oriel glan yr afon
Mae Oriel Glan yr Afon yn cynnal sbectrwm eang o arddangosfeydd celfyddydol amrywiol a chyffrous drwy gydol y flwyddyn. Rydym yn falch i gynnal arddangosfeydd gan artistiaid proffesiynol a datblygol, cerflunwyr, grwpiau cymunedol, ac ysgolion.
O ffotograffiaeth i ffilm, tecstiliau i graffeg, celfyddyd gain i gelfyddyd perfformio, mae'r oriel yn llwyfan perffaith i arddangos gwaith i'r cannoedd o ymwelwyr sy'n dod i Lan yr Afon bob wythnos.
Er nad yw Glan yr Afon yn gallu agor ei drysau ar hyn o bryd mae ffenestri'r lleoliad wedi'u trawsnewid a'u troi'n arddangosfa o waith celf y gellir ei edmygu o'r tu allan i'r adeilad. Ar hyn o bryd gallwch gweld y gwaith isod gan CONSUMERSMITH a rhai darnau sy'n weddill o Celf ar y Bryn 2020.

May love be what you remember most gan CONSUMERSMITH
Mae'r darn hwn, 'May love be what you remember most,' yn sefyll fel cofeb am fywyd a gollwyd yn ddiweddar. Yr henoed, y rhai sy'n agored i niwed, y bobl sy’n hunan-ynysu, y bobl unig, y gweddwon, y bobl mewn gofal na ellir ymweld â hwy drwy'r anhrefn byd-eang hwn a'r oes newydd.
Fe'i gosodwyd yn wreiddiol ar y stryd ond yna symudodd i'w leoliad presennol yng Nglan yr Afon, lle gellir ei weld o'r tu allan drwy'r gwydr.
Mae AJ Smith, sydd fel artist yn mynd o dan yr enw CONSUMERSMITH, yn creu gwaith sy'n llamu rhwng mynegiant haniaethol cyfoes a phortreadau celf pop/stryd. Mae'n beintiwr cyson sydd wedi gwerthu a chreu gwaith ledled y byd ac sy'n parhau i werthu a chreu gwaith ar gyfradd gyson - o gomisiynau preifat ar bapur neu gynfas i furluniau bach a mawr ar gyfer eiddo masnachol, ysgolion a chartrefi. Gyda'i wreiddiau mewn graffiti a chelf stryd, mae CONSUMERSMITH yn gwthio ffiniau hunanfynegiant gyda gwaith bywiog sy'n llawn symudiad, lliw a rhyddid.
"Mae symudiad a lliw yn deall ei gilydd'' - Consumersmith
Ymunwch!
Byddem wrth ein bodd i chi fod yn greadigol ar yr un thema a rhannu eich creadigaethau gyda ni!
Gallech dynnu llun, ysgrifennu cerdd, peintio, rapio, dawnsio neu unrhyw beth arall.
Anfonwch eich gwaith celf atom neu e-bostiwch gopi neu fideo at Sally-Anne Evans yn Sally-Anne.Evans@newportlive.co.uk neu i Glan yr Afon, Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 1HG erbyn 12 Chwefror.
Byddwn yn creu oriel o'r holl waith i bobl Casnewydd ei fwynhau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos yn ein horiel e-bostiwch sally-anne.evans@newportlive.co.uk neu ffoniwch 01633 656757.