I ddathlu'r diwrnod ymwybyddiaeth byd-eang, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn cynnal digwyddiad ddydd Sadwrn 11 Mawrth rhwng 10am a 4pm. Yn dilyn eu digwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, bydd Glan yr Afon yn croesawu pobl o bob oed i ymuno â nhw am ddiwrnod llawn cerddoriaeth, gweithdai, siaradwyr gwadd ysbrydoledig a mwy!
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 8 Mawrth 2023 ac eleni y thema yw #CofleidioTegwch. Dywed trefnwyr Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, "Cydraddoldeb yw'r nod, a thegwch yw'r ffordd o gyrraedd hynny. Drwy sicrhau tegwch, gallwn gyrraedd cydraddoldeb."
Dywedodd Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Glan yr Afon a threfnydd y digwyddiad, Sally-Anne Evans, 'Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gynnal y digwyddiad dathlu hwn eto eleni. Mae'n gyfle i bobl Casnewydd ddod ynghyd i gydnabod cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod yn lleol ac ar draws y byd. Bydd unigolion a grwpiau cymunedol anhygoel yn ymuno â ni ar gyfer diwrnod amrywiol, addysgol a hwyliog o gerddoriaeth, dawns, bwyd a mwynhad. Ymunwch â ni os gallwch, bydd yn ddiwrnod gwych.'
Bydd amrywiaeth o weithgareddau gwahanol ar y diwrnod i gymryd rhan ynddynt, gan ei wneud yn ddiwrnod llawn hwyl. Bydd y grwpiau cymunedol, Coffee 'n' Laughs ac Age Alive yn lansio'r digwyddiad wrth iddynt ddod ynghyd a chanu; bydd gwesteion gwadd, Heddlu Gwent a llawer o ffigyrau allweddol eraill yn y gymuned yn ymuno â Glan yr Afon ac yn rhoi sgyrsiau; a bydd Fforwm Menywod Casnewydd yn lansio Gwobr Bwrsari Fforwm Menywod Casnewydd ar gyfer 2023.
Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, fod 'Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle pwysig i godi ymwybyddiaeth a dathlu effaith a chyflawniadau menywod ar draws y ddinas, ledled Cymru ac yn fyd-eang. Mae Casnewydd Fyw yn falch iawn o ddod â'r digwyddiad pwysig hwn i Lan yr Afon unwaith eto yn 2023. Mae'r tîm wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd i gofleidio tegwch a bydd yn parhau i wneud felly gan greu byd cynhwysol i bawb. Byddwn yn annog pobl ar draws y ddinas i ymuno â ni yng Nglan yr Afon ar 11 Mawrth.'
Mae'r digwyddiad am ddim i bawb, gallai fod angen tocynnau ar gyfer rhai agweddau ond mae'r holl wybodaeth ar gael yn: Casnewydd Fyw | Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Os hoffech chi gael stondin, perfformio neu gymryd rhan mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â sally-anne.evans@newportlive.co.uk
#DRhM2023 #CofleidioTegwch
