Llwybr Camau Achredu
Gwnewch eich ffordd o Ddechreuwr i Gam 4 neu ewch cyn belled ag y dymunwch, mae gennym sesiynau galw heibio ar gyfer pob cam.
Cam 1 (Dechreuwyr)
Cyflwyniad gwych i feicio ar drac i ddechreuwyr, dim angen profiad blaenorol. Caiff beicwyr gyfarwyddyd llawn ar sut mae rheoli beic olwyn sefydlog a sut mae reidio ar drac pren ag ochrau serth.
Cam 2
Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar wella sgiliau a chodi hyder, cyflwyno beicio mewn grŵp a newid mewn llinell.
Cam 3
Mae’r cam hwn yn mireinio sgiliau beicio mewn grwp ac yn cyflwyno amrywiaeth o ddriliau a fydd yn ymestyn sgiliau a ffitrwydd beicwyr.
Cam 4 (Achredu Rasio)
Bydd gofyn i feicwyr sydd am gymryd rhan yng Nghynghrair Trac Casnewydd Fyw fynd i sesiwn Achredu Rasio lle asesir sgiliau sy’n benodol i rasio. Bydd y sesiwn hon yn cynnwys rasys ffug ac adborth gan yr hyfforddwr.
Cofiwch, bydd rhaid i hyfforddwr cam blaenorol neu sesiynau galw heibio gymeradwyo beicwyr os ydynt am gael prawf achredu. Nid yw’n bosibl mynychu sesiynau achredu heb hyn.
Dylai beicwyr sydd â chwestiynau am y broses achredu, neu feicwyr sydd â phrofiad Felodrôm awyr agored ac sydd am feicio dan do, gysylltu â ni ar 01633 656757 a gofyn am y Swyddog Datblygu Trac.
Oes gennych chi gwestiwn am ein llwybr?
Edrychwch ar atebion i rai o'n cwestiynau mwyaf cyffredin.
Cwestiynau CyffredinSesiynau Galw Heibio ar gyfer Beiciwyr sy’n Oedolion
Mae sesiwnau yma yn addas ar gyfer beicwyr 14 oed a hŷn. Gellir archebu’r sesiwn hon 7 diwrnod ymlaen llaw.
Os oes gennych gyfrif ar-lein archebwch sesiynau ar-lein gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Neu galwch 01633 656757 neu e-bostiwch [email protected]
Cam 1+
Beicwyr Brwd
Dyma sesiwn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd wedi bod mewn sesiwn Cam 1 ac sydd nawr am fireinio’u sgiliau a gwella’u ffitrwydd cyn mynd ymlaen i Gam 2.
Dydd Mawrth: 7 - 9:00pm
Cost: £11.50
Cam 3+
Hyfforddiant Gwydnwch a Sbrint (HGS)
Sesiwn dan arweiniad hyfforddwr ar gyfer beicwyr o bob safon. Bydd cynnwys y sesiynau’n amrywio yn ôl y tymor, a chaiff ei theilwra i ddiwallu anghenion y beicwyr sy’n mynychu bob wythnos. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar ddygnwch gyda driliau hirach, ond mae croeso i sbrintwyr.
Dydd Mawrth: 12 - 2pm
Cost: £11.50
Sesiynau Galw Heibio Cynnar
P'un a ydych yn chwilio am ymarfer egnïol neu reid gyson o amgylch y trac. Yn addas i feicwyr sydd am wella eu ffitrwydd a’u sgiliau yn barod ar gyfer achrediad.
Dydd Mercher: 7 - 9am
Cost: £11.50
Clwb Profiadol
Sesiwn y Clwb Profiadol ar gyfer beicwyr sydd wedi pasio Cam 3+.
Dydd Gwener: 6 - 8pm
Cost: £11.50
Ymdrechion Unigol / Sesiwn Sbrint a Gât Gychwyn
Sesiwn dan arweiniad hyfforddwr ar gyfer beicwyr o bob safon. Bydd cynnwys y sesiynau’n amrywio yn ôl y tymor, a chaiff ei theilwra i ddiwallu anghenion y beicwyr sy’n mynychu bob wythnos. Mae’r sesiynau’n canolbwyntio ar ddygnwch gyda driliau hirach, ond mae croeso i sbrintwyr.
Sylwer y bydd sesiynau ar y 30ain o Fehefin a'r 14eg a'r 21ain o Orffennaf 2022 yn cael eu cynnal rhwng 11am ac 1pm.
Ni fydd sesiwn ar y 7fed o Orffennaf 2022.
Dydd Iau: 12 - 2pm
Cost: £11.50
Archebwch Nawr
Sesiynau Derny Gosod Cyflymder
Bydd y sesiynau hyn yn cynnig cyfle i ddysgu crefft beicio â Derny ac yn galluogi beicwyr cryfach i wella eu cyflymder. Bydd angen eich beic a'ch tiwbdeiars eich hun arnoch.
Cynhelir y sesiynau bob dydd Sul o fis Hydref tan fis Rhagfyr. Edrychwch ar y dudalen Beth Sy’ Mlaen am fanylion.
Cost: £20
Archebwch drwy ddefnyddio'r ddolen isod, ffoniwch 01633 656757 neu anfonwch e-bost at [email protected].
Yn dychwelyd yn Hydref 2022!Cam 4+
Cynghrair y Trac
Mae Cynghrair y Trac yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas yn cynnwys cynghreiriau Ieuenctid a Meistri A, B, C.
Cynhelir y sesiynau o fis Hydref tan fis Chwefror, bob yn ail ddydd Mawrth Edrychwch ar y dudalen Beth Sy’ Mlaen am fanylion.
Cost: £15 y sesiwn neu £120 am floc o ddeg sesiwn.
Archebwch drwy ddefnyddio'r ddolen isod, ffoniwch 01633 656757 neu anfonwch e-bost at [email protected].
Yn dychwelyd yn Hydref 2022!Beicio Trac i Bobl Ifanc
Mae gennym ystod o sesiynau ar gyfer plant 10 i 16 oed i'w helpu i ddatblygu eu sgiliau a mynd ar y trac.
Mwy o wybodaeth