Y diweddaraf ar Ganolfan Gelfyddydau a Theatr Glan yr Afon - 24 Mawrth


Diolch i'r holl gwsmeriaid am eich amynedd a'ch dealltwriaeth dros yr wythnos ddiwethaf wrth i ni geisio delio â sefyllfa anodd mor gyflym a hwylus â phosibl. Dros yr wythnos ddiwethaf rydym wedi bod yn gweithio i aildrefnu cymaint o'n perfformiadau sydd wedi'u canslo â phosibl.

Rydym wedi cysylltu â'r rhan fwyaf o'n cwsmeriaid drwy e-bost a dros y ffôn i roi diweddariadau iddynt ar eu hopsiynau o ran tocynnau, ond mae manylion rhai cwsmeriaid sydd gennym naill ai'n anghywir neu’n hen. Os nad ydych wedi clywed oddi wrthym eto, dilynwch yr arweiniad isod a gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru'r manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer.
 
Sioeau a aildrefnwyd
Mae'r sioeau isod wedi'u haildrefnu. Os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer unrhyw o'r digwyddiadau hyn, byddwn yn trosglwyddo tocynnau yn awtomatig i'r dyddiad newydd a bydd eich tocynnau yn parhau'n ddilys ac ni fydd eich rhifau sedd yn newid. Gwnewch nodyn o'r dyddiad newydd (gallwch ei ysgrifennu ar eich tocynnau os oes rhai gennych eisoes).

Os nad yw’r dyddiad hwn yn gyfleus, gallwn roi ad-daliad llawn i chi, cysylltwch â ni ar 01633 656679 neu 656757 neu e-bostiwch riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk fel y gallwn brosesu hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni ail-gymryd manylion eich cerdyn dros y ffôn. Ar hyn o bryd, ni allwn roi ad-daliad i chi mewn person.

Os ydych yn derbyn eich tocynnau, bydd angen i chi eu dychwelyd i'r swyddfa docynnau cyn y gallwn roi eu cyfnewid neu roi ad-daliad. Anfonwch y rhain yn ôl yn y post i Glan-yr-afon, Kingsway, Casnewydd, NP20 1HG.
 
Woman Like Me: Little Mix Show
22 Awst 2020
 
Owen Money’s Jukebox Heroes 3

26 Mawrth 2021
 
West Side Story 
Dyddiadau newydd - Dydd Iau 16 - dydd Sadwrn 18 Gorffennaf 2020
Byddwn yn trosglwyddo eich tocynnau’n awtomatig i’r dydd Iau neu ddydd Gwener cyfatebol ym mis Gorffennaf ond wrth gwrs mae croeso i chi newid i unrhyw o’r dyddiadau newydd. Rhowch wybod i ni erbyn 10 Ebrill os ydych am gael ad-daliad.
 
Day at Night: The Doris Day Songbook
2 Chwefror 2021
 
Back to Bacharach
9 Hydref 2020
 
Francis Rossi: I Talk Too Much
22 Ebrill 2021
 
Sioeau a ganslwyd
Mae'r sioeau isod wedi'u canslo. Os oes tocynnau gennych ar gyfer unrhyw o’r sioeau isod cysylltwch â ni ar 01633 656679 neu 656757 neu e-bostiwch riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk fel y gallwn brosesu eich ad-daliad, efallai y bydd yn rhaid i ni ail-gymryd manylion eich cerdyn dros y ffôn. Ar hyn o bryd, ni allwn roi ad-daliad i chi mewn person.

  • Ballet Cymru 2: Made in Wales 

  • Fagin?

  • Lost in the Rhythm 

  • National Dance Company Wales: KIN 

  • Pryd Mae’r Haf 

  • Chores 

 
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am statws ein sioeau eraill cyn gynted ag y bydd gennym fwy o wybodaeth. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth ar hyn o bryd.