Mae rhaglen a hyfforddwyr tennis Casnewydd Fyw wedi cael eu henwebu mewn tri chategori yng Ngwobrau Tennis Cymru 2021.

Mae'r gwobrau eleni wedi cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad 4 aelod o dîm hyfforddi tennis Casnewydd Fyw, Luke Difranco a Will Croft ar gyfer Gwobr Hyfforddwr Datblygu'r Flwyddyn, a Chloe Thomas ac Alfie Ottery ar gyfer Gwobr Person Ifanc y Flwyddyn. Enwebwyd Canolfan Dennis Casnewydd hefyd ar gyfer y Wobr Cymuned a Pharciau am ei gwaith o fewn y gymuned.

Mewn cydweithrediad â'r LTA (Lawn Tennis Association), mae gwobrau blynyddol Tennis Cymru yn cydnabod ac yn gwobrwyo cyfraniadau eithriadol y rhai sydd wedi helpu i agor y gamp i gynulleidfaoedd newydd yn ogystal â dathlu unigolion a lleoliadau sy'n gwneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.

Dywedodd Luke Difranco, Rheolwr Tennis Casnewydd Fyw: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn 5 enwebiad ar gyfer ein rhaglen dennis ac mae'n dyst i benderfyniad a chreadigrwydd ein tîm. Yng Nghanolfan Dennis Casnewydd rydym wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y misoedd diwethaf i ail-ddatblygu rhaglen dennis ddiogel o ran Covid i sicrhau bod cymaint o blant ac oedolion yn gallu chwarae tennis mewn amgylchedd diogel pan fyddwn yn gallu croesawu pobl i'n cyfleusterau. Yn ystod y cyfnodau clo, mae'r tîm wedi ymgysylltu â Chyrsiau DPP Tennis Cymru ac wedi gweithio'n galed i gynnal safonau proffesiynol oddi ar y cwrt yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae cael cydnabyddiaeth o'r gwaith rydym yn ei wneud yn y Ganolfan Dennis yn rhoi boddhad mawr i'm holl dîm wrth i ni barhau i ddarparu tennis i ddinasyddion Casnewydd a thu hwnt."

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw: "Mae Luke a'r tîm wedi gweithio'n eithriadol o galed dros y 12 mis diwethaf, maent wedi ymrwymo i hyrwyddo tennis a datblygu rhaglenni sy'n gynhwysol ac ar gael i bawb. Diolch yn fawr a llongyfarchiadau i Luke a'r tîm, rydym yn hynod falch ohonynt."

Roedd 2020 yn flwyddyn eithriadol a welodd y gamp yn llywio drwy gyfnod anodd wrth i'r pandemig weld canolfannau tennis yn cau i’r cyhoedd yn ystod y cyfnodau clo a nifer o dwrnameintiau mawr naill ai'n cael eu gohirio neu eu canslo. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae Canolfan Dennis Casnewydd ar gau i'r cyhoedd fel rhan o'r ymdrech genedlaethol i reoli’r coronafeirws.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, bydd enillwyr Cymru yn mynd ymlaen i banel dyfarnu'r LTA ynghyd â'r enillwyr rhanbarthol o bob rhan o Loegr a'r Alban. Yna bydd 30 o unigolion a lleoliadau rhagorol ar y rhestr fer fel rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn genedlaethol ac fe’u gwahoddir i seremoni genedlaethol Gwobrau Tennis yr LTA ym mis Gorffennaf 2021, lle bydd 12 enillydd yn cael eu coroni.

Rydym yn sefydliad nad yw’n dosbarthu elw ac yn elusen gofrestredig. Mae’r arian rydym yn ei ennill yn mynd yn ôl i'r gwasanaethau a'r cyfleusterau rydym yn eu cynnig – felly mae cwsmeriaid Casnewydd Fyw yn ein helpu i gefnogi ein cymuned leol.

I gael rhagor o wybodaeth am raglen dennis Casnewydd Fyw ewch i wefan Casnewydd Fyw yn newportlive.co.uk/tennis.