Yn dilyn sesiwn friffio ddiweddaraf Lywodraeth Cymru a chyhoeddi’r cyfnod atal, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu y bydd lleoliadau Casnewydd Fyw yn cau am 5.30pm ddydd Gwener 23 Hydref ac ni fyddwn ar agor i'r cyhoedd tan ddydd Llun 9 Tachwedd.

Mae'r cyfleusterau a'r gwasanaethau a fydd yn cau ac yn cael eu hatal yn cynnwys:

·       Canolfan Tennis a Nofio Ranbarthol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd

·       Felodrom Genedlaethol Cymru Geraint Thomas, ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

·       Stadiwm Casnewydd ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd

·       Canolfan Casnewydd

·       Canolfan Byw’n Actif

·       Canolfan Gyswllt (ac eithrio ein rhaglen Addysg Amgen)

Bydd Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon, nad yw wedi gallu agor ers mis Mawrth, hefyd yn aros ar gau.

 

Aelodaethau

Os ydych chi’n aelod o Gasnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, caiff eich aelodaeth ei rhewi'n awtomatig o'r diwrnod y byddwn yn cau, mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol.

Aelodau Debyd Uniongyrchol

Os yw eich aelodaeth yn fyw ar adeg y cau gorfodol, byddwn yn casglu eich Debyd Uniongyrchol ar 1 Tachwedd 2020, i'w ddefnyddio pan fo ein cyfleusterau'n ailagor ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Sylwch y bydd y casgliad hwn am bris is fel y nodir isod.

Actif 60

 £   10.20

Actif Oedolyn

 £   17.00

Actif Oedolyn Oriau Tawelaf

 £   10.75

Dosbarthiadau Actif

 £   12.50

Actif Consesiwn

 £     9.20

Actif Corfforaethol

 £   14.00

Actif Teulu Cyflogai

 £     9.20

Actif Cyflogai

 £     9.20

Actif Teulu

 £   37.50

Actif Ffres

 £     8.00

Actif Iau

 £     8.50

Actif Myfyriwr

 £     9.20

Actif Nofio neu Ddosbarthiadau

 £   12.50

Y Genhedlaeth Nesaf

 £     8.00

Cerrig Camu

 £     9.20

Nofio 60

 £     7.50

 

I S P Academi Teulu 7a a 7b

 £     7.50

I S P Academi Teulu 8

 £     7.50

I S P Datblygu Teulu Glas

 £     7.50

I S P Datblygu Teulu Gwyrdd

 £     7.50

I S P Teulu Elit

 £     6.00

I S P Teulu Polo Dŵr Iau

 £     9.20

I S P Perfformiad Teulu Glas

 £     6.00

I S P Perfformiad Teulu Gwyrdd

 £     6.00

I S P Teulu Glas Posibl

 £     7.50

I S P Teulu Gwyrdd Posibl

 £     7.50

 

Os yw eich aelodaeth wedi ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.

Aelodau Cyfnod Penodol

Os yw eich aelodaeth yn fyw pan fyddwn yn gorfod cau, byddwn yn estyn dyddiad gorffen eich aelodaeth gan 17 diwrnod yn unol â'n dyddiadau cau gorfodol. Os yw eich aelodaeth wedi ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.

 

Aelodaeth o'r Rhaglen Nofio a Thennis Integredig

Os ydych chi’n aelod o’r Rhaglen Nofio neu Denis Integredig gyda Chasnewydd Fyw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau, caiff eich aelodaeth ei rhewi yn awtomatig o'r diwrnod yr ydym yn cau. Mae hyn yn berthnasol i aelodau misol, tymor penodol a blynyddol.

Os yw eich aelodaeth yn fyw ar adeg y cau gorfodol, byddwn yn casglu eich Debyd Uniongyrchol ar 1 Tachwedd 2020, i'w ddefnyddio pan fo ein cyfleusterau'n ailagor ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Sylwch y bydd y casgliad hwn am bris is fel y nodir isod.

Nofio

 

I S P Academi 7a

 £   15.00

I S P Academi 7b

 £   15.00

I S P Academi 8

 £   17.00

I S P Datblygu Glas

 £   18.00

I S P Datblygu Gwyrdd

 £   18.00

I S P Elit

 £   35.00

I S P Polo Dŵr a’r Gampfa Iau

 £   10.00

I S P Polo Dŵr Iau

 £     9.00

I S P Perfformiad Glas

 £   28.50

I S P Perfformiad Gwyrdd

 £   28.50

I S P Glas Posibl

 £   21.00

I S P Gwyrdd Posibl

 £   21.00

I S P Polo Dŵr

 £   12.00

I S P Polo Dŵr a’r Gampfa

 £   12.55

 

Tennis

Tennis Oedolion (x2 Wers y Mis)

 £   28.00

Gwersi Tennis i Oedolion

 £   14.00

Oren, Gwyrdd a Melyn Iau (x2 wers y Mis)

 £   25.50

Tennis Oren, Gwyrdd a Melyn Iau

 £   12.75

Tennis Coch Iau

 £   12.40


Os yw eich aelodaeth wedi ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.

