Mae Clwb Nofio Dinas Casnewydd a Dolphins Torfaen yn gweithio mewn partneriaeth i helpu i gadw nofwyr clwb yn y dŵr yn ystod y cyfnod cloi. Byddai cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd yr wythnos hon ledled Gwent wedi golygu na fyddai nofwyr yn Nhorfaen a Chasnewydd yn gallu mynychu eu sesiynau hyfforddi arferol y tu allan i'r ardal lle maent yn byw. Fodd bynnag, mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i alluogi nofwyr Casnewydd i hyfforddi gyda charfan Torfaen yng nghyfleusterau hamdden Torfaen, ac i'r gwrthwyneb gyda Chasnewydd Fyw, tra bo'r cyfyngiadau symud lleol mewn grym  yng Nghasnewydd.

 

Bydd nofwyr yn parhau i fod yn aelodau o'u clwb arferol, ond bydd hyn yn eu galluogi i barhau â'u hyfforddiant sy'n arbennig o hanfodol i'r rhai sy’n hyfforddi ar gyfer digwyddiadau a chystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae aelodau'r ddau glwb eisoes wedi methu â chael mynediad i byllau ers sawl mis yn ystod 2020 oherwydd bod canolfannau hamdden wedi'u gorfodi i gau yn gynharach yn y flwyddyn a bydd hyn yn lleihau ymyriad pellach i'w hyfforddiant. 

 

Mae'r bartneriaeth hon yn dangos enghraifft arall o sefydliadau chwaraeon yn dod ynghyd i helpu’r gymuned leol i gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, yn dilyn cyhoeddi menter Gwent Actif a gyflwynwyd yng Ngwent yr wythnos hon gan 5 darparwr hamdden lleol.

 

Dywedodd Julian Knight, Cadeirydd Clwb Nofio Dinas Casnewydd "Rydym yn falch iawn o gefnogi'r cyfle hwn i gadw ein nofwyr yn heini a’u helpu i gymryd rhan mewn hyfforddiant nofio.  Rwy'n falch iawn bod Dolphins Torfaen a Dinas Casnewydd wedi gallu creu'r bartneriaeth bwysig hon yn gyflym ac yn ddiolchgar am ymdrechion y rhai sydd wedi llunio'r fenter gyffrous hon yn ystod cyfnod heriol".

 

Dywedodd Paul McRae, Cadeirydd Dolphins Torfaen "Un o'n prif amcanion fu sicrhau nid yn unig y gallai ein nofwyr ddychwelyd i hyfforddi’n ddiogel ar ôl y cyfnod cloi, ond i weld sut arall y gallwn barhau i gynnig amser pwll yn ystod cyfyngiadau symud lleol. Daeth yn amlwg yn gyflym iawn fod ein gweledigaeth ni a gweledigaeth dinas Casnewydd yn cyd-fynd â hyn ac edrychwn ymlaen at feithrin cysylltiadau cryfach â Nofio Dinas Casnewydd yn y dyfodol. Diolch o galon o deulu nofio Dolphins Torfaen i bawb yng Nghasnewydd sydd wedi helpu i wneud hyn yn bosibl."

 

Bydd clybiau nofio’n cysylltu’n uniongyrchol â’r nofwyr y mae hyn yn effeithio arnynt i roi gwybod am y newidiadau a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i fynychu eu sesiynau newydd.

Mae Clwb Nofio Dinas Casnewydd a Dolphins Torfaen, yn ogystal â Chasnewydd Fyw ac Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, wedi rhoi mesurau ychwanegol ar waith gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol a diwygio'r amserlen i sicrhau bod pob nofiwr, staff a hyfforddwr yn gallu defnyddio'r pwll a hyfforddi'n ddiogel.

I gael gwybod mwy am Glwb Nofio Dinas Casnewydd neu Dolphins Torfaen ewch i http://www.newportswimmingclub.co.uk a https://www.torfaendolphins.com