Bydd aelodau llawn newydd ffitrwydd Oedolion ac Iau sy'n ymuno ar neu cyn 15 Awst yn gallu defnyddio cyfleusterau Casnewydd Fyw AM DDIM yn ystod mis Medi.

Nid yw'r cynnig hwn ar gael ar aelodaeth sydd eisoes wedi'i ddisgowntio.

 

Aelodaeth Ffitrwydd i Bawb!

Mae aelodaeth Casnewydd Fyw yn eich galluogi chi i fanteisio ar y campfeydd, y pyllau nofio a’r dosbarthiadau ymarfer corff a geir ym mhob un o'n canolfannau.  

Fel rhan o'ch aelodaeth, gallwch fanteisio ar gymorth ffitrwydd personol am ddim sy’n cynnwys sesiwn groeso, archwiliad iechyd, rhaglen (cynllun ffitrwydd) a sesiwn 1 i 1 wythnosol gyda hyfforddwr ffitrwydd.

Gweld manylion Aelodaeth

Dim contractau! Dim ffioedd ymaelodi! 

Peidiwch ag oedi! Ymunwch â ni heddiw!

 

Pris Aelodaeth

Oedolion

Aelodaeth lawn i oedolion 17-59 oed.

£34/mis
£306/blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Pobl ifanc

Aelodaeth lawn i’r rhai 11 i 16 oed. 

£17/mis
£153/blwyddyn

Ymunwch ar-lein nawr

Covid-19 Commitment 
Newport Live Covid 19 Commitment Logo

Mae Casnewydd Fyw wedi ymrwymo i’ch cadw’n ddiogel! 

Nod ymrwymiad Covid-19 Casnewydd Fyw yw rhoi tawelwch meddwl i’n cwsmeriaid wrth iddynt ymlaelodi neu ddefnyddio ein cyfleusterau. 

Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ac UK Active ac rydym wedi cael Cymeradwyaeth Ymateb i Covid-19. Mae hyn yn cynnwys mwy o lanhau, llai o bobl, mesurau ymbellhau cymdeithasol, a gwisgo gorchuddion wynebau yn ein holl ganolfannau.

Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau llawn yma. ​​​​​​​

UKA COVID-19 Response Approved Logo

 

 

Telerau ac Amodau’n Berthnasol: Ni chodir tâl ar aelodau llawn newydd ffitrwydd oedolion ac iau ar gyfer mis Medi 2021 cyn belled â'u bod yn cymryd Aelodaeth Oedolion neu Iau llawn newydd rhwng 16 Gorffennaf a 15 Awst 2021. Mae'r cynnig hwn yn berthnasol i aelodaeth lawn o ffitrwydd oedolion a ffitrwydd iau yn unig. Nid yw’n ddilys ar unrhyw aelodaeth arall. Aelodau newydd yn unig.  Nid yw aelodau o ffitrwydd oedolion ac iau llawn presennol yn gymwys. Telerau ac amodau Aelodaeth Arferol sy’n berthnasol y gellir eu gweld ar https://www.newportlive.co.uk/cy/Telerau-ac-Amodau/. Bydd Debydau Uniongyrchol yn cael eu casglu Ddydd Mawrth 1 Hydref am y swm arferol.