I ddathlu Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol ar 22 a 23 Medi, rydym yn cynnal ychydig o ddiwrnodau agored i'ch helpu i ddarganfod popeth sydd gan Casnewydd Fyw i'w gynnig.

 

Regional Pool & Tennis Centre.jpg

Ffitrwydd Cenedlaethol - Diwrnod Agored

Dydd Mercher 22 Medi 2021, 9am - 3pm
Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Pentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd

Galw heibio, rhowch gynnig arnom am ddim, cwrdd â'n tîm a chael gwybod mwy am ein cyfleusterau.

Rhowch gynnig arnom Am Ddim!

Os ydych chi'n newydd i Newport Live, siaradwch ag un o'n tîm ffitrwydd am sesiwn neu ddosbarth campfa am ddim.

Boreau Coffi

  • Boreau coffi er budd Gofal Canser Macmillan.

Heriau ffitrwydd gyda gwobrau i'w hennill  

  • Dal i Hongian – Am ba hyd allwch chi ddal pwysau eich corff?

  • Her Cydbwysedd BOSU - Am ba hyd y gallwch chi gynnal eich cydbwysedd? 

Gwiriadau Iechyd am Ddim

Rhowch fan cychwyn i’ch taith ffitrwydd gyda gwiriad iechyd. Bydd aelod o'r tîm yn mesur metrigau eich corff ac yn eich helpu i adolygu eich canlyniadau. 

Cadwch le drwy www.newportlive.co.uk/bethsyddymlaen neu drwy ap Casnewydd Fyw.

Newport Centre.jpg

Ffitrwydd Cenedlaethol - Diwrnod Agored

Dydd Iau 23 Medi 9am - 3pm
Canolfan Casnewydd

Galw heibio, rhowch gynnig arnom am ddim, cwrdd â'n tîm a chael gwybod mwy am ein cyfleusterau.

Rhowch gynnig arnom Am Ddim!

Os ydych chi'n newydd i Newport Live, siaradwch ag un o'n tîm ffitrwydd am sesiwn neu ddosbarth campfa am ddim.

Boreau Coffi

  • Boreau coffi er budd Gofal Canser Macmillan.

Heriau ffitrwydd gyda gwobrau i'w hennill  

  • Dal i Hongian – Am ba hyd allwch chi ddal pwysau eich corff?

  • Her Cydbwysedd BOSU - Am ba hyd y gallwch chi gynnal eich cydbwysedd? 

Gwiriadau Iechyd am Ddim

Rhowch fan cychwyn i’ch taith ffitrwydd gyda gwiriad iechyd. Bydd aelod o'r tîm yn mesur metrigau eich corff ac yn eich helpu i adolygu eich canlyniadau. 

Cadwch le drwy www.newportlive.co.uk/bethsyddymlaen neu drwy ap Casnewydd Fyw.

Dewch i Gwrdd â Chynrychiolwyr y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff a Chysylltwyr Cymunedol

Bydd cynrychiolwyr o Gynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Casnewydd a Chysylltwyr Cymunedol wrth law i gynnig cymorth i chi. Mae Cysylltwyr Cymunedol yn rhoi gwybodaeth a chyngor am y cymorth sydd ar gael, eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau lleol a chwrdd â mwy o bobl yn eich cymuned.

Covid-19 Commitment 
Newport Live Covid 19 Commitment Logo

Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel! 

Nod ymrwymiad Covid-19 Casnewydd Fyw yw rhoi tawelwch meddwl i’n cwsmeriaid wrth iddynt ymlaelodi neu ddefnyddio ein cyfleusterau. 

Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac UK Active ac rydym wedi cael Cymeradwyaeth Ymateb i Covid-19. Mae hyn yn cynnwys mwy o lanhau, llai o bobl, mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gwisgo gorchuddion wynebau yn ein holl ganolfannau.

Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau llawn yma. ​​​​​​​

UKA COVID-19 Response Approved Logo