Mae Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn Cefnogi Artistiaid Llawrydd Casnewydd a Gwent

Mae Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru, rhaglen hyfforddi newydd am ddim, ar waith i gefnogi artistiaid llawrydd o Gasnewydd a Gwent sy'n gweithio yn y celfyddydau cyfranogol.

Mae'r artistiaid yn cael eu hyfforddi gan yr hyfforddwr artistiaid, Jon Dafydd-Kidd, ac mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Mae'r Llwybr wedi sefydlu perthynas a deialog ar ffurf hyfforddiant, sy'n caniatáu i'r hyfforddeion archwilio eu harferion, eu dyheadau, eu hanghenion a'u potensial mewn ffordd strwythuredig. Mae Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn gynllun peilot Cymru gyfan dan arweiniad Artworks Cymru i gefnogi artistiaid llawrydd sy’n gweithio gyda chelfyddydau cyfranogol. 

 

Cwrdd â'r Artistiaid

Andrea Lloyd-CarneyArtist Andrea Carney doing craft activities

Mae Andrea yn Ymarferydd Creadigol sy'n defnyddio ei sgiliau fel gwneuthurwr, i ennyn diddordeb pobl o bob oed mewn prosiectau celf gyfranogol.  Mae’n teimlo’n gryf am waith rhyngweithiol ac yn mwynhau troi'r 'cyffredin yn anghyffredin'. Mae ei phrofiad o weithio gyda phobl sy'n byw gyda dementia ac aelodau iau o'r gymuned wedi ei helpu i ddatblygu dull celf 'does dim methu', sy'n ennyn diddordeb y cyfranogwyr heb ofni methu, ac sy'n cwmpasu manteision therapiwtig creadigrwydd.

"Mae bywyd fel arfer yn brysur, ond mae'r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn arafach ac yn aml yn heriol wrth fyw drwy'r pandemig. Mae'r cyfle i fod yn rhan o'r rhaglen hon yn gyffrous ac rwy'n edrych ymlaen at gael lle diogel lle gallaf fyfyrio ar fy ngwaith ac archwilio beth sydd nesaf. Rydym wedi clywed llawer o gyfeirio at y 'normal newydd' o ran y pandemig ac yn aml gall hynny achosi pryder drwy anwybodaeth o’r hyn a ddaw.  Fodd bynnag, rwy'n awyddus i ddarganfod sut gallai fy 'normal newydd' personol fod mewn perthynas â'm hymarfer proffesiynol drwy archwilio ac egluro fy opsiynau."

"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael y cyfle hwn i fod yn rhan o'r rhaglen.  Rwy'n ei weld nid yn unig fel cyfle i ailffocysu fy ymarfer proffesiynol, ond i gysylltu ag artistiaid eraill a chael y posibilrwydd o weithio gyda Theatr Glan yr Afon.  Rwyf wedi gweld eisiau’r rhyngweithio a gawn yn y gorffennol, yn gweithio'n gyfranogol ac rwy’n edrych ymlaen at yr adeg pan allaf weithio'n agos gyda phobl eto."

 

Kate Mercer
Head shot of artist Kate Mercerhttps://katemercer.co.uk

Mae Kate yn artist gweledol a ddaeth i astudio yng Nghasnewydd ac yna ni adawodd. Bu'n ymwneud â The Project Space ar Commercial Street rhwng 2014 a 2015 (prosiect dan arweiniad tîm Datblygu Celfyddydau Cymunedol Casnewydd yng Nghanolfan Glan yr Afon). Ynghyd â'i chyd-artist Sarah Goodey, mae Kate yn gyd-drefnydd Celf ar y Bryn / Art On The Hill Casnewydd. Mae hi'n aelod o Phrame Cymru ac yn helpu i gynnal y llwyfan hyrwyddo #ARTSNEWYDD fel rhan o Rwydwaith Artistiaid Cymunedol Casnewydd.

Nod Kate o ran elwa o'r rhaglen hyfforddi hon yw magu’r hyder i redeg ei phrosiectau cyfranogol ei hun fel rhan o'i hymarfer celf weledol, i annog deialog a chyfleoedd i gynnwys eraill wrth wneud gwaith celf, ond hefyd cael profiad a dealltwriaeth o heriau y mae hyn yn eu cynnig mewn amgylchedd celfyddydol ar ôl COVID-19.

"Rwyf wedi helpu llawer o bobl eraill i greu a chysylltu drwy fentrau celf yn y ddinas ond nid wyf o reidrwydd wedi cael y cyfle i arwain fy mhrosiectau fy hun na gweithio gydag eraill yn y ffordd honno. Yn arbennig nawr, gyda’r pandemig yn cyfyngu ar fynediad at bob ffurf celf, nid yw erioed wedi teimlo'n bwysicach gweithio mewn ffordd sy'n diogelu gofod pobl eraill i fod yn greadigol waeth beth fo'u cefndir - cyfnewid syniadau â nhw a'u galluogi i fynegi pwy ydyn nhw a sut maen nhw'n teimlo. Bydd yr hyn rwy'n ei ddysgu fel rhan o'r rhaglen o fudd nid yn unig i'm hymarfer i, ond byddaf hefyd yn ei drosglwyddo i eraill, gan gyfoethogi ecoleg gelf ehangach Casnewydd."

