Ym mis Mai rydym yn cynnig Gwiriad Iechyd AM DDIM!

 

Ers i ni fod ar gau, yn dibynnu ar eich lefelau gweithgarwch corfforol, efallai bod eich nodau, eich iechyd a'ch lefelau ffitrwydd wedi newid. Ym mis Mai rydym yn cynnig Gwiriadau Iechyd AM DDIM sy'n ffordd wych o osod man cychwyn ar gyfer eich taith ffitrwydd!

Cynhelir y Gwiriadau Iechyd gan ein timau ffitrwydd cwbl gymwys gan ddefnyddio peiriannau InBody a Tanita o'r radd flaenaf sy'n mesur:

  • Pwysau
  • BMI (Mynegai Màs y Corff)
  • Braster y Corff 
  • Braster Perfeddol (Braster Peryglus o Amgylch yr Organau Mewnol)
  • Màs y Cyhyrau
  • Lefelau Hydradu
  • Dwysedd yr Esgyrn

Mae mesuriadau'r corff a gofnodir yn cael eu lanlwytho'n awtomatig i ap Iach ac Actif Casnewydd Fyw, gan eich galluogi i gadw golwg ar eich statws iechyd, rheoli eich rhaglen hyfforddi a rhannu eich data symud â'r tîm ffitrwydd i dderbyn cymorth hyfforddiant personol.

Cynhelir archwiliadau iechyd yn y lleoliadau canlynol: y Ganolfan Tennis a Nofio RanbartholFelodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chanolfan Casnewydd.:  

Gellir archebu profion iechyd ar-lein, trwy app Casnewydd Fyw dan ‘archebu gweithgareddau’ sydd wedi’i leoli dan ‘cymorth y gampfa’ neu drwy ffonio 01633 656 757.

​​Telerau ac Amodau’n Berthnasol. Mae Archwiliadau Iechyd ar gael i holl gwsmeriaid Casnewydd Fyw o 3 – 31 Mai 2021. Dim ond un archwiliad iechyd fesul cwsmer. Rhaid archebu Gwiriadau Iechyd ymlaen llaw drwy wefan Casnewydd Fyw, App Casnewydd Fyw neu drwy ffonio 01633 656757. Os oes gennych reolydd calon neu ddiffibriliwr wedi'i ffitio neu os ydych yn feichiog ni allwn gynnal Gwiriadau Iechyd oherwydd y defnydd o beiriannau InBody a Tanita fel rhan o'r asesiad iechyd.