James Coxon

Mae James Coxon, ffigwr amlwg yng nghymuned HPV Prydain a rasiwr HPV Ewropeaidd mawr ei fri, wedi ychwanegu cyflawniad rhyfeddol arall i'w restr o gyflawniadau. Ar 8 Gorffennaf, llwyddodd Coxon i dorri record 100 km Cymdeithas Feicio Ultra y Byd (WUCA) ar gyfer treic gorweddol yn Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas.

Mewn arddangosiad trawiadol o sgiliau, penderfyniad, a chyflymder, cwblhaodd Coxon y record mewn 2 awr, 3 munud a 59 eiliad, gyda chyflymder cyfartalog o 48.4 km yr awr (30.07 mya).  Nid yn unig y sicrhaodd y gamp ryfeddol hon record WUCA iddo ond hefyd ragorodd ar y record 100km dan do a osodwyd gan feic arferol , a safai ar 2 awr ac 19 munud.

Dwedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, "Roeddem yn falch iawn o allu cefnogi James gyda'i ymgais Record Byd ac wrth ein boddau gyda'i gamp, nid yn unig y torrodd y record, fe dorrodd 15 munud anhygoel oddi arni, sy'n dyst i baratoi ac ymroddiad James i'w gamp. Felodrom Geraint Thomas yw'r unig felodrom dan do yng Nghymru ac mae’n amgylchedd unigryw, roeddem mor falch i James dorri'r record yma yng Nghasnewydd a helpu i ysbrydoli beicwyr eraill i ymgymryd â'r gamp." 

Hwylusodd Casnewydd Fyw, ymddiriedolaeth hamdden, y cyfle anhygoel i Coxon, gan sicrhau mynediad iddo i sesiynau beicio trac galw heibio dan hyfforddiant proffesiynol yn Felodrome Geraint Thomas. Ac fe wnaeth y tîm beicio gymryd rôl ganolog yn ystod y digwyddiad, gan sicrhau'r cywirdeb a'r gonestrwydd mwyaf fel ceidwaid amser swyddogol ac fel swyddog ar gyfer Cymdeithas Feicio Ultra y Byd.

Cyflawnodd Coxon y gamp ryfeddol hon gyda chymorth offer arloesol. Defnyddiodd y treic Phantom, campwaith carbon i gyd a saerniwyd gan Tim Corbett yn Awstralia. Roedd y treic yn cynnwys olwynion 20 modfedd, cyfluniad 6-cyflymder (12-18), a chadwyn carbon 90 dant gan Digirit. Yn ogystal, dibynnodd Coxon ar derailleur Shimano 105, pedalau pŵer Wahoo, siwt groen Bioracer, a helmed Oakley i gael y gorau o'i berfformiad.

Mae'r gymuned HPV Brydeinig, cymuned rasio HPV Ewrop, a Casnewydd Fyw yn llongyfarch James Coxon ar ei gamp anhygoel.  Mae ymroddiad, talent a rhagoriaeth syfrdanol Coxon yn parhau i ysbrydoli athletwyr profiadol a newydd-ddyfodiaid fel ei gilydd.  Mae Casnewydd Fyw yn falch o gefnogi ymdrechion mor rhagorol ym myd beicio. 

Mae Felodrom Geraint Thomas yn gyfleuster beicio o'r radd flaenaf sy'n cael ei reoli gan Casnewydd Fyw.  Wedi'i leoli yng Nghasnewydd, Cymru, mae'r felodrom yn cynnwys trac dan do 250 metr, gan ddarparu prif leoliad ar gyfer digwyddiadau beicio, hyfforddiant a chystadlaethau.  Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf ac ymrwymiad i feithrin rhagoriaeth beicio, mae Felodrom Geraint Thomas wedi dod yn gyrchfan uchel ei pharch i athletwyr a selogion fel ei gilydd.

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol ddeinamig sy'n rheoli canolfannau hamdden, lleoliadau a gwasanaethau ledled Casnewydd, Cymru.  Wedi ymrwymo i ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach, mae Casnewydd Fyw yn ymdrechu i greu cyfleoedd ar gyfer rhagoriaeth ac i ymgysylltu â'r gymuned.