Toddler in swimming pool looking into camera

Nofio i Deuluoedd

Mae ein sesiwn nofio hwyliog i'r teulu yn berffaith ar gyfer teuluoedd â phlant iau sy'n awyddus i fwynhau'r pwll, ymarfer nofio a chael hwyl mewn amgylchedd cyfeillgar a diogel. Mae ein sesiynau yn ystod yr wythnos yn berffaith i blant bach a phlant cyn ysgol!

Caiff teuluoedd (hyd at 5 o bobl) chwarter o’r Pwll Addysgu yn y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol iddyn nhw eu hunain am 1 awr. 

Gellir archebu sesiynau nofio i deuluoedd wythnos ymlaen llaw ac nid ydynt yn addas i bartïon.

Edrychwch am Nofio i Deuluoedd ar ein tudalen Beth Sydd Ymalen i weld pa sesiynau sydd ar gael.

Mae’r sesiynau’n costio £4.35 i oedolion, £2.60 i bobl hŷn, £2.20 i blant, AM DDIM i blant bach dan 4 oed

Mae canllawiau goruchwylio plant yn berthnasol i bob sesiwn nofio i'r teulu.

Bydd pob teulu sy’n dod i sesiwn yn cael ystafell newid ar ôl iddynt nofio. 

939A8477-min.JPG

Tenis i'r Rhai Bach

Mae tenis tots yn ffordd hwyliog o gyflwyno plant i raced denis a hanfodion y gamp gan ddefnyddio gweithgareddau, ymarferion a gemau hwyliog.

Mae sesiynau wedi'u hanelu at ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydlyniant, gan ganolbwyntio ar fwynhad.

Caiff chwaraewyr gyfle i gwrdd â phlant eraill ac annog rhyngweithio cymdeithasol.

Bydd rhieni/gwarchodwyr yn cael eu hannog i ddod ar y cwrt i helpu eu plant gydol y sesiynau, felly gwisgwch esgidiau ymarfer os gwelwch yn dda. Mae'n ffordd wych i chi fod yn actif gyda'ch gilydd!

£4 y plentyn*

Ffoniwch 01633 656757 neu ewch i’r dderbyn fa i sicrhau lle.

*Offer wedi'i ddarparu.  Rhaid i oedolion fod yn bresennol yn ystod sesiwn.

Little girl in yellow dress dances as father watches on clapping

Gweithgareddau sy’n addas i fabis yng Glan yr Afon

Mae gennym ni weithgareddau a pherfformiadau sy’n addas i hyd yn oed aelodau ieuengaf y teulu yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon. Mae gennym ddangosiadau ffilm addas i fabis yn y sinema, For Crying Out Loud, a chlwb comedi yn ystod y dydd,  Aftermirth sy’n cynnwys comediwyr enwog sy’n malio dim os oes rhai bychain yn llefain neu’n gwingo.

Mae ein gweithdy hefyd yn cynnwys Hubble Music & Movement, gweithdy cyn oedran ysgol sy’n hwyl ac yn fywiog i bob oedran a gallu o fabis tua 6 wythnos i blant 5 oed.

Pool Parties

Partïon

Dathlwch ddiwrnod arbennig eich plentyn gyda Casnewydd Fyw! 

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth wych o bartïon i blant o bob oed, o bartïon chwarae meddal i blant bach i bartïon pwll nofio, felly beth am wneud rhywbeth ychydig yn wahanol a mwynhau parti pen-blwydd llawn hwyl gyda Casnewydd Fyw. 

Dim ond unwaith y flwyddyn y daw penblwyddi, felly beth am sicrhau ei fod yn ddiwrnod i'w gofio!

Lawrlwythwch ein Ap Casnewydd Fyw AM DDIM heddiw

Gweld ein hamserlenni, archebu sesiynau Plant Bach Actif, Nofio i Deuluoedd a gweithgareddau eraill tra byddant ar y symud.

mobile phones displaying the newport live app