Ionawr
Ar ôl ein cyfnod Nadolig hynod lwyddiannus, roedd mis Ionawr yn gyfle i baratoi’r adeilad ar gyfer cynlluniau mawr 2023. Cafodd y peiriannau llwyfan yn y theatr eu hailwampio’n llwyr a chafodd y seler ei thacluso cyn y gosodwaith eleni.
Er bod y prif lwyfan yn dawel, ailddechreuodd y gweithdai a’r gweithgareddau amser tymor. Bob wythnos rydyn ni’n croesawu pobl o bob oed i ymuno â ni mewn amrywiaeth o weithgareddau, o glybiau crefftau i gorau llesiant, dosbarthiadau drama i blant a sesiynau crefft ymladd. Mae 'na wastad rhywbeth yn digwydd.
Chwefror
Croesawyd perfformwyr anhygoel i'r llwyfan ym mis Chwefror gan gynnwys G Expressions gyda'u drama wreiddiol o'r enw 'School of Urban Arts'; Cwmni Greedy Pig gyda'u perfformiad 'Peacock', sef drama seiliedig ar y tabŵ o ran dynion yn gwisgo colur; a Krystal Lowe, Nadia Nur, Karema Ahmed a Stephanie Stevens gyda 'Our Voice Sharing 2023'. Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddatblygu'r celfyddydau, rydyn ni wrthi'n ychwanegu perfformiadau penodol i gefnogi twf y celfyddydau yn ninas Casnewydd.
Bu nifer o artistiaid yn cyflwyno eu gwaith yn ein hadeilad yn ystod mis Chwefror. Daeth arddangosfa Casnewydd, Natur a Phobl i'n horiel am y mis. Mae hon yn arddangosfa ddifyr o ffotograffiaeth, celf, barddoniaeth a ffilmiau sy'n dathlu ‘Natur Casnewydd’. Roedd y prosiect yn cynnwys cymunedau a gwirfoddolwyr o bob rhan o Gasnewydd ac mae wedi cael effaith enfawr o ran adfer cynefinoedd a diogelu pryfed sy’n peillio.
Croesawon ni'r artist lleol Naz Syed a'i harddangosfa pomponau 'Azadi', sy'n golygu rhyddid. Mae Naz yn artist gweledol balch Cymreig ac Iranaidd sy’n gymdeithasol weithgar. Bu ei harddangosfa yn dathlu cymuned yn ogystal â diwylliant a threftadaeth Persia gyda phomponau pert yn cynrychioli undod, diolchgarwch a gobaith i bob cwr o'r byd.
Ar 9 Chwefror daeth yr arddangosfa 'We are Here, Because You were There' i Lan yr Afon gan gynnwys trafodaeth banel, gweithdai, a chyfle i weld ffilm ar ochr yr adeilad. Mae'r gweithiau’n defnyddio portreadau a dyfyniadau i ddogfennu profiadau cyfieithwyr o Afghanistan a gyflogwyd gan y Fyddin Brydeinig sydd bellach wedi cael eu hailgartrefu yn y DU.
Gwnaeth yr artist, Steph Roberts barhau â'i phrosiect 'Achub Ein Moroedd', gan wahodd pobl o bob oed i gwblhau'r mosaig pysgod gan ddefnyddio cerflun o bysgod a fu’n sefyll gynt yng Nghanolfan Casnewydd. Nod gwaith Steph yw codi ymwybyddiaeth o beryglon llygredd dŵr a'r effaith mae'n ei gael ar anifeiliaid.
Ar 14 Chwefror, cyhoeddon ni’r rhodd Dydd Sant Ffolant gorau posibl... Beauty and the Beast. Wedi'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Richard Gauntlett, sef y dyn y tu ôl i Robin Hood llynedd. Cyhoeddon ni hefyd ailddyfodiad un o gewri Casnewydd, sef Richard Elis. Mae Beauty and the Beast yn dod i lwyfan Glan yr Afon yn ddiweddarach eleni, o 29 Tachwedd i 6 Ionawr i gyd-fynd yn hyfryd â’r cyfnod Nadoligaidd.
Diolch i'n tîm datblygu creadigol, fel yr arfer, cawson ni amserlen llawn dop o weithgareddau ar gyfer hanner tymor mis Chwefror. Cawsom ni Glwb Creadigol efo’r Urdd, Susannah Sewing, Tots Valentines Disco, Clwb Sinema, Heidi’n Creu, Sioe Sam Tân ac fe orffennon ni'r wythnos gyda sesiwn Sadwrn Crefftus brysur. Roedd y rhan fwyaf o'r gweithdai hyn yn llawn sy’n anhygoel. Gyda chymaint o gyfleoedd gwych yng Nglan yr Afon, rydym am i gymaint o bobl â phosibl wybod amdanyn nhw a chymryd rhan ynddyn nhw.
