WE CAN icon purple logo

Mae Canolfan Ganser Felindre, Casnewydd Fyw a Chynllun Cenedlaethol Cyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Casnewydd (NERS) wedi gweithio gyda'i gilydd i lansio WE CAN; llwybr adsefydlu canser newydd yng Nghasnewydd. Bydd y llwybr, sy'n cael ei dreialu, yn helpu pobl sy'n byw gyda chanser gyda chyngor a chymorth i gynorthwyo eu lles.  Bydd y llwybr yn darparu mynediad at adnoddau ar-lein i gefnogi gweithgarwch corfforol ac yn helpu cleifion i fod yn fwy heini ac yn gryfach i gefnogi eu hadferiad ymhellach. 

Am chwe wythnos gyntaf llwybr WE CAN, bydd cleifion yn cael cymorth gan dîm Ffisiotherapi Arbenigol Felindre mewn meysydd fel gweithgarwch corfforol, rheoli blinder, maethiad da ac ymwybyddiaeth ofalgar drwy eu porth 'Patient Knows Best' ac adnoddau ar-lein.  Yna bydd cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Casnewydd Fyw a NERS Casnewydd a fydd yn darparu fideos ymarfer rhithwir y gall cleifion eu gwneud gartref. Yn ogystal, byddant yn cynnig ymgynghoriadau ar-lein gyda hyfforddwyr ffitrwydd i gefnogi eu gweithgarwch corfforol ac i alluogi pobl i barhau i fod yn egnïol y tu hwnt i'r cwrs.

Mae'r llwybr yn gynllun peilot ar gyfer rhaglen fwy a'i nod yw gwella'r ddarpariaeth gweithgarwch corfforol i oedolion sydd â diagnosis o ganser yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos a chynyddu lefelau gweithgarwch corfforol unigolion mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae Cymorth Canser Macmillan yn amcangyfrif y disgwylir i nifer yr oedolion sy'n byw gyda diagnosis o ganser gynyddu o 2 filiwn yn 2010 i 4 miliwn erbyn 2030.  Mae corff cynyddol o dystiolaeth sy'n amlygu manteision gweithgarwch corfforol i oedolion sy'n byw gyda diagnosis o ganser a thu hwnt.

Dywedodd Siobhan Pearce, Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol yng Nghanolfan Ganser Felindre "Mae llawer o fanteision i fod yn gorfforol egnïol yn ystod ac ar ôl triniaethau canser.  Mae rhai o'r manteision hyn yn cynnwys helpu i reoli sgil-effeithiau rhai triniaethau canser, ynghyd â gwell iechyd a lles cyffredinol.  Mae'r prosiect hwn yn gyfle i gefnogi cleifion i wella lefelau eu gweithgarwch.  Rydym yn edrych ymlaen at lansio prosiect WE CAN a bod yn gweithio mewn partneriaeth â Casnewydd Fyw a NERS Casnewydd".

Mae Canolfan Ganser Felindre yn darparu gwasanaethau canser arbenigol i dros 1.5 miliwn o bobl yn ne ddwyrain Cymru a thu hwnt. Nhw yw un o'r canolfannau canser mwyaf yn y DU. Bob blwyddyn, caiff dros 5,000 o gleifion newydd eu hatgyfeirio i Felindre, a chynhelir tua 50,000 o apwyntiadau newydd i gleifion allanol hefyd. 

Dywedodd Bryony Gurmin, Rheolwr Iechyd, Ffitrwydd a Lles yn Casnewydd Fyw "Mae hwn yn brosiect mor wych i allu bod yn rhan ohono. Mae'r gallu i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mor hanfodol i les corfforol a meddyliol pobl, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni ac mae ein gallu i'w cefnogi'n ddigidol yn gam enfawr ymlaen.  Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm o Felindre i gefnogi'r cleifion hyn a thyfu'r rhaglen yn y dyfodol." 

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth elusennol sy’n darparu gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol yng Nghasnewydd i gefnogi iechyd a lles pobl o’r ddinas a’r tu hwnt a'u hysbrydoli i fod yn hapusach ac yn iachach. Mae ganddynt raglenni hyfforddi a chyfranogi mewn llawer o chwaraeon ac maent hefyd yn darparu rhaglenni Datblygu Chwaraeon a Chelfyddydau ar sail dinas gyfan a rhanbarthol. 

Dywedodd Chris Pennington, Cydlynydd NERS Casnewydd "Rydym yn llawn cyffro o allu gweithio ochr yn ochr â'r tîm gwych hwn; mae rhai heriau eithriadol o anodd wedi wynebu pobl sy'n cael triniaethau canser yn ystod y pandemig ond rydym yn obeithiol y gall y rhaglen ddod â rhai canlyniadau cadarnhaol i unrhyw un sy'n cymryd rhan."

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn gynllun a ariennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers 2007. Mae'r Cynllun yn targedu cleientiaid 16 oed a hŷn sydd â chlefyd cronig, neu sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cronig.

I gael gwybod mwy am Ganolfan Ganser Felindre ewch i http://www.velindrecc.wales.nhs.uk/