Er mwyn rhoi hwb i’ch rhaglen ffitrwydd yn y Flwyddyn Newydd rydym yn cynnig Profion Iechyd AM DDIM ym mis Ionawr sy'n ffordd wych o greu man cychwyn ar gyfer eich taith ffitrwydd!

Cynhelir y Profion Iechyd gan ein timau ffitrwydd cwbl gymwys gan ddefnyddio peiriannau InBody a Tanita o'r radd flaenaf sy'n mesur:

  • Pwysau

  • BMI (Mynegai Màs y Corff)

  • Braster y Corff 

  • Braster Perfeddol (Braster Peryglus o Amgylch yr Organau Mewnol)

  • Màs y Cyhyrau

  • Lefelau Hydradu

  • Dwysedd yr Esgyrn

Mae mesuriadau'r corff a gofnodir yn cael eu lanlwytho'n awtomatig i ap Healthy & Active Casnewydd Fyw, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich statws iechyd, rheoli eich rhaglen hyfforddi a rhannu eich data symud â'r tîm ffitrwydd i dderbyn cymorth hyfforddiant personol. 

Cynhelir profion iechyd yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio RanbartholFelodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.:    

Gellir archebu profion iechyd ar-lein, a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth staff y gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656 757.

Gwobrau! Gwobrau! Gwobrau!

Free Health Checks in January

Bydd pawb sy’n archebu ac yn cwblhau Prawf Iechyd ym mis Medi yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill Magic Bullet Nutri Blend.

Mae'r Magic Bullet Nutri Blend yn ddewin y gegin  amlbwrpas amryddawn. Mae’n cymysgu, torri, chwipio, deisio a malu – fel y gallwch baratoi byrbrydau a phrydau cyflym, iach a blasus mewn eiliadau!

Gellir archebu profion iechyd ar-lein, a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth staff y gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656 757.

Mae Telerau ac Amodau'n Berthnasol: Mae profion iechyd ar gael i holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw o 4 – 31 Ionawr 2022. Dim ond un prawf iechyd fesul cwsmer. Rhaid archebu Profion Iechyd ymlaen llaw drwy wefan Casnewydd Fyw, App Casnewydd Fyw neu drwy ffonio 01633 656757. Os oes gennych reolydd calon neu ddiffibriliwr wedi'i ffitio neu os ydych yn feichiog ni allwn gynnal Profion Iechyd oherwydd y defnydd o beiriannau InBody a Tanita fel rhan o'r asesiad iechyd.  Mae’r raffl yn agored i holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw (aelodau a phobl heb ymaelodi) sy'n archebu yn ogystal â chwblhau prawf iechyd o 4 Ionawr i 31 Ionawr 2022. Dim ond un tocyn fesul cwsmer; ni chaniateir tocynnau lluosog. Nid oes modd trosglwyddo na chyfnewid gwobrau ac nid yw’r gwobrau’n cynnwys costau teithio. Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys gan Casnewydd Fyw a chysylltir ag ef dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 72 awr i gynnal y raffl gyda manylion ar sut i hawlio’r wobr.  Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y diwrnod ac amser cau eu derbyn. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd cyn pen 7 diwrnod, ceidw Casnewydd Fyw yr hawl i ddewis enillydd arall ar hap o blith yr holl gystadleuwyr cymwys eraill. Nid yw’r raffl yn agored i aelodau staff, gwirfoddolwyr na Chyfarwyddwyr Casnewydd Fyw, nac aelodau agos o’u teuluoedd, asiantaethau neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth neu’r raffl. Mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw gystadlaethau neu rafflau yn ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg heb rybudd.