Male dancer lifting female dancer.JPG

Ym mis Rhagfyr eleni bydd fersiwn newydd sbon cwbl Gymreig o The Nutcracker yn cael ei pherfformio yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, wrth i’r ffefryn gan deuluoedd gael ei osod yng nghanol adeg y Nadolig gyda theulu Cymreig am y tro cyntaf erioed. Gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr jazz Duke Ellington, mae’r Rubicon Dance Company, ar y cyd â Glan yr Afon, yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf o’u cynhyrchiad llawn rhwng Dydd Gwener 10 a Dydd Sul 12 Rhagfyr, dan arweiniad y coreograffydd arobryn Jamiel Laurence.

Mae’r Rubicon Dance Company yn gwmni dawns proffesiynol newydd sbon, a grëwyd gan sefydliad celfyddydau cymdeithasol, Rubicon Dance. Crëwyd y cwmni mewn ymateb uniongyrchol i effaith dorcalonnus y pandemig ar ddawnswyr talentog o Gymru, gyda phob un bellach yn graddio i sector celfyddydol sydd wedi'i chwalu gan effaith COVID-19. Ymgymerodd saith o’r wyth dawnsiwr proffesiynol, sydd bellach yn aelodau o'r cwmni, hyfforddiant cyn-alwedigaethol llawn amser yn Rubicon Dance.

Dwedodd Kathryn Williams, Cyfarwyddwr Rubicon Dance, "Mae Cymru'n cynhyrchu dawnswyr proffesiynol anhygoel, ond prin y cânt gyfle i ymuno â chwmnïau dawns sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, ac nid yw'r pandemig ond wedi gwaethygu’r annhegwch hirsefydlog hwn. Doedden ni ddim yn gallu caniatáu i genhedlaeth o dalent Gymreig gael ei cholli, ac felly fe wnaethon ni greu’r Rubicon Dance Company. Rydym yn hynod falch o holl aelodau ein cwmni newydd – pob un yn dangos sut y gall pobl ifanc gyffredin o gymunedau Cymru wireddu eu breuddwydion a dawnsio gyda champ athletaidd eu harcharwyr."

Gwelir yr addasiad hwn o The Nutcracker trwy lygaid y prif gymeriad, Carys Williams, ac mae'n ailddehongli’r cymeriad gwerin traddodiadol Gymreig - y Fari Lwyd - ym mreuddwyd Carys lle mae’n dod yn oedolyn. Mae'r fersiwn galonogol hon o The Nutcracker yn archwilio themâu gwaredigaeth a thrawsnewid gyda swyn, hiwmor a dawns wefreiddiol.  Mae diwylliant Queer hefyd yn cael ei ddathlu trwy lygaid brawd iau Carys, Fysal.

Mae'r cynhyrchiad arbennig iawn hwn yn cynnwys perfformiadau gan Linda a Sheila, dau aelod o grŵp dawns Rubicon i bobl 60+ oed, sef NuWave, sydd wedi'i leoli yng Nglan yr Afon. Mae'r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys rhai o fyfyrwyr llawn amser presennol Rubicon ac aelodau o raglen gymunedol Rubicon.

Meddai Jamiel Laurence, coreograffydd The Nutcracker, a Chyfarwyddwr Creadigol newydd sbon Cwmni Dawns Rubicon: "Mae Cwmni Dawns Rubicon yn herio'r sefyllfa sydd ohoni trwy ddarparu cyfleoedd â thâl yng Nghymru i raddedigion sydd, ar ôl blynyddoedd o hyfforddiant, yn dal heb allu cael swyddi yn y byd dawns. Gyda Rubicon yn ysgogi newid cadarnhaol yng Nghymru, cefais fy nennu i greu math newydd o Nutcracker mewn fformat bale modern cyfoes. Gan weithio gyda'r sgôr traddodiadol a chyflwyno Cyfres Nutcracker Duke Ellington, dwi wedi defnyddio rhai o elfennau'r stori draddodiadol wrth wneud rhywbeth gwahanol a chwbl Gymreig gyda'r stori.  Mae cynhyrchiad cyntaf llawn y Rubicon Dance Company yn hwyliog ac yn afaelgar ac mae’n gwahodd cynulleidfaoedd i dreulio amser gyda'u theatrau lleol dros y Nadolig."

Mae Rebecca Long, sy’n ddawnswraig broffesiynol ac yn un o aelodau gwreiddiol y cwmni, yn ychwanegu: "Dyma lle dechreuodd y cyfan! Dechreuodd fy nhaith gyda Rubicon yma yn Glan yr Afon, fel rhan o grŵp ieuenctid Rubicon Dance, cyn mynd ymlaen i gwrs llawn amser Rubicon.  Eleni, cefais radd dosbarth cyntaf mewn dawns o Conservatoire Cerddoriaeth a Dawns Trinity Laban yn Llundain ac roeddwn yn pryderu am fy nyfodol, gyda COVID-19 yn cael cymaint o effaith ar y sector. Felly, dwi wrth fy modd cael bod gartref nawr, yn chwarae 'Carys' yng nghynhyrchiad cyntaf erioed y Rubicon Dance Company. Mae'n arbennig iawn iawn."

Ychwanegodd Leah Roberts, Swyddog Rhaglennu Glan yr Afon, 'Roeddem wrth ein boddau pan ddaeth Cwmni Dawns Rubicon atom i greu fersiwn Gymreig newydd sbon o’r clasur Nadoligaidd, The Nutcracker. Mae'r cwmni wedi bod yn gweithio'n galed yn ymarfer yn ein hadeilad ers dechrau mis Medi, felly rydym wedi bod mor ffodus o fod wedi gallu gweld y sioe yn datblygu. Mae'n sioe wych sy’n codi hwyl ac yn cynnwys wyth o ddawnswyr proffesiynol mwyaf cyffrous Cymru. Mae'n anrhydedd i ni roi eu rôl broffesiynol gyntaf i'r dawnswyr hyn ac rydym yn siŵr y byddant yn mynd yn bell iawn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.'

Bydd pum perfformiad o The Nutcracker yn cael eu cynnal rhwng 10 a 12 Rhagfyr 2021 yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd. Mae tocynnau ar gael nawr trwy ffonio 01633 656757 neu ar-lein yn https://www.newportlive.co.uk/en/events/d841d886-6d2a-ec11-80e3-00505601006a/