
Mae Casnewydd Fyw, un o brif ddarparwyr cyfleusterau chwaraeon a hamdden yng Nghasnewydd, yn falch iawn o gyhoeddi diwedd llwyddiannus Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol Ieuenctid ac Iau 2023. Wedi'i gynnal yn Felododrom byd-enwog Geraint Thomas rhwng 24 a 28 Gorffennaf, roedd y digwyddiad yn cynnig arddangosfa drawiadol o dalent beicio ifanc o bob rhan o wledydd Prydain.
Mae'r Pencampwriaethau yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr beicio trac ac yn arddangos y dalent ifanc orau sy'n dod i'r amlwg drwy'r rhengoedd o bob cwr o’r gwledydd hyn wrth iddyn nhw gystadlu am deitl Pencampwr Cenedlaethol. Profodd y bencampwriaeth eleni i fod yn arddangosfa o sgiliau a chwaraeon eithriadol wrth i 179 o feicwyr gystadlu mewn gwahanol ddisgyblaethau, gan swyno gwylwyr a gwneud y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.
Mae rhai o'r canlyniadau nodedig o'r Pencampwriaethau yn cynnwys:
-
Torrodd Adam Murray (Clwb Ffordd Dwyrain Kilbride) record genedlaethol wrth ennill yn y ras 500m yn erbyn y cloc i ddynion iau.
-
Cymerodd Calum Moir (Tîm Rasio Zappi Junior) y ris uchaf yn kilo'r dynion iau, gyda'i amser o 1:02.244 bron eiliad yn gynt na'i heriwr agosaf.
-
Enillodd Tom Morrisey (ESV Manceinion) y fuddugoliaeth yn y sbrint i ddynion dan 16, gan glocio record genedlaethol newydd o 10.832 yn rownd rhagbrofol y 200m hedfan.
-
Cwblhaodd Georgette Rand (Velo Club Lincoln) hatric o deitlau sbrint trwy ennill 500m y merched iau yn erbyn y cloc mewn amser o 35.066, yn dilyn buddugoliaethau cynharach yn y sbrint a'r keirin.
-
Cymerodd Carys Blowers (JRC-INTERFLON) ei hail deitl cenedlaethol yn ystod yr wythnos yn dilyn ei buddugoliaeth Ddydd Llun, yn y ras ymlid unigol mewn amser o 37.956.
Fel lleoliad y bencampwriaeth ryfeddol hon, chwaraeodd Casnewydd Fyw ran ganolog wrth sicrhau gweithrediad llyfn y digwyddiad. Gyda'i gyfleusterau o'r radd flaenaf a'i ymrwymiad diwyro i hyrwyddo beicio, roedd Velodrom Geraint Thomas yn llwyfan delfrydol i sêr beicio newydd y genedl ddisgleirio.
Mynegodd Steve Miller, Rheolwr Beicio Casnewydd Fyw ei bleser gyda llwyddiant y digwyddiad, gan ddweud, "Rydym yn hynod falch ein bod wedi cynnal Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Ieuenctid ac Iau 2023 yn Felodrom Geraint Thomas. Mae bod yn dyst i ddawn ac ymroddiad rhyfeddol y beicwyr ifanc hyn wedi bod yn ysbrydoledig tu hwnt. Rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant o ragoriaeth chwaraeon yn ein cymuned, ac mae digwyddiadau fel hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflawni hynny."
Dywedodd Andrea Ovey, y Cyfarwyddwr Datblygu Busnes "Mae llwyddiant y bencampwriaeth hon yn ailddatgan ymroddiad Casnewydd Fyw i feithrin chwaraeon a thalent o fewn y gymuned. Drwy ddarparu cyfleusterau, rhaglenni a chyfleoedd o'r radd flaenaf i egin athletwyr, mae Casnewydd Fyw yn parhau i gyfrannu'n sylweddol at dwf a datblygiad y diwydiant chwaraeon yng Nghasnewydd a thu hwnt. Llongyfarchiadau i'r holl gystadleuwyr ac i enillwyr pencampwriaeth eleni!
Mae Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas wedi ennill enw da fel prif leoliad ar gyfer cynnal digwyddiadau beicio, ac mae'r cyflawniad diweddaraf hwn yn cadarnhau ei safle ymhellach fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol.
Mae Casnewydd Fyw am ddiolch i Beicio Cymru, 42 Degrees Coaching, cyfranogwyr, gwirfoddolwyr, tîm y Commissaire a phawb a fu'n ymwneud â gwneud y digwyddiad hwn yn gyflawniad rhyfeddol. Roedd cefnogaeth a chydweithrediad y rhanddeiliaid hyn yn allweddol wrth greu profiad cofiadwy i bawb a gymerodd ran.