Oherwydd y glaw trwm yn ddiweddar, achoswyd rhywfaint o ddifrod i Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon gan arwain at gau'r sinema a rhai newidiadau i'w rhaglen arferol o ddigwyddiadau.
Y prif ardaloedd gafodd eu heffeithio oedd theatr y stiwdio ac un o ddesgiau'r swyddfa docynnau, gan arwain at ganslo’r holl ddangosiadau sinema.
Cysylltwyd â chwsmeriaid a brynodd docynnau i unrhyw ddangosiadau sinema, gweithdai neu ddosbarthiadau yn ystod y cyfnod dan sylw gan y tîm gwasanaeth cwsmeriaid, naill ai i ail-drefnu neu gynnig ad-daliadau.
Mae Glan yr Afon yn falch o gyhoeddi bod y sinema, yr unig un yng Nghanol Dinas Casnewydd, bellach wedi ailagor ac wedi dychwelyd i'w raglen amrywiol arferol gyda dangosiadau sy'n cynnwys ffilmiau newydd, ffefrynnau teuluol, ‘art house’ a rhaglenni dogfen. Mae prisiau’r tocynnau yn dechrau mor isel â £3.50 ac mae aelodau Casnewydd Fyw yn cael 2 docyn am 1!
Yn ôl Glan yr Afon mae gwaith yn parhau mewn ardal fechan, ond nid yw ei digwyddiadau na’i gweithgareddau wedi eu heffeithio.
Cymerwch olwg ar beth sydd ymlaen dros yr wythnosau nesaf:
For Crying Out Loud Baby Screening: See How They Run (12A)
Tad The Losdt Explorer and the Curse of The Mummy (U)
For Crying Out Loud Baby Screening: Ticket To Paradise (12A)