nye & jennie

Mae Theatr na nÓg ac Aneurin Leisure yn cyflwyno dangosiad o’i gyd-cynhyrchiaid NYE & JENNIE 
Wedi ei ffilmio yn Y Met, Abertyleri Tachwedd 2017

Ar gael i’w wylio ar Ddydd Sul 5 Orffennaf am 7.30yh, ar ben-blwydd y GIG.  
Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn y sioe yn fyw ar Zoom, yng nghwmni’r ysgrifennwr 

Meredydd Barker, y cyfarwyddwr Geinor Styles a’r actorion Gareth John Bale a Louise Collins.  

Roedd Aneurin Bevan a Jennie Lee yn gymrodyr, wedi rhannu fflat, ac wedi eiriol a brwydro dros sosialaeth; ef o Dredegar, ac yn un o feincwyr cefn penboeth y Blaid Lafur, a hithau’n ferch i löwr o Fife, ac yn AS Sosialaidd cyn bod yn ddigon hen i bleidleisio.

​Wedyn, bu priodas; ef mewn cariad angerddol, a hithau’n ceisio dygymod â charwriaeth arall oedd newydd ddod i ben.  Ill dau’n cael eu caru a’u casáu gan eu cyd-aelodau seneddol; ef oedd y ‘Bollinger Bolshevik’; hithau ei Arglwyddes Macbeth, yr angel dywyll ar ei ysgwydd. Datblygodd eu perthynas yn ystod blynyddoedd didostur y rhyfel, drwy anawsterau sefydlu’r GIG, gelyniaeth fileinig y 1950au, gyda’u cariad yn aeddfedu a dyfnhau. Dyma stori am bartneriaeth unigryw - un o briodasau gwleidyddol mwyaf eithriadol yr ugeinfed ganrif. 

Stori NYE & JENNIE

A enwebwyd am y Ddramodydd Gorau yn yr laith Saesneg – Gwobrau Theatr Cymru 2018
 
Archebwch yma i wylio’r sioe am ddim
Archebwch eich lle ar y sesiwn cwestiwn ac ateb yma. Bydd y sesiwn yn cynchwyn syth ar oly sioe.
 
www.nyeandjennie.com   www.theatr-nanog.co.uk