Mae Levelling the Playing Field wedi cysylltu â llu o bartneriaid yng Nghasnewydd i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi plant yn ardal ethnig amrywiol y Maendy trwy gyfrwng chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Mae Ysgol Gynradd Maendy wedi ffurfio partneriaeth â Chyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, Dyfodol Cadarnhaol (rhaglen cynhwysiant cymdeithasol ar sail chwaraeon sy'n cael ei rhedeg gan bartneriaid strategol LtPF, Casnewydd Fyw), Prosiect Ieuenctid Cymunedol ac eraill i dreialu prosiect ymyrraeth gynnar unigryw.

Yn gyntaf, mae'r ysgol yn nodi disgyblion y gallai fod angen arweiniad ychwanegol a modelau rôl cadarnhaol arnynt. Mae'r bechgyn a'r merched hynny'n cymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon ar ôl ysgol yn ogystal â gweithdai sy'n darparu gwybodaeth a chyngor ar faterion fel troseddau cyllyll, camddefnyddio cyffuriau, gangiau, trais ieuenctid a pherthnasoedd iach.

Caiff pobl ifanc eu hannog a'u cefnogi i fynychu sesiynau chwaraeon ac ieuenctid mynediad agored sy'n darparu mannau diogel ac wynebau diogel ar gyfer pobl ifanc a fyddai fel arall mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu, trais, ymddygiad gwrthgymdeithasol a chamfanteisio.

Ddydd Gwener (21 Ionawr) ymwelodd grŵp o wyth o fechgyn a merched Blwyddyn 6 o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig â Champfa Bocsio Sat Michael’s yng Nghrindai, Casnewydd, fel rhan o'r prosiect a chawsant hyfforddiant gan enillydd medal aur Gemau'r Gymanwlad, Sean McGoldrick (llysgennad Dyfodol Cadarnhaol a model rôl chwaraeon) a’r deiliad teitl Cymreig amatur lleol, Orlando Holley-Sotomi.

Dwedodd un plentyn a gymerodd ran yn y sesiwn focsio: "Pan dwi'n gwylltio, mae geiriau'n dod allan na ddylwn i eu dweud ac rwy'n torri pethau. Ar ôl heddiw, rwy'n teimlo y gallai bocsio fy helpu i gadw dan reolaeth." Dwedodd bachgen arall: "Dwi eisiau bod yn focsiwr proffesiynol!"

"Mae'r prosiect hwn yn creu proses atgyfeirio 'Lefelu'r Cae Chwarae’ unigryw sy'n cael ei harwain gan angen," esboniodd Lucy Donovan, Uwch Swyddog Datblygu ar gyfer Dyfodol Cadarnhaol.

"Nid yw llawer o'r plant hyn ar radar y gwasanaethau statudol – neu erbyn iddynt ddod i'w sylw, mae'n mynd yn llawer anoddach newid eu ffordd o fyw a'u patrymau ymddygiad.”

"Trwy ymgysylltu â'r plant pan maent yn iau, oed ‘ataliol’, gall ein tîm rheng flaen dynnu sylw at unigolion neu deuluoedd sydd angen cymorth ac arweiniad ychwanegol. Trwy fyd y campau, gall y plant ffurfio perthnasoedd cadarnhaol ag oedolion y gellir ymddiried ynddynt a gwybod bod rhywun yno i'w cefnogi.”

"Rydym yn gobeithio y bydd y broses hon yn fwy effeithiol nag aros i blant ddod i sylw'r heddlu, cyfiawnder ieuenctid neu’r gwasanaethau cymdeithasol cyn iddynt gael eu hatgyfeirio wedyn atom ni neu wasanaethau costus eraill."

Mae Martine Smith, Arweinydd Ecwiti yn Ysgol Gynradd Maendy, wedi meithrin perthnasoedd â llawer o deuluoedd yn yr ysgol sy’n ymddiried ynddi ac mae'n eiriolwr brwd dros gefnogi teuluoedd sy'n byw mewn tlodi eithafol ac sy'n profi rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau.

Mae hi'n gobeithio y bydd sesiwn focsio Ddydd Gwener diwethaf yn dod yn nodwedd reolaidd o'r sesiynau ataliol nos Wener yn y Maendy. Dwedodd: "Mae hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ar ein rhaglen gymryd rhan mewn chwaraeon yn hytrach na bod ar y strydoedd lle maent yn agored iawn i niwed.”

"Mae'r gwaith rydym yn ei wneud gyda'n partneriaethau yn gwbl hanfodol i'n cymuned. Dim ond hyn a hyn y gall y cymorth a gynigiwn yn yr ysgol ei wneud, felly mae rhoi mannau diogel ac wynebau diogel y tu allan i oriau ysgol yn golygu bod ganddynt oedolion y gallant ymddiried ynddynt a lleoedd i fynd pan fyddant allan yn y gymuned."

Mae Matt Elliott, Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid yn Cyfiawnder Ieuenctid Casnewydd, wedi'i leoli ar hyn o bryd o fewn y tîm Dyfodol Cadarnhaol. "Mae'n ymwneud â gwneud addysg yn hwyl, dysgu am fywyd y stryd a chadw'r plant yn ddiogel," meddai.

"Bob wythnos yn ein sesiynau mae'r plant yn dweud wrthym eu bod yn poeni am droseddau cyllyll, cyffuriau, alcohol, gangiau a chamfanteisio. Mae gennym blant yn dod i'r ysgol yn cario cyllyll am fod eu brodyr hŷn yn dweud wrthynt mai dyna'r unig ffordd y gallant gadw'n ddiogel. Mae'n ofnadwy.

"Ni all geiriau fynegi pa mor werthfawr yw hi iddynt ddod yma i Gampfa St Michael’s a gwneud rhywbeth cadarnhaol ac egnïol sy'n hyrwyddo ffordd iach o fyw ac yn eu dysgu ynghylch rheoli eu hymddygiad eu hunain. Mae'n aruthrol. Mae'n gwneud gwahaniaeth enfawr."

Caiff y ddarpariaeth ataliol ar nos Wener ei rhedeg gan Dyfodol Cadarnhaol, rhaglen chwaraeon ar gyfer datblygu ledled Gwent a ariennir trwy Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chwaraeon Cymru.

Mae Justin Coleman, Arweinydd Levelling the Playing Field, wedi bod yn cefnogi'r bartneriaeth newydd ddeinamig. Dwedodd: "Mae gan Gasnewydd gymuned unigryw; rhwydwaith o sefydliadau sy'n debycach i deulu ac sy'n cefnogi ei gilydd bob dydd. Maent i gyd yn wydn ac eto yn 100% rhyngddibynnol.”

"Bydd y dull amlasiantaeth unigryw hwn yn dangos i blant a'u teuluoedd eu bod yn bwysig i’r bobl yn eu cymuned. Mae'n sicrhau y gall plant ethnig amrywiol ledled Casnewydd ddod o hyd i fannau diogel ac wynebau diogel a fydd yn eu helpu i greu dyfodol cadarnhaol."

Mae'r prosiect hwn, sy'n destun ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham ar hyn o bryd, yn cryfhau gwaith sefydliadau arbenigol LtPF Casnewydd tuag at ein dau nod cyffredin:

  • Cynyddu nifer y plant ethnig amrywiol sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol

  • Atal a dargyfeirio plant sy'n amrywio o ran ethnigrwydd rhag mynd yn rhan o’r System Cyfiawnder Troseddol