Mae Llwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) yn gyfres o ddigwyddiadau a gosodiadau creadigol dan arweiniad yr artist Alison Neighbour, sy'n archwilio'r effaith y gallai codiad yn lefel y môr ei chael ar arfordir Cymru, a'n perthynas â thir a dŵr. Yn y prosiect bydd Alison yn cydweithio â chymunedau lleol sy'n byw o fewn parthau rhynglanwol Casnewydd a Magwyr yn y dyfodol, gwyddonwyr hinsawdd lleol a chydag arbenigwyr yn y Sundarbans lle mae codiad lefel y môr eisoes yn fygythiad dyddiol.
O ddydd Iau 28 Ebrill bydd cerflun goleudy yn cael ei osod ar hyd glan yr afon yng Nghasnewydd y tu allan i Theatr a Chanolfan y Celfyddydau Glan yr Afon. Bydd y cerflun ar safle’r llinell dŵr uchel bosibl yn y dyfodol a bydd yn ymateb i ddata llanw o Fae Bengal. Pan fydd y llanw'n uchel yno bydd y golau'n fflachio rhybudd am ein dyfodol yma yng Nghymru.
Mae'r prosiect yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ddiffyg sefydlogrwydd y tir y mae llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol, ac i agor sgwrs am lifogydd, codiad lefel y môr, ac addasu yng Nghasnewydd a thu hwnt.
Ochr yn ochr â gosodiad y goleudy mae'r rhaglen yn cynnwys teithiau cerdded a gweithgareddau creadigol sy'n canolbwyntio ar y daith o'r draethlin bresennol i'r dyfodol.
Gwahoddir cymunedau i gerdded gyda'i gilydd o fewn parth rhynglanwol posibl y dyfodol, i ddogfennu, rhannu straeon, a dechrau sgyrsiau am ddyfodol y lle hwn wrth i ni geisio cydnabod ac addasu i'n harfordir symudol. Ategir lansiad y goleudy gan raglen o ddigwyddiadau am ddim yng Nghasnewydd a Chors Magwyr sy'n addas i deuluoedd, ac mae manylion llawn am y rhain i'w gweld yn https://www.futurecoastpath.org/events.
Drwy'r teithiau cerdded a'r ymgynnull creadigol hyn bydd y prosiect yn ystyried sut rydym yn addasu i dirwedd sy'n newid a bydd yn gorffen gyda chreu "Canllaw i’r Dyfodol" aml-blatfform a grëwyd o gyfraniadau cerddwyr gydol y flwyddyn. Gall cerddwyr ymuno â'r digwyddiadau neu gerdded yn eu hamser eu hunain, a chânt eu gwahodd i rannu eu teithiau a'u darganfyddiadau. Mae'r prosiect hefyd yn chwilio am grŵp o "Geidwaid Goleudy" i fod yn ffrindiau cerdded gyda cherddwyr yn Sundarbans Indiaidd.
Meddai Alison Neighbour: 'Deilliodd y syniad am y goleudy hwn o awydd i ganu’r gloch, i ddechrau sgwrs, i gysylltu pobl â’i gilydd i feddwl am sut y gallwn addasu i'r dyfodol. Roeddwn am droi'r syniad hwn o dir anhydrin yn y dirwedd ei hun yn rhywbeth diriaethol, fel y gellir ei deimlo mewn ffordd na all map neu erthygl papur obeithio ei wneud. Fe'i bwriedir fel pwynt cydgyfeirio, man cwrdd a chanfod, a safle o bererindod, o'r draethlin yn y gorffennol i'r dyfodol.'
Gwnaed y prosiect hwn yn bosibl diolch i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwastadeddau Byw, Newport Fusion, Cefnogaeth mewn nwyddau gan Pervasive Media Studio a Phartneriaeth Aber Afon Hafren.
Anogir ymwelwyr i ddod draw i weld y cerflun goleudy y tu allan i Ganolfan Glan yr Afon o ddydd Iau 28 Ebrill. Mae rhagor o wybodaeth am Lwybr Arfordir Cymru (y Dyfodol) ar gael yn http://www.futurecoastpath.org. I gymryd rhan, anfonwch e-bost at Futurewalescoast@gmail.com.