Lansiwyd Sialens Cadw’n Heini Ysgolion Cynradd  gan Dîm Datblygu Chwaraeon Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw i helpu i wella lefelau ffitrwydd plant yn dilyn y cyfnodau cloi oherwydd y coronafeirws. 

Drwy Sialens Cadw'n Heini Ysgolion Cynradd  bydd Tîm Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw yn gweithio gydag athrawon ysgolion cynradd yng Nghasnewydd a'r ardaloedd cyfagos yn ystod blwyddyn academaidd 2020/21 i helpu i gadw plant yn hapus ac yn iach. 

Mae'r sialens yn gwahodd ysgolion i gymryd rhan mewn cyfres o heriau corfforol difyr a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd 2020 gyda 'Cyrraedd y Sêr', her naid seren yn seiliedig ar nifer y seddi sydd mewn lleoliadau chwaraeon yng Nghasnewydd. Gosodir sialensiau ar ddechrau pob mis ac maent yn addas ar gyfer pob grŵp blwyddyn a gallu. Mae wyth sialens i gyd a bydd y ddiwethaf yn digwydd ym mis Mehefin 2021. Bydd enw pob ysgol sy'n cymryd rhan mewn un neu ym mhob un o'r wyth sialensiau yn mynd i raffl i ennill bag o offer chwaraeon a chaiff tri enillydd eu dewis ym mis Gorffennaf 2021.

Lansiwyd y sialensiau yn dilyn y cyfnodau cloi oherwydd y coronafeirws a’r mesurau ymbellhau cymdeithasol sydd wedi dweud ar weithgarwch corfforol plant, gyda 35% o bobl ifanc dan 16 oed yn gwneud llai o ymarfer corff nag o'r blaen yn ôl arolwg gan Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ym mis Mehefin. 

Dywedodd Chloe Powton, Swyddog Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw, "Gan fod yr hinsawdd bresennol yn heriol a chanran uchel o lefelau ffitrwydd plant yn gostwng rydym wedi penderfynu gosod her gweithgarwch corfforol ddifyr i'w chwblhau bob mis i'r plant a'r athrawon yn ysgolion cynradd Casnewydd. Mae'r sialensiau'n addas ar gyfer pob grŵp blwyddyn a gallu, mae gan bob grŵp blwyddyn her ar lefel wahanol i'w chwblhau er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn ymgysylltu ar y lefel gywir."

Mae ein Tîm Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yn Casnewydd Fyw yn creu cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd. Maen nhw’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ac yn annog mwy o bobl i wirioni ar chwaraeon am oes. Mae parch mawr at y tîm yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ymhlith partneriaid fel Chwaraeon Cymru a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ac maent wedi ennill gwobrau a chael eu cydnabod am eu dyfeisgarwch a'u harfer da. 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru eich ysgol ar gyfer Sialens Cadw’n Heini Ysgolion Cynradd, ewch i wefan Casnewydd Fyw neu i dudalen Tîm Datblygu Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Casnewydd Fyw ar Facebook facebook.com/NLSportsDevelopment a  @nlsportsdev ar Twitter.