Creative Space clear out bilingual text over colourful arts supplies

 

Y mis Chwefror hwn, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn cynnal ein Gwerthiant Dewch a Phrynu Deunydd Celf cyntaf.

Oes gennych chi stiwdio o ddeunyddiau nad ydych chi'n eu defnyddio?  Cyflenwadau dros ben?  Fframiau sydd angen cartref da neu bropiau mewn storfa sydd angen eu clirio?

Ddydd Sadwrn 12 Chwefror 2022 rhwng 10am a 2pm, byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno ag artistiaid, sefydliadau a gwerthwyr arbenigol lleol i ailddosbarthu adnoddau i eraill a allai eu defnyddio yn hytrach. Mae'r digwyddiad hwn yn ffordd anffurfiol a chyfeillgar o ailgylchu nwyddau diangen yn ein cymuned. 

Mae croeso i chi ddod ag unrhyw eitemau neu unrhyw beth yr hoffech ei werthu ar y diwrnod.  Rhaid i chi gadw eich bwrdd ymlaen llaw drwy gysylltu ag alyson.perry@newportlive.co.uk.

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y digwyddiad hwn, rhowch wybod i dîm Glan yr Afon erbyn dydd Mercher 3 Chwefror.

 

Rhagor o wybodaeth:

  • Maint y bwrdd yw 6' x 3' gyda chadeiriau ar gael am ddim.  Mae croeso i chi arddangos eitemau mwy ar y llawr o amgylch eich bwrdd penodedig ar yr amod nad yw'n rhwystro llwybrau cerdded neu allanfeydd tân yn yr adeilad.  Rhaid i ddeiliad y stondin ddarparu unedau arddangos ychwanegol.

  • WI-FI ar gael.

  • Bydd te a choffi am ddim i ddeiliaid stondinau.

  • Mae modd llwytho o 9am y tu allan i'r adeilad. Cedwir parcio ar y safle ar gyfer mannau hygyrch.  Mae parcio ar gael ym meysydd parcio Friars Walk a Chanolfan Siopa Ffordd y Brenin, neu yn y meysydd parcio cyhoeddus ar Ffordd y Brenin.

​​​​​​​

Telerau ac Amodau

  • Rhaid i nwyddau sydd ar werth fel rhan o'r digwyddiad hwn fod yn eiddo personol i ddeiliaid y stondinau.

  • Mae Glan yr Afon yn cadw'r hawl i wrthod dosbarthu unrhyw ddeunydd y mae'n barnu ei fod yn anaddas yn unol â pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol Casnewydd Fyw.

  • Os yw deiliad stondin yn ansicr a yw natur yr hysbyseb neu'r gweithgaredd hyrwyddo yn addas, anfonwch gopi neu drosolwg at alyson.perry@newportlive.co.uk.

  • Rhaid i ddeunydd deiliaid stondinau i’r cyfryngau fod yn gywir, yn gyfreithlon, yn gymeradwy, yn weddus, yn onest ac ar sail gwirionedd, a chydymffurfio â Chod Ymarfer Hysbysebu Prydain (2010) a’r Ddeddf Disgrifiadau Masnach (1968), ac unrhyw ddeddfau neu reoliadau eraill sy'n sicrhau safonau hysbysebu. Rhaid i chi fod yn berchen ar neu fod gennych awdurdod i ddefnyddio unrhyw logo, deunydd neu nod sicrhau ansawdd a ddefnyddir yn y copi.  Ni fydd Glan yr Afon yn cael ei ddal yn gyfrifol os yw'r uchod wedi'i ddefnyddio heb awdurdod.

  • Rhaid i stondinau gael eu staffio gan ddeiliaid stondinau (naill ai eich hun neu gan enwebai) drwy gydol y digwyddiad - ni fydd Glan yr Afon yn gallu goruchwylio'r bwrdd ar eich cyfer.

  • Mae deiliaid stondinau yn gyfrifol am ddiogelwch eu heiddo.  Ni ellir dal Glan yr Afon yn gyfrifol am ddifrod neu ladrad oni bai ei fod yn cael ei achosi gan esgeulustod dybryd. 

  • Rhaid i unrhyw ddeiliad stondin sy'n gwerthu / rhoi bwydydd i ffwrdd allu dangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth Hylendid Bwyd.  Ni chaniateir gwerthu nwyddau â chyfyngiad oed yn y digwyddiad hwn.

  • Dim ond dros dro y caniateir parcio yn yr ardal a ddynodwyd at ddiben llwytho neu ddadlwytho. Nid oes unrhyw gerbyd i'w adael - hyd yn oed dros dro mewn modd sy'n rhwystro mynediad i gyfleusterau neu ddiogelwch / mynediad tân / mannau ymadael yr adeilad.

  • Oherwydd natur y digwyddiad, gall cynllun lleoliadau stondinau newid hyd at y funud olaf.  Er y bydd Glan yr Afon yn ymdrechu i fod yn gymwynasgar ac yn deg i bob cwsmer, weithiau mae maint a chynllun cymhleth y digwyddiad yn golygu na fydd lleoliad stondinau'n cael ei gyfathrebu cyn cyrraedd ar y diwrnod.

​​​​​​​

Rheoliadau Penodol Covid-19 

Rhaid i bawb sy'n mynychu’r safle gydymffurfio â'r mesurau diogelwch Covid a nodir gan y trefnwyr. Dyma’r rhestr ar hyn o bryd:

  • Rhaid i bob deiliad stondin NAILL AI gael ei frechu'n llawn (gyda 14 diwrnod clir ers y brechiad) NEU fod â thystiolaeth o Brawf Llif Unffordd negatif wedi'i gymryd o fewn 24 awr i gyrraedd y safle. NI DDYLAI deiliaid stondinau sydd â symptomau COVID-19 ar y diwrnod fod yn bresennol.

  • Mae'n ofynnol i bob deiliad stondin ddarparu gwybodaeth tracio ac olrhain yn Swyddfa Docynnau Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon wrth gyrraedd.

  • Mae'n ofynnol i bob deiliad stondin gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.

  • Rhaid i bob deiliad stondin wisgo mygydau tra byddant ar y safle oni bai eu bod wedi'u heithrio.

    ​​​​​​​

Mae croeso i chi rannu gydag unrhyw un y credwch y byddai ganddynt ddiddordeb i ddod neu gael  stondin.

Diolch - edrychwn ymlaen at glywed gennych.