Diolch i GAVO a Chyngor Dinas Casnewydd rydyn ni bellach yn gallu cynnig ein sesiynau Sadwrn Crefftus fel Hwb Cynnes yng Nghasnewydd. Rydyn ni’n cynnig gofod diogel, cynnes a bwyd a diod am ddim i'r gymuned leol yn ystod y sesiynau.
Mawrth
Mae 1 Mawrth yn ddyddiad allweddol yng nghalendr Cymru a doedd dathliadau Glan yr Afon ddim yn siomi. Ymunodd ein côr llesiant â ni ar Ddydd Gŵyl Dewi i wneud perfformiad i bawb yn y cyntedd. O anthem genedlaethol Cymru i ganu eu gwaith eu hunain, roedd yn bleser eu clywed a llenwon nhw’r adeilad â llawenydd.
Ar 3 Mawrth lansion ni Pride y Porthladd 2023. Daeth y trefnwyr a'u cefnogwyr i Lan yr Afon i gyhoeddi y bydd yr ŵyl yn dychwelyd ar 2 Medi ar gyfer digwyddiad deuddydd drwy ganol dinas Casnewydd - gan gynnwys Parêd Pride cyntaf y ddinas.
Yn ystod yr un wythnos, roeddem yn gyffrous iawn i lansio ein prosiect ieuenctid newydd, 'Future Creatives'. Mae croeso i bob oedolyn ifanc rhwng 17 a 24 oed gyfarfod yn wythnosol trwy gydol mis Mawrth ac Ebrill 2023, a bydd unigolion yn cael cyfle i feddwl am syniadau newydd mewn ffyrdd cyffrous, gan greu gwaith celf sy'n ymateb i'r byd fel y mae. Mae'r sesiynau hyn yn rhedeg bob dydd Mawrth o 6.30pm tan 18 Ebrill.
Dyddiad allweddol arall yn y dyddiadur yw ein digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod blynyddol, lle mae croeso i unrhyw un o gwbl ymuno â ni i ddathlu menywod ym mhob man. Fel pob blwyddyn arall, roedd y digwyddiad eleni yn llwyddiant ysgubol. Gwnaethon ni groesawu artistiaid lleol i gynnal gweithdai creadigol, grwpiau dawns a chorau a fu'n perfformio ar gyfer y dorf ac unigolion allweddol o fewn y gymuned, gan gynnwys Maer a Maeres Casnewydd, y Cynghorydd Jayne Mudd, Heddlu Gwent, Menywod Casnewydd a llawer mwy. O gyflwyniadau pwerus gan Danielle Webb, Kay Williams a Fatmanur Aksoy i berfformiadau gan gymuned Roma Life, roedd y digwyddiad yn ysbrydoliaeth heb os nac oni bai.
Digwyddiad Azadi gan Naz Syed oedd yn cloi. Roedd yn ddathliad o ddiwylliant Persaidd. Roedd yn noson bwerus, emosiynol gyda cherddoriaeth, gair llafar a gweithredu drwy grefftau oll yn annog undod ag Iran. Roedd y digwyddiad hwn yn uno cymaint o bobl a safodd ynghyd mewn undod â menywod, dynion a phlant chwyldro Iran.
Yn ein digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Menywod lansiwyd hefyd arddangosfa Windrush Cymru 'Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes’. Mae'r arddangosfa hon yn cynnwys straeon dros 40 aelod o Genhedlaeth Windrush Cymru, wedi eu hadrodd yn eu geiriau eu hunain. Mae'r arddangosfa’n gyfle i ymwelwyr ddysgu am eu teithiau i Gymru, a'r heriau wrth adeiladu bywyd newydd mewn gwlad ymhell o'u cynefin – dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.
Parhaodd prysurdeb y prif lwyfan gyda pherfformiadau gan y cyflwynydd podlediad a'r digrifwr teledu, Mike Bubbins, y cyflwynydd bywyd gwyllt Gordon Buchanan, a pherfformwyr cyn-broffesiynol o Ballet Cymru gyda'u perfformiad, 'Gwnaed yng Nghymru'.
Mae'r tri mis diwethaf wedi bod yn brysur, ac rydym wedi gweld cymaint o wynebau yn yr adeilad, hen a newydd. Os hoffech fod yn rhan o unrhyw weithgareddau yng Nglan yr Afon, cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.
