Yr haf hwn mae Casnewydd Fyw wedi datblygu Hyb Chwaraeon a Lles Casnewydd, sy’n llwyfan rhestru ar-lein i helpu pobl i gael gwybod mwy am weithgareddau chwaraeon a lles ledled Casnewydd.

Bydd yr adnoddau a ddarperir gan bartneriaid a sefydliadau lleol yn helpu i gefnogi lles meddyliol a chorfforol pobl a'u hysbrydoli i fyw bywyd hapusach ac iachach.  

Crëwyd yr Hyb Chwaraeon a Lles i dynnu sylw at glybiau, sefydliadau chwaraeon a gwasanaethau lles yng Nghasnewydd a'r cyffiniau a'u hyrwyddo. Gallwch gofrestru am ddim ac ychwanegu eich manylion am ddigwyddiadau chwaraeon, a bydd yn cael ei arddangos o dan amrywiaeth o gategorïau i'w gwneud yn haws i'r cyhoedd ddod o hyd i'r hyn y maent yn chwilio amdano.

 

Sut i Ymuno!

Os ydych yn glwb chwaraeon lleol, yn sefydliad chwaraeon, yn cynnig gwasanaeth, cymorth neu gyngor o ran lles meddyliol a chorfforol, yn cynnal sesiynau chwaraeon yn y gymuned neu'n helpu cymunedau ledled Casnewydd i gymryd rhan mewn chwaraeon, mae arnom eich angen!

Ymunwch â’r Hyb Chwaraeon a Lles nawr yn https://hub.newportlive.co.uk/register/ a chofrestru fel cyfranogwr newydd. 

Byddwch wedyn yn gallu creu eich cyfrif eich hun a rhoi eich manylion ar restr digwyddiadau’r hwb, sy'n rhoi cyfle i chi ddisgrifio pwy ydych chi, beth rydych chi'n ei wneud ac ychwanegu dolenni i'ch gwefan a sut y gall pobl gysylltu â chi. Mae'r broses gofrestru yn cymryd llai na 5 munud i'w chwblhau, ac unwaith y bydd wedi'i chymeradwyo bydd y rhestriad yn fyw ar-lein i bawb ei gweld.

Hoffai Casnewydd Fyw gynnwys cynifer o'u partneriaid a sefydliadau lleol â phosibl ar yr Hwb Chwaraeon a Lles ac adeiladu cronfa ddata o adnoddau chwaraeon a lles a fydd yn ysbrydoli pobl Casnewydd i fod yn hapusach ac yn iachach.

Gallwch archwilio'r Hwb Chwaraeon a Lles ac mae ei holl aelodau presennol yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr Hwb a manteision ymuno, cysylltwch â ni ar hub@newportlive.co.uk

Mae Hwb Chwaraeon a Lles Casnewydd yn chwaer hwb i Hwb Celfyddydau Casnewydd, a wnaed yn bosibl diolch i gais llwyddiannus i Gronfa Sefydlogiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Sefydliadau.