Mae Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) yn gyfres o ddigwyddiadau a gosodiadau creadigol dan arweiniad yr artist Alison Neighbour, sy'n archwilio'r effaith y gallai codiad yn lefel y môr ei chael ar arfordir Cymru, a'n perthynas â thir a dŵr. Yn y prosiect bydd Alison yn cydweithio â chymunedau lleol sy'n byw o fewn parthau rhynglanwol Casnewydd a Magwyr yn y dyfodol, gwyddonwyr hinsawdd lleol a chydag arbenigwyr yn y Sundarbans lle mae codiad lefel y môr eisoes yn fygythiad dyddiol.

Mae'r prosiect yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddiffyg sefydlogrwydd y tir y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ac i agor sgwrs am lifogydd, codiad lefel y môr, ac addasu yng Nghasnewydd a thu hwnt.

Gwahoddir cymunedau i gerdded gyda'i gilydd o fewn parth rhyng-lanw'r dyfodol, i ddogfennu, rhannu straeon, a dechrau sgyrsiau am ddyfodol y lle hwn wrth i ni geisio cydnabod ac addasu i'n harfordir sy'n symud.

Drwy'r teithiau cerdded a'r ymgynnull creadigol hyn bydd y prosiect yn ystyried sut rydym yn addasu i dirwedd sy'n newid a bydd yn gorffen gyda chreu "Canllaw i’r Dyfodol" aml-blatfform a wnaed o gyfraniadau cerddwyr gydol y flwyddyn. Gall cerddwyr ymuno â'r digwyddiadau neu gerdded yn eu hamser eu hunain, a chânt eu gwahodd i rannu eu teithiau a'u darganfyddiadau.  Mae'r prosiect hefyd yn chwilio am grŵp o "Geidwaid Goleudy" i fod yn ffrindiau cerdded gyda cherddwyr yn Sundarbans India.  Ym mis Ebrill bydd dau oleudy yn ymddangos ar draethlin bosibl yn y dyfodol, yn Sgwâr Magwyr ac yng Nghasnewydd, gan ein cysylltu drwy gyfrwng eu goleuadau â llanw delta'r Sundarbans, a gwasanaethu fel rhybudd a man ymgynnull ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.

Sylwadau Alison Neighbour 'Daeth y syniad am y goleudy hwn o awydd i danio'r larwm, i ddechrau sgwrs, i gysylltu pobl â’i gilydd i feddwl am sut y gallwn addasu i'r dyfodol. Roeddwn am droi'r syniad hwn o dir anhydrin yn y dirwedd ei hun yn rhywbeth diriaethol, fel y gellir ei deimlo mewn ffordd na all map neu erthygl papur obeithio ei wneud. Fe'i bwriedir fel pwynt cydgyfeirio, man cwrdd a chanfod, a safle o bererindod, o'r draethlin yn y gorffennol i'r dyfodol.'

Mae Canolfan Gelfyddydau a Theatr Glan yr Afon yn falch iawn o fod yn cefnogi prosiect Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) ym mis Chwefror eleni a bydd yn cynnal gweithdy am ddim yn ystod hanner tymor. Ddydd Gwener 25 Chwefror bydd Gweithdy Mapio Creadigol am ddim yng Nglan yr Afon sy'n agored i'r cyhoedd ynghyd â chyfranogwyr gwadd o grwpiau lleol

Yn y gweithdy hwn bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i greu eu mapiau eu hunain o barth rhynglanwol y gorffennol, y presennol a'r dyfodol yng Nghasnewydd, yr ardal honno lle mae'r cefnfor yn cwrdd â'r tir rhwng llanw a thrai. Wedi'i ysbrydoli gan fythau dyfrllyd am yr ardal leol, a chan  ddefnyddio mapiau ar ffurf collage a fydd yn helpu cyfranogwyr i feddwl am addasu i'r dyfodol. Bydd y gweithdy hefyd yn cynnwys taith gerdded fer ar hyd yr afon i gael ysbrydoliaeth.  Am wybodaeth a thocynnau cysylltwch â Danielle.rowlands@newportlive.co.uk

Ynglŷn â'r prosiect, dywed Swyddog Addysg a Chyfranogiad Glan yr Afon, Danielle Rowlands 'Rydym yn llawn cyffro i gael cefnogi'r prosiect hwn sy'n cysylltu cymunedau â'n llwybr arfordirol anhygoel. Mae gwaith Alison yn hardd ac yn ysgogi'r meddwl, gan ddefnyddio creadigrwydd i ymgysylltu â phobl â materion pwysig newid yn yr hinsawdd.

Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwastadeddau Byw, Newport Fusion, Cefnogaeth mewn nwyddau gan Pervasive Media Studio a Phartneriaeth Aber Afon Hafren.

I gael gwybod mwy am y gweithdy yng Nglan yr Afon, ewch i newportlive.co.uk/Riverfront. Mae rhagor o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) ar gael yn http://alisonneighbourdesign.com/work-in-progress/the-future-wales-coast-path/. I gymryd rhan, anfonwch e-bost at Futurewalescoast@gmail.com.