Yn dilyn y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw, mae Casnewydd Fyw yn falch iawn o groesawu cwsmeriaid yn ôl i'w gyfleusterau o ddydd Llun 10 Awst ymlaen.

Mae'r sefydliad yn rhoi paratoadau terfynol ar waith i ailagor a bydd yn rhannu rhagor o fanylion yr wythnos nesaf ar gyfleusterau a sesiynau a fydd ar gael i gwsmeriaid, ond disgwylir i hyn gynnwys cyfleusterau dan do gan gynnwys campfeydd, neuaddau chwaraeon, trac y felodrom, pyllau nofio a dosbarthiadau ymarfer corff ynghyd â dychwelyd mwy o ardaloedd a gweithgareddau awyr agored.

Tra bu Casnewydd Fyw ar gau, bu’n paratoi ei gyfleusterau ar gyfer dychwelyd aelodau o'r cyhoedd gan gynnwys glanhau ychwanegol, gwella'r broses archebu cwsmeriaid, creu gwefan gyffrous newydd, diwygio amserlenni a gweithredu ymbellhau cymdeithasol er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid a chydweithwyr.

Mae Casnewydd Fyw hefyd wedi gwneud gwelliannau i'w cyfleusterau gan gynnwys uwchraddio'r trac athletau a'r ardal daflu, gosod paneli solar ar Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, adnewyddu cyrtiau awyr agored ac ehangu ein campfeydd i ardaloedd eraill o fewn yr adeiladau. 

Ar ôl dychwelyd, bydd yn ofynnol i gwsmeriaid ddilyn canllawiau Covid-19 ychwanegol a byddant yn gweld newidiadau eraill i helpu i gadw pawb yn ddiogel gan gynnwys lleihau nifer y defnyddwyr mewn adeiladau, adleoli campfeydd ac offer yn ogystal ag arwyddion a glanwaith ychwanegol. 

Er mwyn sicrhau diogelwch pawb ac i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd yn ofynnol i bob cwsmer sy'n defnyddio gwasanaethau a chyfleusterau gael cerdyn Casnewydd Fyw. Mae mwy o fanylion am sefydlu eich cyfrif a chael cerdyn i'w gweld ar wefan Casnewydd Fyw.  

Dywedodd Steve Ward, Prif Weithredwr Casnewydd Fyw, ‘Pleser o'r mwyaf yw gallu croesawu ein cwsmeriaid yn ôl i Gasnewydd Fyw. Er ein bod wedi gallu cefnogi'r gymuned mewn ffyrdd eraill drwy ddarparu cyfleusterau hyfforddi ar gyfer athletwyr gorau Cymru a chynnal rhaglen adfer coronafeirws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, rwyf wrth fy modd yn ailagor ein drysau i'r cyhoedd unwaith eto ac i weld rhai wynebau cyfarwydd. Mae ymarfer corff mor hanfodol i iechyd a lles ein cwsmeriaid, yn enwedig yn ystod y sefyllfa ddigynsail hon, ac mae'n wych gallu cefnogi pobl Casnewydd a thu hwnt ac i ysbrydoli dinas iach ac egnïol."

Bydd gwybodaeth fanylach am ailagor, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am aelodaeth a debydau uniongyrchol, yn ogystal â newidiadau i'r cyfleusterau, yn cael eu darparu yr wythnos nesaf. Mae'r ailagor yn eithrio Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, a reolir hefyd gan Casnewydd Fyw, a gyhoeddodd yn gynharach y mis hwn na fydd yr holl berfformiadau a drefnwyd tan 31 Rhagfyr 2020 yn mynd yn eu blaen, ond gobeithir y bydd y theatr yn agor yn yr Hydref gyda rhaglen arall o weithgaredd.