 

Gwersi Nofio

Bydd yr holl wersi nofio yn dilyn ein cau yn cael eu rhewi ar unwaith a bydd y credydau presennol yn parhau i fod yn eu lle nes ein bod yn gallu ailafael yn y gwersi.  Os oes gennych chi ddebyd uniongyrchol ar gyfer gwersi nofio, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau.

Os yw eich aelodaeth Debyd Uniongyrchol yn fyw ar adeg y cau gorfodol, byddwn yn casglu eich Debyd Uniongyrchol ar 1 Tachwedd 2020, i'w ddefnyddio pan fo ein cyfleusterau'n ailagor ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Sylwch y bydd y casgliad hwn am bris is o £10.

Os yw eich aelodaeth wedi ei rhewi pan fyddwn yn gorfod cau, bydd yn parhau felly tan y dyddiad y cytunwyd arno.


Archebion a Digwyddiadau a Drefnwyd Ymlaen Llaw

Caiff pob archeb ei chanslo o 5.30pm ddydd Gwener 23 Hydref 2020 hyd at ddydd Llun 9 mis Tachwedd 2020. Os oedd eich gweithgaredd yn weithgaredd â thâl, byddwn yn trosglwyddo eich archeb i ddyddiad ac amser cyfleus o ddydd Llun 9 Tachwedd 2020, bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i drafod eich opsiynau. Os yw eich archeb yn rhan o 'archebu bloc' neu 'ddigwyddiad' mwy, eto bydd un o'n tîm mewn cysylltiad i drafod hyn gyda chi.

Gofynnwn i gwsmeriaid fod yn amyneddgar gyda ni yn ystod y cyfnod hwn gan fod gennym niferoedd mawr iawn i ymdrin â nhw.

 

Aros yn Actif a Chreadigol

Rydym yn deall pwysigrwydd gweithgarwch corfforol, ymarfer corff, cadw'n heini a chymryd rhan yn y celfyddydau a gweithgarwch creadigol arall a'i fod yn hanfodol i lesiant ein cwsmeriaid, yn enwedig ar yr adeg hon.

Cadwch yn ddiogel a chofiwch aros yn egnïol a bod yn greadigol tra byddwch gartref.  Byddwn yn rhannu cymaint ag y gallwn yn ddigidol i'ch cefnogi chi gyda hyn, gan gynnwys fideos gan rai o'ch hoff hyfforddwyr.

·       Ewch i'n gwefan yn www.casnewyddfyw.co.uk am fanylion am ddosbarthiadau a gweithgareddau ar-lein

·       Gallwch ddilyn Casnewydd Fyw ar Facebook, Twitter ac Instagram drwy @NewportLiveUK 

·       Cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr yn www.casnewyddfyw.co.uk

·       Lawrlwythwch ein app o Apple Store neu Google Play

 

Diolch

Hoffem ddiolch i'n holl gwsmeriaid am eich adborth cadarnhaol a’ch cydweithrediad. Er mai rhwystr bychan yw hwn, rydym wedi gweithio'n galed i gadw ein staff a’n cwsmeriaid yn ddiogel gyda mesurau ac arweiniad, ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn fuan iawn.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad ac elusen nid er elw, rydym yn ddiolchgar iawn am eich cefnogaeth barhaus. Dysgwch sut gallwch chi ein cefnogi yn www.casnewyddfyw.co.uk

Yn olaf, hoffem eich atgoffa i barhau i ddilyn y canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael yn https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu'n ôl i Gasnewydd Fyw ar 9 Tachwedd a pharhau i'ch ysbrydoli chi, bobl Casnewydd a thu hwnt i fod yn hapusach ac iachach. Am y newyddion diweddaraf, cadwch lygad ar ein gwefan a @NewportLiveUK ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os oes angen i chi gysylltu â ni pan fyddwn ar gau, anfonwch e-bost at enquiries@newportlive.co.uk, defnyddiwch ein gwasanaeth sgwrsio ar ein gwefan neu ffoniwch 01633 656757.