Rhaglenni AM DDIM ym mis Tachwedd a Gwobrau! Gwobrau! Gwobrau!

Ym mis Tachwedd rydym yn cynnig i bob cwsmer Raglen Ffitrwydd AM DDIM sy'n ffordd wych o strwythuro'ch cynlluniau ymarfer corff, lleihau'r siawns o gael anaf a sicrhau'r canlyniadau gorau oll!

Rhaglen yw cynllun ffitrwydd digidol personol wedi'i deilwra i'ch nodau chi a grëir gan ein timau ffitrwydd cymwys.

Bydd y cynllun ffitrwydd personol yn manylu ar y math o ymarferion sy'n briodol i chi, faint o bwysau i'w rhoi ar y peiriannau, nifer yr ymarferion a’r cyfresi, y dechneg a’r camau cynyddu.  Bydd ein fideos arddangos yn dangos i chi sut i wneud yr ymarferion yn ddiogel a sut i gael y gorau o'ch sesiynau yn y gampfa i gyflawni eich nodau. Gallwn hefyd eich helpu gyda ffyrdd newydd o hyfforddi, o gynllun hollt i ymarfer ar batrwm pyramid.

Cewch weld eich rhaglen ar yr App Healthy and Active , ar wefan MyWellness neu gallwn roi copi print digidol i chi.

Cynhelir y rhaglenni yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio RanbartholFelodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.    

Gellir trefnu rhaglenni ar-lein a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth â’r gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656757.

Gwobrau! Gwobrau! Gwobrau!

 

Prize.jpg

Caiff pawb sy’n trefnu  ac yn cwblhau rhaglen ym mis Mehefin eu cynnwys mewn raffl i ennill Huawei Band 4.

Mae'r traciwr gweithgareddau yn cyfrif eich camau, curiad y galon, y calorïau a losgwch, a'r pellter a deithiwch i roi syniad clir i chi o'ch iechyd a'ch ffitrwydd i greu trefn hyfforddi fwy effeithiol.

Gallwch drefnu rhaglennu ar-lein a thrwy app Casnewydd Fyw dan ‘cymorth â’r gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656757.

Mae Telerau ac Amodau'n Berthnasol: Mae rhaglenni ar gael i holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw o 1 – 30 Tachwedd 2021. Dim ond un rhaglen a ganiateir fesul cwsmer. Rhaid trefnu rhaglenni o flaen llaw drwy wefan Casnewydd Fyw, App Casnewydd Fyw neu drwy ffonio 01633 656757. Mae’r raffl yn agored i holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw (aelodau a phobl nad ydynt yn aelodau) sy'n trefnu ac yn cwblhau rhaglen rhwng 1 a 30 Tachwedd 2021. Dim ond un tocyn fydd fesul aelod; ni chaniateir tocynnau lluosog. Nid oes modd trosglwyddo na chyfnewid gwobrau ac nid yw’r gwobrau’n cynnwys costau teithio. Caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o blith yr holl ymgeiswyr cymwys gan Casnewydd Fyw a chysylltir ag ef dros y ffôn neu drwy e-bost o fewn 72 awr i gynnal y raffl gyda manylion ar sut i hawlio’r wobr.  Ni chaiff ceisiadau a ddaw i law ar ôl y diwrnod ac amser cau eu derbyn. Os nad oes modd cysylltu â’r enillydd cyn pen 7 diwrnod, ceidw Casnewydd Fyw yr hawl i ddewis enillydd arall ar hap o blith yr holl gystadleuwyr cymwys eraill. Nid yw’r raffl yn agored i aelodau staff, gwirfoddolwyr na Chyfarwyddwyr Casnewydd Fyw, nac aelodau agos o’u teuluoedd, asiantaethau neu unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth neu’r raffl. Mae Casnewydd Fyw yn cadw’r hawl i dynnu unrhyw gystadlaethau neu rafflau yn ôl neu eu diwygio ar unrhyw adeg heb rybudd.