Ym mis Medi rydym yn cynnig Profion Iechyd AM DDIM sy'n ffordd wych o osod man cychwyn ar gyfer eich taith ffitrwydd!
Cynhelir y Profion Iechyd gan ein timau ffitrwydd cwbl gymwys gan ddefnyddio peiriannau InBody a Tanita o'r radd flaenaf sy'n mesur:
-
Pwysau
-
BMI (Mynegai Màs y Corff)
-
Braster y Corff
-
Braster Perfeddol (Braster Peryglus o Amgylch yr Organau Mewnol)
-
Màs y Cyhyrau
-
Lefelau Hydradu
-
Dwysedd yr Esgyrn
Mae mesuriadau'r corff a gofnodir yn cael eu lanlwytho'n awtomatig i ap Iach ac Actif Casnewydd Fyw, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich statws iechyd, rheoli eich rhaglen hyfforddi a rhannu eich data symud â'r tîm ffitrwydd i dderbyn cymorth hyfforddiant personol.
Cynhelir archwiliadau iechyd yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio Ranbarthol, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.:
Gellir archebu profion iechyd ar-lein, trwy app Casnewydd Fyw dan ‘archebu gweithgareddau’ sydd wedi’i leoli dan ‘cymorth y gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656 757.
Gwobrau! Gwobrau! Gwobrau!
Bydd pawb sy'n llyfrau ymlaen ac yn cwblhau Profion Iechyd ym mis Medi yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill Band 4 Huawei.
Mae'r traciwr gweithgareddau yn cyfrif eich camau, curiad y galon, y calorïau a losgwch, a'r pellter a deithiwch i roi syniad clir i chi o'ch iechyd a'ch ffitrwydd i greu trefn hyfforddi fwy effeithiol.
Gallwch archebu profion iechyd ar-lein a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth â’r gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656757.