Y mis Chwefror hwn, mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn hynod falch o gefnogi ‘Ein Llais 2023’, digwyddiad rhannu anffurfiol blynyddol Rhwydwaith Ein Llais | Our Voice Network yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, ddydd Sadwrn 25 Chwefror, gyda dehongliad llawn mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan Nez Parr.

Heb risg, ni all celfyddyd arloesi; ni all ddatblygu, ac ni all yr artist gyrraedd eu llawn botensial. Mae digwyddiad rhannu Ein Llais 2023 yn rhoi cyfle i artistiaid gymryd risg mewn ystafell llawn pobl sydd yno i ymgysylltu â’r broses, ac nid dim ond i wylio cynhyrchiad.

Bydd y digwyddiad rhannu hwn yn darparu gofod i lwyfannu artistiaid, ac i ddod â phobl at ei gilydd i gysylltu a thrafod eu hangerdd dros y celfyddydau a diwylliant.

Artistiaid rhannu Ein Llais 2023 yw: enillwyr Bwrsari Ein Llais – Karema Ahmed, cantores a chyfansoddwr caneuon, a Stephanie Stevens, actor, awdur, cantores; ynghyd â’r actor a’r awdur Nadia Nur; a Krystal S. Lowe, dawnsiwr, coreograffydd, a sefydlydd Rhwydwaith Ein Llais.

Mae’r holl incwm o werthiant tocynnau’n mynd tuag at ariannu gwaith Rhwydwaith Ein Llais | Our Voice Network.

Mae Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais yn bodoli i rymuso, datblygu a llwyfannu artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang drwy gyfleoedd datblygiad proffesiynol, digwyddiadau arddangos a bwrsarïau. Ewch i krystalslowe.com/our-voice-network am ragor o wybodaeth.

Meddai Krystal S. Lowe, ‘Bydd pob un ohonom ni, yr artistiaid, yn rhannu darn o waith celf anorffenedig, heb ei berffeithio, drwy ganu, actio, a/neu ddawnsio – mae’r cyfan yn waith rydym ni wedi ei ysgrifennu a’i ddatblygu ein hunain. Es ati i sefydlu’r digwyddiad rhannu blynyddol hwn i greu gofod er mwyn i artistiaid rannu’r broses o greu eu gwaith, yn hytrach na’r gwaith gorffenedig; ac fel bod modd i’r rhai sy’n caru celf gael gofod ymlaciol i’w hastudio ochr yn ochr ag artistiaid, gan fwynhau paned a sgwrs yr un pryd!’

Cynhelir digwyddiad rhannu Ein Llais | Our Voice 2023 yn Theatr Stiwdio Glan yr Afon, Casnewydd, ddydd Sadwrn 25 Chwefror am 6.00yh. Mae tocynnau ar gael yn awr trwy ffonio 01633 656757, neu cliciwch yma.

Our Voice 2023 RF Landscape