516 374_National YandJ Track Champs_Squares3.jpg

Ar ôl Pencampwriaeth llwyddiannus yn 2022, bydd Casnewydd unwaith eto yn cynnal y Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol Ieuenctid a Iau yn Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas rhwng 24 a 28 Gorffennaf 2023.

Mae'r Pencampwriaethau yn ddigwyddiad allweddol yn y calendr seiclo trac ac yn arddangos y talent ifanc gorau sy'n dod i'r amlwg drwy'r rhengoedd o bob cwr o'r wlad wrth iddyn nhw gystadlu am deitl Pencampwr Cenedlaethol.  Mae llawer o'r beicwyr fydd yn cystadlu eisoes wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, a’u huchelgais yw cynrychioli Prydain ar lefel Olympaidd, Paralympaidd a rhyngwladol.

Dywedodd Steve Miller, Rheolwr Beicio Casnewydd Fyw, "Rydym yn falch o gefnogi British Cycling ac o arddangos y talent sydd gan ein gwlad i'w gynnig. Dyma gyfle gwych i fod yn dyst i rai o’r raswyr o’r safon uchaf ar y trac ac ni allem fod yn fwy bodlon o fod yn rhan ohono. Hoffwn estyn gwahoddiad cynnes i bawb i ddod i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad gwefreiddiol hwn.  Nid yn unig y cewch gyfle i weld rhai athletwyr anhygoel ar waith, ond byddwch hefyd yn dyst i rai seiclwyr addawol a allai o bosibl fynd ymlaen i fod yn Olympiaid y dyfodol.  Gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni am y profiad bythgofiadwy hwn yn Felodrôm Cenedlaethol Geraint Thomas, Cymru."

Meddai Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, "Rydym wrth ein boddau ein bod yn cynnal y Pencampwriaethau Trac Ieuenctid a Iau Cenedlaethol eto yr haf yma yn Felodrôm Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas. Mae'n ddigwyddiad cyffrous sy'n arddangos athletwyr  beicio Prydain y dyfodol. Mae cynnal y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle cyffrous i ddinas a phobl Casnewydd weld dyfodol beicio Prydain yn cystadlu benben ar ein trac."

Gwahoddir y cyhoedd i’r Pencampwriaethau i annog y dalent ar y trac. Mae’r tocynnau ar werth nawr am £5 am bàs diwrnod, neu gellir prynu pasys wythnos am £15 y pen o wefan Casnewydd Fyw.

Mae Casnewydd Fyw yn ymddiriedolaeth dielw ac  elusen gofrestredig, sy’n golygu bod yr holl arian y mae'n ei wneud yn cael ei ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae'n eu cynnig, felly mae holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw yn cefnogi’r gymuned leol trwy fynychu’r digwyddiadau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Bencampwriaethau Trac Ieuenctid ac Iau 2023, ewch i newportlive.co.uk neu facebook.com/GeraintThomasNationalVelodromeofWales a @WalesVelodrome ar Twitter.