Gall British Cycling gyhoeddi y bydd Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol | HSBC UK 2022 yn cael eu cynnal yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, yng Nghasnewydd, rhwng 28 a 30 Ionawr 2022.

Y digwyddiad yn 2022 fydd y cyntaf i gael ei gynnal y tu allan i Fanceinion ers 1994, gyda beicwyr gorau Prydain yn brwydro am y crysau pencampwyr cenedlaethol coch, gwyn a glas a fawr chwenychir.

Bydd tocynnau'n cael eu blaenoriaethu ar gyfer aelodau teulu a ffrindiau beicwyr ac i drigolion Casnewydd, er mwyn rhoi cyfle i gefnogwyr a beicwyr lleol weld rhai o rasio gorau'r byd yn eu dinas enedigol.

Bydd rhagor o fanylion am docynnau a sut y gall cefnogwyr wylio'r digwyddiad o'u cartref yn cael eu cadarnhau maes o law.

Bydd modd gwneud ceisiadau ar gyfer y digwyddiad o fis Hydref, gyda rhestr lawn o feicwyr i'w chyhoeddi ym mis Rhagfyr. Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol British Cycling, Brian Facer: "Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dychwelyd i Gasnewydd ym mis Ionawr a rhoi cyfle i bobl mewn gwahanol rannau o Brydain brofi gwefr beicio Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol byw.

"Gyda'r Ganolfan Feicio Genedlaethol ym Manceinion ar ddechrau prosiect adnewyddu cyffrous, rydym yn hynod ddiolchgar i Gasnewydd Fyw, Cyngor Dinas Casnewydd a chydweithwyr yn Beicio Cymru am eu cefnogaeth i ail-leoli digwyddiad y flwyddyn nesaf i'r lleoliad a fu’n chwarae rhan hollbwysig yn yr wythnosau olaf cyn Tokyo yn gynharach yn yr haf.

"Gyda Gemau'r Gymanwlad yr haf nesaf bellach ar y gorwel, rwy'n siŵr y byddwn yn gweld safon anhygoel o uchel o gystadlu, a bydd yn gyfle gwych i bencampwyr y dyfodol greu argraff."

Bydd gwaith adnewyddu'r Ganolfan Feicio Genedlaethol ym Manceinion yn dechrau yn gynnar yn 2022 ar ôl i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo gan gynghorwyr y ddinas ym mis Gorffennaf 2021. Bydd cyfanswm o £26 miliwn yn cael ei wario i newid systemau mecanyddol, trydanol a phlymio'r cyfleuster a gwella ardaloedd gwylwyr, a bwriedir i’r gwaith gael ei gwblhau yn gynnar yn 2023.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwyf wrth fy modd bod Casnewydd yn cynnal y digwyddiad chwaraeon nodedig hwn a bydd croeso cynnes i'r cyfranogwyr, eu timau cymorth a'u gwylwyr.

"Rydym yn falch bod Casnewydd wedi cael ei dewis i gynnal y digwyddiad wrth iddo symud o Fanceinion am y tro cyntaf ers bron tri degawd, gan gryfhau ein statws cenedlaethol a rhyngwladol fel dinas diwylliant, hamdden a chwaraeon." 

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw:  "Rydym wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Dinas Casnewydd i ddod â'r digwyddiad gwych hwn i Gasnewydd. Gan mai dyma'r tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal y tu allan i Fanceinion ers 1994, rydym yn falch o allu cefnogi British Cycling a chroesawu athletwyr yn ôl yn dilyn eu llwyddiant gwych yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Tokyo.

"Yn ystod ail gyfnod clo'r coronafeirws ym mis Ebrill 2021, fe wnaethom gwblhau'r gwaith o newid y goleuadau yn Felodrom Geraint Thomas, nid yn unig ar y trac ond hefyd y mewnfaes a gweddill y lleoliad.  Bydd beicwyr yn y digwyddiad yn gallu elwa o'n goleuadau LED carbon isel newydd a osodwyd trwy gymorth Cyngor Dinas Casnewydd a Chwaraeon Cymru.

"Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ni barhau i ailadeiladu yn sgil heriau'r pandemig, a rhoi Casnewydd ar y llwyfan cenedlaethol unwaith eto."

Dywedodd Anne Adams-King, Prif Weithredwr Beicio Cymru: "Mae Beicio Cymru yn falch bod Pencampwriaethau Trac Cenedlaethol | HSBC UK yn cael eu cynnal yng Nghasnewydd yn 2022, ar ôl y siom o fethu cynnal Cwpan y Cenhedloedd, a bydd y pencampwriaethau'n rhoi cyfle i ni gynnal digwyddiad nodedig wrth i ni nesáu at flwyddyn Gemau'r Gymanwlad."

Cynhelir sesiwn gymhwyso gaeëdig ar gyfer y rhai y mae angen iddynt fodloni amser yn y lleoliad nos Iau 27 Ionawr 2022. Gellir e-bostio cwestiynau ychwanegol am amserau cymhwyso ar gyfer y digwyddiad i events@britishcycling.org.uk.