Oherwydd yr argyfwng coronafeirws presennol, mae lleoliadau Casnewydd Fyw yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd hyd nes y cyhoeddir yn wahanol.
Isod, ceir diweddariad ar ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn.
Aelodaeth yn cynnwys Rhaglen Nofio a Thenis Integredig
Os oes aelodaeth gennych gyda Casnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, bydd eich aelodaeth yn cael ei rewi'n awtomatig o'r diwrnod y caeon ni. Mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddebydau uniongyrchol yn ystod y cyfnod y byddwn ar gau.
Gwersi Nofio
Bydd pob gwers nofio yn dilyn ein cau wedi ei rhewi yn syth. Bydd credydau presennol yn parhau i fod yn eu lle tan i ni allu ailafael yn y gwersi. I'r rhai ohonoch sydd â debyd uniongyrchol ar gyfer gwersi nofio, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddebydau uniongyrchol yn ystod y cyfnod pan fyddwn ar gau.
Pan fyddwn yn gallu ailagor byddwn yn eich hysbysu am y prosesau ail-gychwyn a phryd y byddwn yn gallu eich croesawu yn ôl ac ail-ddechrau eich gwersi nofio gyda ni.
Archebion a Digwyddiadau a Drefnwyd Ymlaen Llaw
Bydd un o'n tîm yn cysylltu ag unrhyw gwsmeriaid sydd wedi trefnu gweithgareddau neu sesiynau ymlaen llaw yn ein holl leoliadau. Gofynnwn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn gan fod gennym niferoedd mawr iawn i ddelio â nhw, gweithlu llai a mynediad cyfyngedig i'n systemau.
Perfformiadau yng Nglan yr Afon
For shows in April, we have contacted the majority of our bookers via email and phone to give you updates on your ticketing options, but for some customers the details we hold on file for you are either incorrect or outdated. If you have yet to hear from us please follow the below guidance and make sure you update the contact details we have on file for you.
Sioeau wedi eu haildrefnu
Ar gyfer sioeau ym mis Ebrill, rydym wedi cysylltu â'r rhan fwyaf o'n cwsmeriaid drwy e-bost a dros y ffôn i roi gwybodaeth am opsiynau o ran tocynnau, ond mae’r manylion sydd gennym ar gyfer rhai cwsmeriaid yn anghywir neu’n hen. Os nad ydych wedi clywed oddi wrthon ni eto, dilynwch y cyfarwyddyd isod a sicrhewch eich bod yn diweddaru'r manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer.
- A Night of Queen with the Bohemians – 15 Ebrill 2021
- An Audience with Mark 'Billy' Billingham – 2nd Tachwedd 2020
- Back to Bacharach - 9 Hydref 2020
- Ballet Cymru: Giselle - 6 & & Tachwedd 2020
- CAST - We Will Rock You – 14-17 Medi 2020
- Day at Night: The Doris Day Songbook - 2 Chwefror 2021
- Francis Rossi: I Talk Too Much - 22 Ebrill 2021
- Johnny Cash Roadshow - 30 Ebrill 2021
- Owen Money’s Jukebox Heroes 3 - 26 Mawrth 2021
- Seven Drunken Nights – 6 Mawrth 2021
- The Bon Jovie Experience - 30 Ionawr2021
- The Bowie Experience – 26 Chwefror 2021
- The Carpenters Story – 24 Ebrill 2021
- The Johnny Cash Roadshow – 30 Ebrill 2021
- The Upbeat Beatles - 29 Ionawr 2021
- Walk Right Back - The Everly Brothers Story - 3 Mai 2021
- West Side Story - 3 Mai 2021
- Woman Like Me: Little Mix Show - 17 Ebrill 2021
Sioeau wedi eu canslo
Mae'r sioeau isod wedi'u canslo.
- Ballet Cymru 2: Made in Wales - 31 Mawrth
- Believe – The Cher Songbook – 20 Mehefin
- Big Macs Wholly Soul Band at Newport Centre - 13 Mehefin
- Cosi Fan Tutte – 27 Mai
- Chores - 29 Mai
- Fagin? - 1 Ebrill
- Ian Waite & Vincent Simone – 18 Mehefin
- Joint Choir Concert - 16 Mai
- Liverpool Legends - 28 Mai
- Lost in the Rhythm - 2 Ebrill
- National Dance Company Wales: KIN -8 Ebrill
- Pryd Mae’r Haf - 30 Ebrill
- Rachel Parris - 15 Mai
- West Side Story - 16-18 Gorffenaf
Os nad yw eich sioe wedi ei rhestru uchod, rydym yn gweithio'n galed i aildrefnu ein perfformiadau a bydd eich tocynnau yn cael eu trosglwyddo i'r dyddiad newydd. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn cyn gynted ag y gallwn. Os nad ydych yn gallu dod ar y dyddiad newydd neu os na allwn aildrefnu, byddwn yn cynnig ad-daliad llawn i chi.
Ad-daliadau
Oherwydd bod ein gweithlu wedi lleihau ac am mai mynediad cyfyngedig sydd gennym i'n systemau, ni fyddwn yn gallu cynnig ad-daliad i chi nes i’n lleoliadau ailagor, pan fydd ein tîm llawn yn eu lle. E-bostiwch riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk gyda manylion y perfformiad yr oeddech i fod i fynd iddo a’ch tocynnau a byddwn yn eich ad-dalu cyn gynted â phosibl.
Support Us
Gan mai sefydliad ac elusen dosbarthu ddielw yw Casnewydd Fyw, os ydych yn gallu ac yn dymuno ein cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn, gallwch ddarganfod sut yma.
Gofynnwn am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn. Mae eich holl adborth cadarnhaol wedi ein calonogi’n fawr, ac rydym yn hynod ddiolchgar.