid yn yr hinsawdd sydd ohoni yw ein blaenoriaeth. Rwy'n hyderus y byddant yn ein hysbrydoli unwaith eto ond y tro hwn dim ond o Tokyo yn hytrach na gallu eu cefnogi yn eu hymarferion llawn terfynol. 

"Dymunwn bob llwyddiant i holl athletwyr Tîm Prydain Fawr yn y gemau a gobeithiwn eu bod yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o athletwyr i ymgymryd â'r gamp wych hon, maent yn sicr wedi bod yn gwibio heibio unwaith eto ar ein trac felodrom yma yng Nghasnewydd".

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Dîm Prydain Fawr yma https://www.teamgb.com/ a mwy am Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yma: Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas | Cartref beicio yng Nghasnewydd (newportlive.co.uk)