Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn lansio’r Gyfres Llysgenhadon Ifanc ar-lein ar 1 Mehefin sy’n annog plant a'u teuluoedd i fod yn hapus ac yn iach gartref!

Mae’r Gyfres Llysgenhadon Ifanc yn cynnwys 10 fideo, sy'n cynnwys syniadau am gemau, heriau sy'n gysylltiedig â chwaraeon a sesiynau Holi ac Ateb wedi'u recordio o flaen llaw. Bydd cyfres un yn cael ei chyflwyno gan y Llysgenhadon Ifanc Rhiannon ac Eleri. Mae'r ddwy ohonynt wedi bod yn gwirfoddoli gyda Casnewydd Fyw ers sawl blwyddyn. Bydd y fideos yn cael eu rhyddhau'n wythnosol ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Datblygu Chwaraeon Casnewydd Fyw gan ddechrau 1 Mehefin. Mae'r fideos yn addas i rieni sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau llythrennedd corfforol eu plant gartref, neu sydd eisiau rhoi cynnig ar weithgaredd chwaraeon newydd fel teulu. Bydd cyfres dau yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac yn cael ei chynnal gan y Llysgenhadon Ifanc Alfie ac Ethan.

Ariennir y rhaglen Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru gan y Loteri Genedlaethol ac mae'n cael ei rhedeg fel partneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru, yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid a'r tîm datblygu chwaraeon ym mhob Awdurdod Lleol. Ar hyn o bryd, mae dros 4000 o Lysgenhadon Ifanc mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.  Maent yn awyddus i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol ac ar lefel genedlaethol, maent yn creu ac yn darparu cyfleoedd i'w cyfoedion a hyd yn oed oedolion i fod yn gorfforol egnïol drwy chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Yn ei dro, mae'r rhaglen yn rhoi hyder a sgiliau i bobl ifanc fod yn arweinwyr chwaraeon y dyfodol. 

Dywedodd Lauren Bourne, Swyddog Datblygu Cynorthwyol Tîm Datblygu Chwaraeon Cymunedol Casnewydd Fyw "Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd wrth i effeithiau’r coronafeirws weld cyfnodau cloi a mesurau cadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar lefelau gweithgarwch corfforol pobl. Ysbrydolodd hyn ein Llysgenhadon Ifanc i gynllunio a chynhyrchu cyfres o fideos ar-lein sy'n cynnwys syniadau am gemau a heriau chwaraeon dan yr enw Cyfres y Llysgenhadon Ifanc er mwyn helpu plant a theuluoedd i fod yn hapusach ac yn iachach gartref. Bydd y prosiect yn cael ei lansio ar 1 Mehefin ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Datblygu Chwaraeon Casnewydd Fyw a byddant yn rhedeg am 10 wythnos, gan arwain at gyfres o sesiynau Holi ac Ateb gyda'n Llysgenhadon Ifanc."

Mae Tîm Chwaraeon a Lles Cymunedol Casnewydd Fyw yn darparu cyfleoedd datblygu chwaraeon i blant, teuluoedd, ysgolion, cymunedau, clybiau chwaraeon a grwpiau lleol ledled Casnewydd.  Maen nhw’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol ac yn annog mwy o bobl i wirioni ar chwaraeon am oes, wrth gyfrannu at wella iechyd a lles meddyliol y boblogaeth.

Gan fod Casnewydd Fyw yn sefydliad elusennol, mae ei holl gwsmeriaid a'i aelodau yn helpu i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau a gweithgareddau cymunedol ledled Casnewydd.  

I gael rhagor o wybodaeth am y Gyfres Llysgenhadon Ifanc, ffoniwch 01633 287695 neu e-bostiwch volunteer@newportlive.co.uk.