Mae Casnewydd Fyw, yr elusen sy'n darparu gwasanaethau theatr, celfyddydau, chwaraeon, hamdden, cymunedol a diwylliannol ar draws Dinas Casnewydd wedi penodi Pennaeth Theatr, Celfyddydau a Diwylliant newydd sef Gemma Durham.

Bydd y rôl bwysig hon yn gyfrifol am arwain rhaglen y celfyddydau ar gyfer Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn ogystal â chynnig diwylliannol ehangach ledled Casnewydd a'r cyffiniau.

Mae Glan yr Afon, sy'n rhan o Gasnewydd Fyw, eisoes yn adnabyddus am gynnal rhaglen o berfformiadau, dangosiadau a gweithdai o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn ac mae'n gweithio i gefnogi datblygiad proffesiynol artistiaid sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae tîm Datblygu Celfyddydau'r sefydliad yn cynnig cyfleoedd creadigol i bobl o bob oed gan gydlynu llawer o wahanol brosiectau, digwyddiadau, gweithgareddau a gweithdai celfyddydol ar draws y ddinas a’r tu hwnt. Mae Glan yr Afon yn adnabyddus am gyflwyno eu pantomeim blynyddol, gŵyl Sblash Mawr a dathliad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ynghyd â thîm technegol a gweithrediadau o'r radd flaenaf.

Gemma, a fydd yn dechrau’r rôl ym mis Ionawr 2022, yw Rheolwr Marchnata Casnewydd Fyw ar hyn o bryd sy'n cynnwys marchnata ar gyfer gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol yr elusen. Mae ganddi gyfoeth o brofiad yn y sector wedi gweithio yng Nghwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Harlech a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae hefyd wedi bod yn aelod o fwrdd Tŷ Cerdd, sefydliad sy'n hyrwyddo ac yn dathlu cerddoriaeth Cymru.

Dywedodd Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw "Mae Glan yr Afon yn theatr a chanolfan gelfyddydau wych sy'n ymdrechu i ysbrydoli pobl i fod yn hapusach ac yn iachach drwy gysylltu ein cynulleidfaoedd, ein cymunedau, ein gweithwyr llawrydd a’n partneriaid â'r celfyddydau. Rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu penodi Gemma i'r rôl hon. Mae gan Gemma brofiad helaeth ac ymrwymiad diysgog, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut bydd y dyfodol i ni i gyd wrth i Gemma ddechrau ei swydd newydd yn arwain Glan yr Afon."

Dywedodd Gemma Durham, "Rwyf wrth fy modd o gael y swydd wych hon yng Nghasnewydd Fyw ac o allu gweithio gyda'r tîm gwych yn Glan yr Afon. Mae’n gweithio'n eithriadol o galed i gynnig cyfleoedd i bobl ledled y ddinas fod yn greadigol a mwynhau'r celfyddydau ac edrychaf ymlaen at y rôl y gallaf ei chwarae wrth weithio gydag ef i ddatblygu ein gweithgarwch artistig a diwylliannol ar draws dinas Casnewydd."

I gael gwybod mwy am Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon ewch i https://www.newportlive.co.uk/cy/lleoliadau/Canolfan-Theatr-a-Chelfyddydau-Glan-yr-Afon/  neu dilynwch Glan yr Afon ar y cyfryngau cymdeithasol yn @TheRiverfront ar Facebook neu @RiverfrontArts ar Twitter ac Instagram.

Mae Casnewydd Fyw yn sefydliad ac yn elusen nad yw’n dosbarthu elw sy’n cyflwyno rhaglenni chwaraeon a chelfyddydau hwyliog, cynhwysol a hygyrch yn ein cymuned ar gyfer plant, teuluoedd, ysgolion, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled y ddinas. Gallwch gael gwybod mwy am sut i gefnogi Glan yr Afon a Chasnewydd Fyw yma: https://www.newportlive.co.uk/cy/Amdanom-ni/Cefnogwch-ni/