Eleni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd yn cynnal eu dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar-lein gyda rhaglen o ddigwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y dydd ar ddydd Llun 8 Mawrth.

Gan nad yw'r theatr yn gallu agor oherwydd canllawiau'r llywodraeth, mae Glan yr Afon wedi penderfynu parhau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ystod y cyfnod heriol hwn drwy gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau gwych y gellir ymuno â hwy a'u mwynhau o gartref. Y thema ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 yw Dewis Herio, gan fod byd sy'n cael ei herio yn fyd effro ac o her y daw newid.

Meddai Swyddog Datblygu'r Celfyddydau Cymunedol a Chydlynydd Rhyngwladol Diwrnod y Menywod, Sally-Anne Evans 'Mae'n hyfryd i fod yn gweithio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eto eleni gan ei fod bob amser yn gyfle gwych i ddod at ein gilydd a dathlu. Eleni rydym am dynnu sylw at y creadigrwydd anhygoel yn ein cymunedau, ac rydym yn rhannu ein digwyddiad rhithwir gyda gweithgareddau anhygoel ar y diwrnod a thrwy gydol yr wythnos ganlynol. 

Rydym yn canolbwyntio ar ein hartistiaid, cerddorion a gwneuthurwyr benywaidd er mwyn rhannu eu gwaith, yn ogystal â chynnig dolenni i weithgareddau a gweithdai a redir gan grwpiau a phartneriaid eraill. Mae llawer wedi digwydd mewn blwyddyn, ond mae'n teimlo'n dda gallu rhoi llwyfan i bobl rannu a dathlu gyda'i gilydd. Yn fwy nag erioed mae'n teimlo fel bod ei angen arnom.'

Drwy gydol y dydd bydd amrywiaeth o weithgareddau'n cael eu cynnal o ffitrwydd i ysgrifennu, crefftau i gerddoriaeth, dawns i hunan-fyfyrio. Bydd cyfle i ddawnsio gyda Zumba Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 â choreograffi gan hyfforddwr Casnewydd Fyw Mandy Knight a'i dosbarth FitSteps fore Iau, a bydd dosbarth ffitrwydd Llif Ymarferol dwysedd isel byw yn cael ei gynnal gan hyfforddwr Casnewydd Fyw, Erin.

Bydd y darn perfformio 'Tripping Through Newport's Underbelly' a ddyfeisiwyd ac a berfformiwyd gan Marega Palser hefyd yn cael ei gyflwyno.  Mae'r darn BOSCH Observation hwn yn daith drwy danffyrdd, isffyrdd a rhai o’r parthau sydd rhyngddynt y mae pobl yn symud drwyddynt yn hytrach nag aros ynddynt. Mannau sy'n gartref i rai, tiroedd gwaredu sbwriel i eraill.  

Bydd digwyddiadau digidol a gynhelir gan bartneriaid Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2021 yn cael eu cyflwyno gan gynnwys gweithdy ysgrifennu therapiwtig, cwis tafarn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a sgwrs addysgiadol a chanu rhyngweithiol ar yr emyn 'The March of the Women.' Mae Glan yr Afon hefyd yn eich annog i gymryd peth amser a meddwl am yr hyn rydych chi'n Dewis Herio eleni, boed hynny'n herio rhagfarn rhyw neu annhegwch, dathlu cyflawniadau menywod neu'n newid yn eich bywyd eich hun i helpu i greu byd cynhwysol. Rhannwch sut rydych chi'n #DewisHerio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd dathliadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod Glan yr Afon yn dod i ben am 7pm gyda set gerddorol ddwyieithog wedi'i recordio ymlaen llaw, yn cynnwys y cyfarwyddwr opera a'r cynhyrchydd creadigol Rhian Hutchings yn perfformio ochr yn ochr â'r offerynnwr a'r gantores Stacey Blythe.

Ar ddydd Sadwrn 13 Mawrth mae Glan yr Afon mewn partneriaeth â Gŵyl Animeiddio Siapaneaidd Kotatsu yn cefnogi digwyddiad Gŵyl Ffilm WOW Kotatsu Shorts Clwb Ffilm y Menywod: Menywod yn Creu Animeiddio. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn sgrinio detholiad penodol o ffilmiau byr wedi'u hanimeiddio, a wnaed gan animeiddwyr benywaidd sy'n gweithio yn Siapan sy'n addas ar gyfer pob oedran. Bydd y tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys mynediad i weithdy creadigol byw ar Zoom gyda Chie Arai, animeiddiwr a darlunydd o Siapan, yn dangos i chi sut i dynnu llun merch mewn cimono.

Dysgwch fwy am y digwyddiadau hyn yma:  https://watch.eventive.org/wow2021/play/602e4314136d40003e56bd73

Yn yr wythnosau yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod bydd Glan yr Afon hefyd yn cyflwyno artistiaid, sefydliadau a grwpiau benywaidd ysbrydoledig yn ein cymunedau creadigol ar draws y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys perfformiad unigryw gan Aleighcia Scott.  Os hoffech gael eich cynnwys cysylltwch â sally-anne.evans@newportlive.co.uk gan rannu eich gwaith a rhoi gwybod i ni pam mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn bwysig i chi a beth fyddech chi'n #DewisHerio.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am raglen digwyddiadau Glan yr Afon ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol, Facebook.com/ TheRiverfront.

View the timetable for the day