 

Headshot of artist Emily Poole

Emily Poole

Ers pan oedd yn ifanc, mae Emily wedi bod yn ymwneud â theatr leol yng Nghasnewydd. Graddiodd Emily yn y Celfyddydau Perfformio ac ar hyn o bryd mae'n athrawes Celfyddydau Perfformio lawrydd. Mae hi'n angerddol iawn tuag at y celfyddydau ac yn defnyddio theatr fel cyfrwng i helpu eraill.

"Mae cymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi hon wedi bod yn gyfle gwych. Hoffwn ddatblygu fy sgiliau, cyfleoedd a dealltwriaeth o'r diwydiant drwy hyfforddi. Mae'n anhygoel bod Canolfan Glan yr Afon, Artworks Cymru a Jon Dafydd Kidd yn cynnig y profiad hwn, yn enwedig yng Nghasnewydd. Rwy'n ddiolchgar iawn o gael fod yn rhan o'r rhaglen hon ac edrychaf ymlaen at y daith a'r datblygiad o fewn y sector celfyddydau cyfranogol."

 

 

 

 

 

Headshot of artist Sara Smith

 

Sara Smith

Mae Sara wedi bod yn ymarferydd Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig Llawrydd ers 2014 a hefyd wedi mwynhau addysgu Celf a Dylunio mewn Addysg Bellach. Mae ganddi gefndir yn y celfyddydau gweledol ond treuliodd amser hefyd yn y celfyddydau golygfaol a dylunio setiau. Ar hyn o bryd mae Sara yn canolbwyntio ar ddatblygu ei hymarfer celf personol wrth astudio MA mewn Celf Gain.

"Ar hyn o bryd, fy uchelgais yw datblygu cymuned y celfyddydau o amgylch fy ardal leol, nid yn unig i gyfranogwyr ond i'r artistiaid eu hunain. Byddwn hefyd yn datblygu fy arferion gwaith ymhellach er mwyn cynnal fy incwm ar lefel ymarferol ond hefyd er mwyn parhau i gefnogi gwerth y celfyddydau i gymuned fel fy un i."

"Pan gymerwch chi gennym ni bopeth rydyn ni'n berchen arno neu ei eisiau, y cyfan sydd ar ôl yw'r amgylchedd a'r celfyddydau. Mae'n aml yn anweledig ac anaml y caiff ei werthfawrogi ond hebddo, nid oes enaid."

 

 

 

 

Jon Dafydd-Kidd, Coach
jondafyddkidd.com

Headshot of artist Jon Dafydd-KiddAstudiodd Jon gerddoriaeth yng Nghaeredin cyn mynd i fyd theatr ar ôl dychwelyd i Gymru. Ers hynny, mae wedi teimlo'n freintiedig iawn yn gweithio gyda'i gyfranogwyr fel Pennaeth Cyfranogiad Theatr Hijinx. Yn y rôl hon mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwaith Hijinx gyda'r sectorau cymunedol ac ieuenctid. O 2019, bu'n Gynhyrchydd Creadigol ar gyfer prosiect cyntaf Theatr Gerdd Cymru i ymgysylltu â phobl ifanc; prosiect y mae'n hynod falch ohono, ac mae’n awyddus iawn nawr yn dechrau’r ail gam. Jon yw Cynrychiolydd Rhyngwladol ASSITJ UK a Chadeirydd Rhwydwaith Celfyddydau Cynhwysol Rhyngwladol (IIAN). Mae hefyd yn gweithio ar ei liwt ei hun fel gweithiwr creadigol gyda nifer o sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt (gan gynnwys Age Cymru, Theatr Iolo, Mess Up the Mess a Theatr Flying Cloud). Mae Jon yn Hyfforddwr Trawsnewidiol sy’n canolbwyntio’n arbennig ar gefnogi sefydliadau creadigol a chelfyddydol.

Dywedodd Jon "Yn wreiddiol roedd disgwyl iddo redeg o ddechrau 2020, mae’n teimlo bod llawer mwy o angen y Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn 2021, wrth i bobl greadigol ac artistiaid geisio ymdopi ar ôl y pandemig. Rwyf wrth fy modd yn cael gweithio ochr yn ochr â'r pedwar artist hyn ar eu teithiau, ac yn cael fy mhartneru â lleoliad gwych sy’n buddsoddi yn ei berthynas â thalent leol, er budd y gymuned y mae'n perthyn iddi."

 

Rhaglen Llwybr Hyfforddi Artistiaid Cymru yn rhaglen am ddim diolch i gymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Paul Hamlyn.